Carwyn Jones: Gall Brexit arwain at gardiau adnabod

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae'r prif weinidog wedi dweud y gallai system o gardiau adnabod gorfodol gael ei chyflwyno ar ôl Brexit.

Dywedodd Carwyn Jones wrth bwyllgor o ACau ei fod yn teimlo y gallai'r cardiau gael eu defnyddio i gadarnhau os yw pobl yn gymwys i weithio yn y DU.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i bobl o du allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd gael cardiau adnabod.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod "nifer o opsiynau" ar gyfer mewnfudo ar ôl gadael yr UE.

Cardiau gorfodol

Yn siarad ger pwyllgor materion allanol y Cynulliad, dywedodd Mr Jones ei fod yn tybio y byddai'n rhaid i bobl brofi bod ganddyn nhw'r hawl i weithio yn y DU.

Dywedodd: "Cyn belled ag y mae dinasyddion y DU yn y cwestiwn, mae modd gwneud hynny drwy basport, ond nid yw hynny'n orfodol.

"Mae'n bosib gwneud hefyd gyda thrwydded yrru, ond nid pawb sydd â thrwydded.

"Mae'n awgrymu y byddwn ni'n symud i system o gardiau adnabod gorfodol neu lled-orfodol er mwyn i bobl brofi eu bod yn byw yn y DU."

Ychwanegodd bod rhaid i bobl ddangos llythyr gwreiddiol gan y llywodraeth ar hyn o bryd, ond nid yw'n cynnwys llun o'r unigolyn.

Dywedodd y gallai hynny arwain at gyflwyno'r cardiau adnabod.

Cynlluniau blaenorol

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod "nifer o opsiynau" ar gyfer mewnfudo ar ôl gadael yr UE.

Ychwanegodd bod yr opsiynau yn cael eu hystyried ond nid oedd am roi mwy o fanylion.

Fe wnaeth y llywodraeth Lafur diwethaf geisio cyflwyno cardiau adnabod gorfodol yn 2002.

Yn 2003, dywedodd yr ysgrifennydd cartref ar y pryd, David Blunkett y byddai'r cardiau yn atal terfysgaeth a thwyll budd-daliadau.

Cafodd y cynllun ei ollwng gan ysgrifennydd cartref Llafur arall, Alan Johnson.

Cafodd cynllun gwirfoddol ei ollwng gan glymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010.