Heriau yswiriant yn wynebu nifer wedi llifogydd Storm Bert

Mae Eleri Jackson wedi trefnu tudalen ar-lein i godi miloedd o bunnoedd i helpu ei chlwb rygbi i adfer wedi effeithiau Storm Bert
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o fusnesau yn wynebu cyfnod heriol ar ôl difrod storm Bert, wedi i nifer ohonyn nhw fethu â chael yswiriant i'w hatal rhag difrod y llifogydd.
"I weld y fath difrod yma eto o fewn pedair blynedd, rydyn ni gyd mor drist."
Cyrhaeddodd Eleri Jackson, 20, ei chlwb rygbi, Newport High School Old Boys RFC, yn sgil Storm Bert i ddarganfod y safle dan ddŵr unwaith eto.
Fe wnaeth y clwb methu â chael yswiriant i ofalu am lifogydd ar ôl y difrod gafodd ei achosi gan Storm Dennis yn Chwefror 2020.
Dywedodd Eleri, sy’n chwarae dros dîm menywod y clwb, ei bod yn gorfod dibynnu ar gyfeillgarwch eraill y tro hwn i dalu am y difrod gwerth miloedd o bunnoedd.
“Mae gweld wynebau’r hyfforddwyr, staff a chwaraewyr – y siomedigaeth ar ôl i hyn ddigwydd eto – mae’n drist iawn. Mae sawl oergell a’r trydan wedi’u heffeithio a’r holl ddodrefn wedi’u chwalu," meddai Eleri.

Dyma oedd yr olygfa yng nghlwb rygbi Newport High School Old Boys ar ddydd Sul wrth i Storm Bert daro'r wlad
Mae'r clwb wedi llwyddo i godi bron i £2,500 mewn 24 awr ar-lein. Y bwriad yw defnyddio’r arian i adnewyddu’r rhannau o'r clwb sydd wedi'i effeithio waethaf.
Dywedodd Neil Short, cadeirydd y clwb sy'n chwarae yng nghynghrair un y dwyrain: “Mae gennym ni yswiriant ar gyfer yr adeilad ond doedd dim modd cael yswiriant i ddiogelu yn erbyn llifogydd.
"Efallai y gallwn ni feddwl am godi arian dros yr wythnosau nesaf ond gyda'r Nadolig ar y gorwel, ond mae hyn yn amser drud i nifer fawr o bobl felly rwy'n meddwl y bydd yn rhaid i ni fod yn amyneddgar. Mae hi mor siomedig."
Ychwanegodd bod y clwb yn ddibynnol ar wirfoddolwyr ac er bod gan y clwb noddwyr, os yw llifogydd am ddigwydd yn fwy cyson yna mae'n bryderus na fydd yn ymarferol i ddibynnu ar bobl eraill dro ar ôl tro.

Fe dreuliodd chwaraewyr a gwirfoddolwyr y clwb ddydd Llun yn glanhau a sychu crysau tîm rygbi wedi'r difrod yn sgil y llifogydd
Mae nifer o fusnesau wedi dioddef difrod o ganlyniad i Storm Bert, gan gynnwys busnes marchnata David Kyle yn Nantgarw, Rhondda Cynon Taf.
Fe gyrhaeddodd ei swyddfa ar ddydd Sul i ddarganfod bod lefel y dŵr o fewn yr adeilad yn uwch na'i bigwrn.
Ond mae Mr Kyle wedi penderfynu peidio gwneud cais yswiriant y tro hwn oherwydd ei bryder y bydd y gost o adnewyddu ei bolisi yswiriant yn y dyfodol yn ormod.
"Rydyn ni am gymryd yr hit y tro hwn.
"Roedd hi'n ddigon anodd ceisio dod o hyd i gwmni yswiriant arbenigol y tro diwethaf ar ôl y difrod achosodd Storm Dennis yn 2020.
"Rydyn ni wedi gorfod codi'r carpedi ac yn y blaen a bydd angen rhywfaint o waith ond gobeithio gallen ni fod nôl yn yr adeilad o fewn rhai wythnosau," meddai Mr Kyle.

Bu'n rhaid i David Kyle dynnu carpedi a phren o'i fusnes yn Nantgarw, RCT, ar ôl difrod Storm Bert dros y penwythnos
Dywedodd Louise Clark, Ymgynghorydd Polisi Cymdeithas Yswirwyr Prydeinig fod modd "amddiffyn yn erbyn stormydd a llifogydd gyda nifer o wahanol bolisïau yswiriant, ond os ydych chi'n ansicr yna cysylltwch gyda'ch cwmni yswiriant er mwyn iddyn nhw drafod y polisi gyda chi.
"Mae prisiau polisïau yswiriant yn seiliedig ar risg, ond mae sawl ffactor yn cael eu hystyried."
Ychwanegodd Ms Clark: "Mae yna gyfyngiadau i'r hyn gallai'r diwydiant yswiriant wneud yn y fath sefyllfa. Mae angen i'r llywodraeth chwarae rhan hefyd a pharhau i fuddsoddi mewn mesurau i amddiffyn yn erbyn llifogydd a chynnal a chadw'r rhai sy'n bodoli'n barod."
Ddydd Llun, fe ddywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd yn sgil Storm Dennis i helpu amddiffyn tai a busnesau.
Ychwanegodd y bydd pwynt yn cyrraedd lle na fydd modd gwneud rhagor oherwydd effeithiau difrifol newid hinsawdd.
Dywedodd fod angen "dysgu gwersi" yn yr achosion lle methodd y mesurau i amddiffyn cartrefi a busnesau.