Tro pedol ar gynllun dadleuol i gael coed ar o leiaf 10% o dir ffermio
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud tro pedol ar gynlluniau dadleuol oedd yn gofyn i ffermwyr gael coed ar o leiaf 10% o’u tir.
Fe arweiniodd y cynllun gwreiddiol at brotestiadau chwyrn gan ffermwyr.
Mae'n un o nifer o newidiadau sydd wedi’u cyhoeddi i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a ddaw ar ôl Brexit, ac a fydd yn dod i rym yn 2026.
Mae'r cynllun yn gwobrwyo ffermydd am ddulliau ffermio sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Roedd ymgynghoriad ar gynigion cynharach wedi sbarduno'r protestio mwyaf erioed a gafodd eu gweld y tu allan i'r Senedd, ac a arweiniodd at sefydlu pwyllgorau trafod rhwng ffermwyr, amgylcheddwyr a’r Llywodraeth i drafod y meysydd lle roedd anghytuno.
Yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddydd Llun, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, amlinelliad o’r cynllun newydd, gan ddweud ei bod hi’n “amlwg bod angen newidiadau".
Ychwanegodd: "Dywedon ni y bydden ni'n gwrando ac rydyn ni wedi gwneud hynny."
Roedd dwy reol yn ganolog i'r ffrae rhwng Llywodraeth Cymru a'r gymuned amaethyddol - sef sicrhau bod gorchudd coed ar 10% o'u tir, a’u bod yn rheoli 10% fel cynefin i fywyd gwyllt.
Mae’r gweinidog materion gwledig yn dweud ei fod wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr ac amgylcheddwyr a bod newidiadau pwysig i’r cynigion blaenorol.
Beth yw'r newidiadau?
Dileu’r rheol o fod â 10% o orchudd coed ar eu tir. Bydd targed ar raddfa cynllun gyfan yn cael ei gyflwyno yn ei le. Bydd ffermwyr yn gallu penderfynu lle byddan nhw am ychwanegu rhagor o goed/gwrychoedd ar eu fferm, a faint, ac yn gallu cael cyllid i'w helpu.
12 yn hytrach na 17 o ofynion cyffredinol. Roedd ffermwyr wedi bod yn cwyno am y rhestr o 17 o ofynion roedd yn rhaid iddyn nhw eu cwblhau er mwyn cael yr arian – o brofi pridd i fynychu cyrsiau ar gyfer datblygiad.
Uno nifer o ofynion Iechyd Anifeiliaid, Lles a Bioddiogelwch yn un weithred symlach
Bydd creu a rheoli pyllau newydd a gosod mannau golchi ar gyfer bioddiogelwch yn opsiynol.
Cadarnhad y bydd taliadau ychwanegol am werth cymdeithasol, i adlewyrchu'r buddion ehangach a fydd yn deillio o ddiwydiant amaethyddol cynaliadwy.
Rhagor o gymorth ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a hawliau tir comin yn y taliad cyffredinol.
Bydd dal gofyn i ffermydd reoli 10% o'u tir fel cynefinoedd i fywyd gwyllt.
Dadl nifer o ffermwyr oedd bod gorfodi ffermwydd i blannu 10% o’u tir mewn coed yn “anymarferol” ac yn “rwystr”, er bod Coed Cadw yn dweud bod gan nifer o ffermydd o gwmpas 6-7% o orchudd coed yn barod.
Mae’r fersiwn newydd o’r cynllun yn gofyn i ffermwyr greu “cynllun plannu coed a gwrychoedd”, a dechrau cyflawni hynny erbyn 2030.
Byddai hyn yn sicrhau mynediad at yr haen fwyaf sylfaenol o gyllid, gyda grantiau ar gael am blannu coed yn elfen mwy opsiynol, sydd wedi eu cynllunio i wobrwyo ffermydd sy’n barod i fynd y tu hwnt i ofynion y lefel isaf o gydweithredu.
Bydd targed cyffredinol hefyd yn cael ei osod ar gyfer faint o orchudd coed ychwanegol a ddarperir gan y cynllun cymhorthdal yn ei gyfanrwydd, er nad yw'r ffigur hwn wedi'i benderfynu eto.
Mae gan lywodraeth Cymru nod eisoes o blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030, sydd wedi gwynebu beirniadaeth ddiweddar gan arbenigwyr coedwigaeth.
Mae'r cynigion newydd yn dal i ofyn i ffermydd reoli 10% o'u tir fel cynefinoedd i fywyd gwyllt.
Mae'n rhywbeth y mae Rhys Evans, sy'n rheolwr i'r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur yng Nghymru ac sy'n ffermio defaid a gwartheg uwchlaw Rhyd-y-main ger Dolgellau, wedi bod yn gobeithio ei weld.
Mae'n dadlau y gallai helpu i wneud busnesau'n fwy cynhyrchiol a gwydn i effeithiau newid hinsawdd.
Mae ei fferm fynydd, ochr yn ochr â 10 fferm gyfagos , wedi plannu saith cilomedr o wrychoedd yn ddiweddar, gan gynnwys 50,000 o goed. Maen nhw hefyd wedi creu pyllau ac adfer mawndir.
