Mam i bedwar o Wynedd yn cael ei dedfrydu ar ôl esgeuluso ei phlant
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Wynedd wedi derbyn gorchymyn cymunedol o 18 mis ar ôl cyfaddef i bedwar cyhuddiad o esgeuluso plant.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod dau o'i phlant wedi eu canfod yn noeth yn eu cartref, lle cafwyd hyd i ysgarthion mewn ystafell wely ac mewn ystafell ymolchi.
Roedd y fam i bedwar, nad oes modd ei henwi oherwydd cyfyngiadau cyfreithiol, wedi cyfaddef y cyhuddiadau ar ôl i gymdogion godi pryderon ar ôl i larwm dân seinio am amser hir.
Wrth ddod o hyd i offer cegin yn toddi ar y popty, gwelodd cymdogion ddau o blant yn noethlymun yn y tŷ.
Nid oedd y diffynnydd “yn deall yr hyn a ofynnwyd iddi” pan holodd cymdogion am leoliad ei phlant eraill, gan ganfod un yn cysgu yn yr ystafell fyw.
- Cyhoeddwyd19 Medi
Yn ddiweddarach daeth yr heddlu o hyd i sbwriel sylweddol ar y llawr, clytiau budr, potel wydr wedi torri a’r bath “wedi’i daenu mewn carthion” - roedd olion traed hefyd yn dangos bod plentyn wedi cerdded drwy’r baw.
Roedd meddyginiaethau hefyd wedi'u gweld “yn hawdd o fewn cyrraedd plentyn”, gyda larwm mwg yn y lolfa hefyd wedi ei orchuddio gan fag plastig.
Dywedodd y diffynnydd ei bod wedi disgyn i gysgu ac wedi “panicio”, ond cyfaddefodd yn ddiweddarach ei bod yn “ei chael hi’n anodd ymdopi”.
Gan nodi ei bod hi fel arfer yn glanhau’r tŷ bob wythnos, roedd hi’n “gwybod ei fod yn dipyn o lanast”.
'Llanast afiach'
Clywodd y llys fod gan y diffynnydd “anghenion cymhleth” a’i bod “angen help”, yn byw gyda “nifer o gyflyrau iechyd meddwl” ac wedi dioddef trawma tra'n blentyn.
Dywedodd hefyd ei bod yn caru ei phlant a'i bod yn gobeithio adfer cysylltiad â nhw yn y dyfodol.
Cafodd yr amodau yn y cartref eu disgrifio gan y Barnwr Timothy Pets fel rhai “aflan” a bod “llanast afiach”, ond gwnaeth hefyd gydnabod fod gan y diffynnydd “broblemau iechyd meddwl sylweddol”.
“Wnaethoch chi ddim ymdopi â pha mor ddrwg oedd pethau’n mynd,” meddai.
“Mae angen cyfnod hir gyda gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol.”
Gan gydnabod ei bod “wedi cymryd camau breision tuag at roi trefn ar ei bywyd”, cafodd orchymyn cymunedol 18 mis a bydd hefyd yn cael cynnig cymorth iechyd meddwl.
Bydd hefyd yn ofynnol iddi wisgo tag electronig am 120 diwrnod i fonitro ymataliad alcohol a chwblhau 100 o oriau o waith di-dâl.