Tri gair, un enw... stori mewn pum munud
- Cyhoeddwyd
Os ewch i Farchnad Caerdydd fe welwch lu o stondinau gwahanol, gyda chigyddion, bwyty pizza, siopau dillad, gwerthwyr blodau a siop gwerthu recordiau yn eu mysg.
Ond yn eu plith hefyd ar hyn o bryd mae stondin Adam E. Holton, awdur sy'n byw ym Mhenarth.
Mae Adam yn eistedd wrth ei ddesg yn y stondin ac yn sgwennu straeon byrion ar ei deipiadur.
Mae arddull Adam yn eithaf anghonfensiynol - mae'n gofyn am dri gair, un enw, ac yna mae'n ysgrifennu stori fer mewn pum munud tra mae'r cwsmer yn eistedd wrth ei ymyl.
"Dwi 'di bod yn sgwennu straeon ers imi fod yn blentyn," meddai Adam, "dyna’r ffordd o’n i’n gwneud synnwyr o’r byd.
"Roedd gen i ddychymyg hynod o fywiog, ac oedd Mam yn dweud ‘eistedda lawr a sgwenna be' sydd ar dy feddwl ar bapur’. Tua’r un amser o’n i hefyd yn adrodd straeon i fy chwaer, ac i bobl eraill, a dros y blynyddoedd fe dyfodd hynny i ble rydw i nawr.
"Dros y ddwy flynedd ddiwethaf dwi wedi bod yn sgwennu straeon i bobl ar y stryd ar y teipiadur, a dwi ‘di bod yn teithio o gwmpas Lloegr, Yr Alban a Chymru. Fel arfer fyswn i’n gosod stondin mewn man prysur, pedestraidd, gydag arwydd yn dweud ‘rhowch imi dri gair ac un enw, a ‘nai deipio stori i chi’."
Ehangu'r dychymyg
Pan oedd o'n blentyn roedd Adam wrth ei fodd gyda llyfrau a oedd yn ehangu'r dychymyg, yn arbennig straeon Roald Dahl, meddai.
"O’n i’n hoff o Danny, the Champion of the World; mae'n un o fy hoff lyfrau erioed. O'n i hefyd yn darllen llyfrau Lord of the Rings pan o’n i’n iau - unrhyw straeon gyda bydoedd enfawr a digon o le i’r dychymyg.
"Hefyd, fi yn aml oedd y ieuengaf mewn criw yn gwrando ar straeon, yn gwrando ar bobl hŷn yn siarad."
Mae partner Adam yn wreiddiol o Abertawe, ac fe symudodd y ddau i fyw yng Ngheredigion gyda'i gilydd. Yna yn mis Ebrill y llynedd fe ymgartrefodd y ddau yn ne-ddwyrain Cymru a phenderfynu setlo ym Mhenarth.
"Roedden ni’n dau’n meddwl bod Caerdydd yn hardd, ac mae ‘na ryw natur agored i’r bobl yma a oedd yn apelio’n fawr.
"Ar ôl cyrraedd Caerdydd o’n i isho gweld os oedd yr arddull yn gweithio yma, ac fe gafodd ei dderbyn mor dda gan y bobl yma - mae pobl mor chwilfrydig.
"Ma’n ddoniol, achos 'nes i ddigwydd cael sgwrs efo rheolwr Marchnad Caerdydd heb wybod pwy oedd hi, a pan 'nes i ofyn i’r farchnad am le i osod stondin 'nath hi ddweud ‘aaa dwi’n cofio siarad efo ti ar y stryd am hyn’.
"Y gobaith ydy bod y lle yma’n rhoi bach o ddifyrrwch i bobl, a chyfle iddyn nhw ddilyn eu chwilfrydedd ac eistedd lawr ‘tu allan i’r byd’ am ‘chydig."
Ydy'r math yma o ysgrifennu'n gyffredin?
"Dwi ‘di gweld pobl yn perfformio’n debyg i hyn efo barddoniaeth. Mae sgwennu barddoniaeth ar y teipiadur felma’n fawr yn yr Unol Daleithiau, a ma ‘na tua saith neu wyth yn Lloegr dwi’n gwybod amdanyn nhw, ac un yn Yr Alban.
"Yn bersonol fyswn i ddim isio sgwennu barddoniaeth yn gyhoeddus fel’na – mae fy meddwl i’n mynd mwy tuag at straeon, a chysylltu pethau at ei gilydd.
"‘Nes i gwrdd â dau foi oedd yn teipio barddoniaeth tu allan i’r Tate Modern yn Llundain, achos o’n i’n teithio o gwmpas Ewrop yn gwerthu fy nofel allan o fy nghês dillad. ‘Nathon nhw ddweud ‘wel os wyt ti ddim eisiau gwneud barddoniaeth, beth am rywbeth arall?’"
