Difrod Storm Bert mewn lluniau
- Cyhoeddwyd
Ar draws Cymru fe wnaeth Storm Bert adael ei hôl wrth i lifogydd a thirlithriadau greu niwed i gymunedau.
Unwaith eto, bedair blynedd ers Storm Dennis, roedd Pontypridd yn un o'r llefydd i gael ei daro waethaf wedi i Afon Taf orlifo.
Wrth i nifer gyhuddo'r awdurdodau o rybuddion annigonol a diffyg cynllunio i osgoi llifogydd dinistriol, dyma rai o luniau'r dyddiau diwethaf sy'n dangos maint y difrod.

Wedi glaw trwm fe wnaeth Afon Taf, sy'n llifo drwy Bontypridd, orlifo ar 24 Tachwedd

Rhai o drigolion Pontypridd yn gwneud eu gorau i roi'r dŵr yn ôl i'r Afon Taf

Gweithwyr o'r gwasanaeth tân yn pwmpio dŵr o Stryd Sion, Pontypridd

A'r trigolion yn gwneud eu gorau i arbed eu cartrefi

Heol y Felin, yng nghanol Pontypridd - stryd gyfarwydd iawn i nifer aeth i'r Eisteddfod Genedlaethol fis Awst, gafodd ei chynnal gerllaw ym Mharc Ynysangharad

Y Lido ym Mharc Ynysangharad

Roedd nifer o siopau ar Heol y Felin wedi eu difrodi

Yn ardal Casnewydd fe wnaeth Afon Ebwy orlifo gan achosi llifogydd ar safle Clwb Rygbi Pont-y-Cymer

Dyma'r olygfa yng Nghwmtyleri ym Mlaenau Gwent ar ddydd Llun 25 Tachwedd ar ôl i'r glaw achosi tirlithriad o hen domen lo yn yr ardal

Roedd y tirlithriad yn agos iawn i dai yno

Y mwd a'r dŵr budur ddaeth i lawr o'r domen lo

Roedd sawl tirlithriad wedi digwydd ar draws Cymru yn cynnwys yr un yma ym Mhontblyddyn, Sir y Flint

Fe gafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r A4106 - Ffordd Bwlch rhwng Treorci a Nantymoel - oherwydd tirlithriad

A'r olygfa ar fferm yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog wedi i 10 o bobl gael eu hachub ar ôl i dirlithriad ddinistrio eu cartref

Roedd yr Afon Wnion yn Nolgellau wedi gorlifo i'r ffordd osgoi sy'n mynd o dan bont fawr y dref
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2024