Gwneud mêl ar ben un o adeiladau eiconig Y Senedd
- Cyhoeddwyd
Gwleidyddion, newyddiadurwyr, gweision sifil, y cyhoedd... mae 'na ddigon o bobl sy'n cadw golwg ar beth sy'n digwydd yn Y Senedd ond mae ‘na un math o waith does prin neb yn ei weld.
Oherwydd mae criw o staff Senedd Cymru yn cadw gwenyn ar ben un o adeiladau eiconig Bae Caerdydd ac yn gwerthu’r cynnyrch.
Mae’n ffordd o ymlacio a lleihau pwysau i staff, yn annog dod i adnabod gweithwyr mewn rhannau eraill o’r gweithle - ac mae’n rhoi hwb i’r amgylchedd ar yr un pryd.
100 jar y flwyddyn
Fe ddechreuodd y prosiect nôl yn 2018 wedi i griw oedd yn gwybod dim am gadw gwenyn gael cyngor gan dîm o Brifysgol Caerdydd oedd yn gwneud prosiect am wenyn mewn ardaloedd trefol.
Gyda chymorth eraill yn yr ardal oedd yn brofiadol yn y maes fe osodwyd nifer o gychod gwenyn ar ben adeilad y Pierhead, casglu digon o staff oedd yn fodlon gwirfoddoli a dechrau arni.
Erbyn hyn maen nhw’n gwerthu 100 jar o fêl y flwyddyn - y rhan fwya’ yn cael eu prynu gan aelodau staff Y Senedd - ac mae’r elw yn mynd yn ôl i’r prosiect.
Dros y blynyddoedd mae’r staff wedi dysgu am fyd natur - a’u cyd-weithwyr.
“Mae’n cael ei redeg gan staff yn gwirfoddoli eu hamser ac mae o wedi bod yn ffordd dda o dorri ar draws adrannau,” meddai Matthew Jones, Rheolwr Cynaliadwyedd Senedd Cymru.
“Rydyn ni wedi cael pobl sy’n staff cynorthwyol, y staff gwleidyddol, diogelwch a swyddogion fyddai ddim fel arall wedi gweithio gyda’i gilydd i gyd yn sgwrsio ac yn dod i adnabod ei gilydd.”
Gwneud lles i'r amgylchedd
Ychwanegodd bod y cyfan wedi bod yn gatalydd i hybu bioamrywiaeth stad y Senedd hefyd.
Roedd yr ardaloedd o wair a blodau sy’n tyfu ar y stad yn arfer cael eu torri yn aml, ond erbyn hyn maen nhw’n cael eu gadael i dyfu am gyfnodau llawer hirach er mwyn i’r gwenyn gael amser i gasglu paill o’r blodau.
Aelod arall o’r tîm ydi Llŷr Wilson-Price, sy’n cael atgofion melys o’i blentyndod wrth weithio ar y prosiect.
Meddai: “Rwy’n cofio mynd pan o’n i’n iau i helpu fy nhad-cu oedd efo tua 15 cwch gwenyn.
"Ro’n i’n cael rhoi’r wisg ymlaen a Tad-cu yn dweud wrtha i beth i’w wneud… dwi ddim yn meddwl mod i wedi newid llawer yn fy ffordd o gadw gwenyn - dilyn ordors fydda i.
“Roedd Tad-cu yn cadw gwenyn am ddegawdau ac roedd bob tro’n neis mynd i ymweld ag e yng ngorllewin Cymru.
“Pan nes i glywed am y prosiect gwenyn - neu y B Team - roedd yn neis i fod yn rhan ohono. Chi’n cyfarfod pobl mewn timau gwahanol.
“Ma’n neis i dorri fyny’r diwrnod efo rhywbeth sy’n hollol wahanol. Pan dwi’n sôn wrth y tîm mod i’n mynd i wneud rhywbeth efo’r gwenyn maen nhw i gyd yn genfigennus.
"Mae rhywun yn dal i wneud rhywbeth ond mae'n hollol wahanol i’r sgrin cyfrifiadur.
“Mae’n clirio’ch meddwl ac yn gwneud i chi feddwl am rywbeth arall - ac fel arfer yn gallu mwynhau’r golygfeydd o’r Bae.”
Yn ogystal â chasglu’r mêl mae’n rhaid cadw golwg ar y gwenyn yn y cwch, sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o le wrth iddyn nhw dyfu, rhoi bwyd iddyn nhw ac edrych allan am afiechydon.
Un fantais sydd gan y gweithle ydi bod gwahanol arbenigedd gan aelodau o’r staff a'u cydweithwyr felly pan oedd angen label ar gyfer y jariau, er enghraifft, roedd 'na bobl ar gael i helpu.
“Mae’r tîm brandio wedi gwneud delwedd neis i’r labeli, ac mae’r elw o bob dim sy’n cael ei werthu i gyd yn mynd yn ôl i’r prosiect,” meddai Matthew.
Ac i Llŷr mae’n fwy na ffordd i ymlacio a dod i adnabod pobl.
Mae’n cynyddu ei ddealltwriaeth o’r gwenyn - ac yn ffordd o ddysgu mwy cyn penderfynu os yw am gadw gwenyn ei hun yn y dyfodol.
Meddai Llŷr: “Mae o’n sicr yn rhywbeth fyddwn i gyda diddordeb cadw. Fyddwn i ddim eisiau gwenyn rŵan ond ella mewn pump i 10 mlynedd allwn i ddychmygu fy hun yn dechrau gwneud.
"Ond dwi’n hoffi’r cyfle rŵan i ddod i mewn iddo fo mewn awyrgylch diogel, a chael profiad - mae’n ffordd dda i bobl sydd heb le neu ddim eisiau’r costau gael y profiad.”
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd