Cyhuddo'r Eisteddfod o ddiffyg parch dros y Fedal Ddrama
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy cyfarfod i drafod "Cynrychiolaeth yn y Theatr" mae un o'r awduron a geisiodd am Fedal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi cyhuddo'r brifwyl o ddiffyg parch.
Bron i bedwar mis ers atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, mae Wyn Bowen Harries yn dweud nad yw wedi cael eglurhad.
"Dwi dal yn siomedig fod yr holl beth wedi digwydd yn y ffordd y gwnaeth o – dileu'r gystadleuaeth yn gyfan gwbl.
"A ‘da ni dal ddim wedi clywed unrhywbeth swyddogol gan yr Eisteddfod... Dwi’n meddwl fod o’n difrïo’r gystadleuaeth ddrama yn ofnadwy bod nhw wedi just dileu’r holl beth."
Yn dilyn beirniadaeth o'r hyn ddigwyddodd ym Mhontypridd fe ddywedodd yr Eisteddfod y bydden nhw'n cynnal trafodaeth yn yr hydref.
Nos Fercher fe fydd Dr Gareth Llŷr Evans, cadeirydd panel canolog theatr yr Eisteddfod, yn arwain sesiwn "Cynrychioli Cynrychiolaeth" a fydd yn "drafodaeth amserol am gynrychiolaeth yn y theatr", meddai'r Eisteddfod.
Fe wnaeth yr Eisteddfod ganslo'r Fedal Ddrama yn ystod wythnos y brifwyl, gan ddweud bod y penderfyniad wedi ei wneud ar ôl y broses o feirniadu'r gystadleuaeth.
Ni wnaeth yr Eisteddfod roi rheswm am y penderfyniad ar y pryd, ond dywedodd un o'r beirniaid mai "nid sensora oedd eu bwriad ond gwarchod pawb a oedd ynghlwm â’r gystadleuaeth a’r gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli".
Yn ôl Wyn Bowen Harries, mae angen i'r Eisteddfod fod yn agored ynglŷn â beth ddigwyddodd ym mis Awst.
"Dwi’n meddwl bod nhw wedi bod tamaid bach yn amharchus gyda'r cystadleuwyr.
"‘Sa hyn wedi digwydd mewn unrhyw gystadleuaeth arall – ddedwch chi y Goron neu’r Gadair byddai ‘na le ‘na, felly dwi yn meddwl... y dyle nhw fod yn parchu cystadleuaeth drama lawer iawn mwy."
'Trafod yn y tywyllwch'
Mae'r Eisteddfod wedi mynnu'n gyson eu bod nhw angen gwarchod y cystadleuwyr a'r beirniaid.
Mae cyn-gyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd, yn derbyn hynny.
"Mae’n anffodus bo' ni fel cymuned artistig wrth gwrs yn delio efo’r hyn sydd wedi digwydd... yn y tywyllwch ond hefyd yn gallu gweld o bosibl bod angen bod yn warchodol o bobl sydd wedi bod ynghlwm â’r broses, ynghanol y ffrae fel petai."
Er hynny mae'n mynnu bod angen i theatr allu gwthio ffiniau.
"Mae’n bwysig bo' ni’n creu awyrgylch lle mae artistiaid yn gallu ffynnu a mentro a gwthio ffiniau ac mae'n rhaid i ni ofalu bo' ni ddim yn dod lawr yn rhy llawdrwm ar artistiaid pan ‘da ni’n teimlo eu bod nhw wedi croesi ryw ffin neu wedi tramgwyddo mewn ryw ffordd.
"Mae hynny’n arwain at ryw fath o ddiwylliant canslo... achos mae hwnnw’n sefyllfa beryglus dwi’n meddwl, ac wedyn yn mynd i greu ofn mewn artistiaid ac yn mygu artistiaid yn y pen draw."
'Edrych ymlaen'
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod mai sesiwn drafod ar gynrychiolaeth yn y theatr fydd yn digwydd nos Fercher, yn y gobaith o wneud i bobl deimlo'n fwy hyderus wrth fynd ati i greu yn y dyfodol.
“Edrych ymlaen at y dyfodol yn hytrach nag edrych yn ôl yw bwriad y sesiwn", meddai'r llefarydd.
"Nid yw’n drafodaeth ar gystadleuaeth y Fedal Ddrama eleni, ond yn hytrach, mae’n gyfle i gydio’n rhai o’r pynciau a godwyd dros y misoedd diwethaf a’u trafod ymhellach.
“Mae angen symud y sgwrs yn ei blaen, ac wrth wneud hynny, mae’n bwysig bod yr Eisteddfod yn parhau i warchod pawb sy’n ymwneud â’n cystadlaethau, gan gynnwys y cystadleuwyr a’r beirniaid.
"Mae hefyd yn bwysig nodi eto fod y beirniaid yn cytuno â phenderfyniad y Bwrdd ar y mater.
“Rydyn ni’n ymwybodol nad yw pawb yn cytuno â hyn oll, ond mae ein cyfrifoldeb ni at yr unigolion hyn yn hollbwysig i ni fel sefydliad.”
Mae'r Eisteddfod wedi dweud nad yw'r wasg yn cael mynychu'r cyfarfod am ei fod yn gyfarfod i'r sector.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
- Cyhoeddwyd9 Awst 2024
- Cyhoeddwyd14 Awst 2024
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2024