Datblygu syniad o'i nofel
Datblygodd yr arddull y mae Adam yn ei ddefnyddio o syniad yr oedd wedi ei ddatblygu mewn nofel.
"Roedd yna gêm yn fy nofel gyntaf, fel rhan o sgwrs rhwng dau gymeriad, a’r gêm oedd i roi tri gair ac un enw i’w gilydd, mewn ffordd o chwarae efo geiriau a gweld sut maen nhw’n cysylltu. All fod yn frawddeg, yn baragraff neu beth bynnag.
"Felly, penderfynais roi cynnig arni gan eistedd ar y South Bank yn Llundain gydag arwydd yn dweud ‘tri gair, un enw, pum munud’, ac fe weithiodd i fi, ac mae’r fformat o sgwennu ar un dudalen A5 yn gryno."
Mae Adam yn sgrifennu ar hen deipiadur - dull sydd wedi profi'n boblogaidd iawn gyda'i gwsmeriaid.
"Dwi’n defnyddio teipiadur Brother Deluxe o 1974, gafodd ei wneud yn Japan, ond dwi’n meddwl oedd Brother yn arfer gwneud teipiaduron yng ngogledd Cymru, rhwng Wrecsam a Rhuthun.
"Mae’n fodel cludadwy efo ‘chydig o bwysau iddo, sy’n ei wneud yn haws pan dwi’n ei falansio ar fy nghês dillad! Mae’n hawdd i edrych ar ei ôl a’i gadw’n lân, a chadw’r gears i weithio’n iawn.
"Ar y funud dwi’n chwilio am fan arall yng Nghaerdydd, efallai yn un o’r arcêds, achos dwi ond yn y farchnad tan y Nadolig."
Bu Adam yn byw yn Awstria am gwpl flynyddoedd ac mae'n siarad Almaeneg oherwydd hyn, ac mae hefyd wedi gweithio yng nghanol a dwyrain Ewrop.
"Pan o’n i’n sgwennu ar y South Bank yn Llundain ges i ddynes yn dod â rhosod imi, gan fod un o fy straeon wedi cyrraedd Japan.
"Roedd y ddynes yma wedi darllen rhywbeth yn un o fy straeon a effeithiodd arni’n emosiynol, ac fe yrrodd un o’i ffrindiau atai i roi blodau fel rhodd."
O le daw y cwsmeriad?
Dywed Adam fod ei gwsmeriaid yn dod ato am eu bod wedi clywed amdano, a rhai eraill yn digwydd dod ar ei draws yn y farchnad.
"Dwi'n dibynnu ar word of mouth i ryw raddau. Mae rhai yn dod i chwilio amdana i, achos bod nhw’n gwybod bo' fi yma, ac mae eraill yn dod ar draws yr ochr perfformiad stryd, ble mae'n ddewis ganddyn nhw i ddod ata i neu beidio.
"Mae’r chwilfrydedd yna’n bwysig i mi, achos mae'n gwneud i bobl feddwl."
Ydy Adam yn dewis cynnwys sgwennu straeon hapus neu drist i'r cwsmeriaid?
"Dwi’n cael argraff o rywun pan dwi’n siarad efo nhw, a dyna pam dwi’n gofyn iddyn nhw aros am y pum munud tra dwi’n sgwennu.
"Pan maen nhw’n chwilfrydig maen nhw’n dueddol o agor fyny, ac mae rhai yn hapus ac yn amlwg mewn mood da. Mae pobl yn dweud wrtha i os oes ‘na farwolaeth wedi bod yn ddiweddar, neu enedigaeth, felly mae pobl yn rhoi teimlad i mi."
Cynnig 'goleuni'
Dywed Adam ei fod yn awyddus i gynnig goleuni a straeon o obaith i'w gwsmeriaid.
"Rhan fwyaf o’r amser dwi’n trio sgwennu ar gyfer y goleuni ‘na mae bobl isio, achos mae ‘na gymaint o drais ar y teledu, yn ffuglen neu trais go iawn, ac mae bywyd yn eitha’ anodd ar y funud.
"Felly, mae rhaid cael gofod ar gyfer llawenydd a goleuni hefyd, mewn ffordd sydd ddim yn cuddio rhag pa mor anodd all pethau fod, ond yn ffeindio hiwmor mewn pethau, ac mae hynny yn llawer o fy straeon.
"Ond dwi ddim yn mynd ati efo’r bwriad o sgwennu straeon trist a morbid - dwi’n hoffi sgwennu straeon yn ymwneud â’r goleuni ‘na."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd14 Awst
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2021