Meinir Mathias: 'Ysbryd y werin' yn ysbrydoliaeth i’w lluniau
- Cyhoeddwyd
Yn adnabyddus am ei lluniau o Ferched Beca, mae’r artist Meinir Mathias wedi cael ei hysbrydoli i gynhyrchu mwy o waith sy’n dathlu’r dosbarth gweithiol, gwerinol yng Nghymru.
Ym mis Tachwedd mae’r artist, sydd wedi cynrychioli Cymru yn yr ŵyl Ryng-Geltaidd yn Lorient, Llydaw'r haf yma, yn cyflwyno ei harddangosfa ddiweddaraf o'r enw Ar hyd y Nos yn oriel newydd Ffin-y-parc yn Llandudno.
Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw bu Meinir yn sôn am yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r lluniau: “Yr iaith mewn caneuon a cherddi Cymraeg, cymunedau, pobl, cenedlaethau... mewn ffordd crefftau traddodiadol ac 'ysbryd y werin' oedd y brif ysbrydoliaeth a’r grym y tu ôl i’r corff hwn o waith.
“Mae llawer o bobl yn ceisio ailgysylltu â'u gwreiddiau, efallai fel gwrthwyneb i'r byd cyflym, digidol. Gallwch ei weld yn digwydd ym myd celf Cymru yn gyffredinol mewn theatr, llenyddiaeth, celf a cherddoriaeth.
“Mae ‘na ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth werin a thraddodiadau gwerin yn digwydd. Mae dathliadau’r Fari Lwyd a’r hen galan yn ail-ymddangos mewn trefi a phentrefi ar hyd a lled Cymru yn un enghraifft o hyn.
“Dwi’n teimlo bod pobl eisiau ailgysylltu â’r tir, y bobl a’r straeon sy’n ein huno fel cymunedau.”
Cydraddoldeb
Mae'r gwaith yn dathlu elfennau o ddiwylliant gwerin a hunaniaeth Gymreig yr artist ac yn arbennig yn dathlu rhai cymunedau gwledig dosbarth gweithiol yng Nghymru.
Meddai Meinir: “Mae hanes celf bob amser wedi dathlu’r cyflawnwyr uchel mewn cymdeithas, aelodau cyfoethocach y gymdeithas a’r dosbarthiadau rheoli ond mae llais y dosbarth gweithiol, ffermwyr Cymru a phobl cefn wlad yn aml yn cael ei hanghofio.
“Mae llawer o bobl bellach yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau fel rhoi mwy o ffocws i fenywod mewn hanes a grwpiau lleiafrifol.”
Mae Meinir, sy’n dod o Dalgarreg, yn mynd i'r afael â hyn drwy archwilio straeon gwerin Gymreig a chaneuon – rhan bwysig o’i phlentyndod oedd cerdded y wlad gyda'i thaid yn blentyn a rhannu chwedlau gwerin a hanes Cymru.
Protestio
Yn adnabyddus am ei phaentiadau o Ferched Beca, mae’n dweud fod protestio gan y dosbarth gweithiol a’r uchelgais i frwydro dros gydraddoldeb yn ysbrydoliaeth mawr iddi.
Mae hi’n paentio mewn paent olew, fel y gwnaeth yr hen feistri celf, ond tra fod yr hen feistri yn cael eu comisiynu i baentio portreadau o dirfeddianwyr cyfoethog, mae Meinir yn ail-ddychmygu arwyr gwerin, traddodiadau a chaneuon anghofiedig, gan geisio fynd at raidd hunaniaeth Gymreig.
Galar
Mae Meinir wedi bod yn cymryd rhan mewn sgyrsiau yn Llandysul yn ddiweddar ynglŷn a galar torfol cymunedau Cymreig.
Meddai: “Roedd yn ddiddorol iawn. Roedd pobl hŷn yna o gefn wlad yn siarad am newidiadau i gymunedau Cymreig dros y blynyddoedd.
“Pan fydd colled diwylliant a gwybodaeth fyw o ganeuon, straeon ac iaith yn mynd ar goll mae pobl yn hiraethu.
“Gwnaeth i fi feddwl am yr arddangosfa wnes i ymchwilio flynyddoedd yn ôl pan yn y coleg - fe'i cynhaliwyd yn yr Amgueddfa Smithsonian yn Efrog Newydd o artistiaid cyfoes Native American - roedd yr arddangosfa yn adlewyrchiad o'u galar cyfunol a dwi'n cofio iddo fy nharo'n galed iawn. Roeddent yn ail-ddychmygu eu hunaniaeth a traddodiadau trwy gelf cyfoes.
“Ar yr ochr arall i'r galar cyfunol hwn mae'r cenedlaethau iau yn ail-danio'r gwaith o chwilio ac ailddyfeisio hanes a hunaniaeth Cymru. Mae yna ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth werin a thraddodiadau werin yn digwydd nawr.
"Dwi'n meddwl i raddau helaeth, mae'r cenedlaethau iau yn greadigol wrth geisio deall ein hunain a hunaniaeth Gymreig ac wrth gwrs yn ceisio gwarchod yr hyn ydy ni fel pobl.”
Beth nesaf i Meinir?
Bydd Meinir a’i merch, y gantores werin Mari Mathias, yn teithio i New Delhi, India, yn Rhagfyr lle fydd Mari yn perfformio mewn gŵyl yno. Mae gan y teulu gysylltiadau gydag India, fel mae Meinir yn esbonio, gyda ei hen daid William Thomas yn anfon nifer o lythyrau a gweithiau celf yn ôl i Gymru o India yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Meddai Meinir: “Dw i wastad wedi dwlu ar yr hen ffotograffau sepia, y gweithiau celf wedi’u gwneud â llaw a’r anrhegion anfonodd fy hen daid adref o India lle dreuliodd gyfnod hir yn yr ysbyty yno yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
“Ni fydd y cyntaf yn ein teulu agos i deithio yn ôl i India ers y cyfnod hwn a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at lenwi fy llyfr braslunio, dod o hyd i ysbrydoliaeth hefyd a dysgu rhywbeth newydd gan y bobl frodorol o Nagaland.”
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd23 Ebrill