"Nid cynllun 'fence and forget' yw hyn - ond integreiddio cynefinoedd o fewn y system fwyd, ac mae digon o dystiolaeth yno gall hyn wella cynhyrchiant a effeithiolrwydd ar y fferm," meddai.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd dadansoddiad economaidd ac asesiad effaith o'r cynllun newydd yn cael ei gynnal.
Dyma'n rhannol a ysgogodd y brotest fawr ym mis Chwefror, wedi i undebau ffermio ddweud bod yr asesiad bryd hynny yn awgrymu y gallai miloedd o swyddi gael eu colli o fyd amaeth er bod Llywodraeth Cymru wedi anghytuno â hynny.
Bydd penderfyniad terfynol ar gyfansoddiad y cynllun yn cael ei wneud yr haf nesaf a dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai ffermwyr yn cael gwybod am gyfraddau taliad tan hynny.
Mae ffermwyr wedi dadlau eu bod nhw angen y wybodaeth er mwyn cynllunio ymlaen, gyda phryderon am gyllideb gyffredinol y cynllun - sydd hefyd eto i'w gyhoeddi.
Dywedodd Mr Irranca-Davies ei fod yn parhau i fod "wedi ymrwymo i wrando ar ein rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw i sicrhau'r cynllun terfynol.
"Bydd yn helpu i sicrhau bod busnesau ffermio yn gadarn yn economaidd, bod bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy, a'n bod yn cyflawni'n amcanion ar gyfer yr hinsawdd a natur a'n cymunedau gwledig er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.”
Pam fu ffermwyr yn protestio?
Ar gyfartaledd, mae 67% o incwm fferm, dolen allanol yng Nghymru'n dod drwy gymhorthdal, a dyma'r newid mwyaf mewn cenhedlaeth i arian o'r fath.
Mae'r diwydiant hefyd dan bwysau am sawl rheswm arall.
Arweiniodd protestiadau mewn martiau gan filoedd at brotestiadau gyda thractorau ar draws y wlad, a'r rali fwyaf erioed ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd ym mis Mawrth 2024.
Ym mis Mai, cyhoeddodd y gweinidog materion gwledig newydd, Huw Irranca-Davies, y byddai yna oedi cyn i'r cynllun gael ei gyflwyno.
Ar y pryd, dywedodd bod angen amser i "weithio drwy nifer o agweddau pwysig".
Croesawu'r cynllun ar y cyfan
Dywedodd arweinwyr o fewn y diwydiant bod cynnydd wedi'i wneud ac maen nhw'n canmol "ymrwymiad y dirprwy brif weinidog i gydweithio".
Dywedodd Victoria Bond, cyfarwyddwr Cymdeithas Tir a Busnes yng Nghymru bod y cynllun “sydd wedi'i ddiweddaru heddiw yn dangos newid i'r cyfeiriad cywir".
"Er bod llawer mwy i'w wneud, mae'r garreg filltir hon yn dangos bod newid cadarnhaol yn bosibl pan fo arbenigedd ein sector yn cael ei glywed a'i werthfawrogi o ddifri'."
Dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, bod y cyhoeddiad yn benllanw gwaith "dwys" dros y misoedd diwethaf.
"Rhaid i ni nawr sicrhau bod y taliadau yn rhoi sefydlogrwydd economaidd gwirioneddol i'n ffermydd teuluol yng Nghymru wrth i ni wynebu llawer o heriau eraill," meddai.
Roedd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones yn cytuno: "Mae heddiw yn gam pwysig ymlaen wrth ddatblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, er bod llawer iawn o waith i'w wneud o hyd ar sawl agwedd o'r cynllun, gan gynnwys y manylion o dan bob Gweithred Cyffredinol a chyfraddau talu."
Dywedodd cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru, Rachel Sharp, bod y cyhoeddiad yn dangos sut y gellid mynd i'r afael â phryderon ffermwyr.
Ond dywedodd "bod yr angen i helpu ffermydd i fod yn fwy gwydn i newid hinsawdd yn golygu y bydd angen mynd i'r afael ag elfennau allweddol o reoli dŵr a lloches ar gyfer da byw yn haenau uwch y cynllun".
"Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus ffermwyr i'r cynllun i reoli'r coetir a chynefinoedd presennol, ynghyd â chadw gofyniad y cynllun cynefin o 10%.
"Fodd bynnag, wrth symud ymlaen, bydd yn hanfodol cefnogi'r ffermwyr niferus sydd am fynd y tu hwnt i hyn os ydym am weld byd natur yn cael ei adfer yng Nghymru."
'Mae gan ffermwyr amheuon'
Tra'n croesawu'r newid ar y cyfan, dywedodd James Evans o'r Blaid Geidwadol bod "angen gwneud nifer o benderfyniadau allweddol o hyd".
"Does dim cyfraddau talu'n rhan o'r cynllun, sy'n golygu ei bod hi'n anodd i ffermwyr gynllunio yn y tymor hir."
Mae'n honni bod "hollt enfawr o hyd rhwng Llafur a'r gymuned ffermio o edrych ar y modd mae'r cynllun wedi ei ddatblygu a'r newidiadau i'r dreth etifeddiant".
"Er bod ychydig o newyddion cadarnhaol, mae gan ffermwyr yng Nghymru amheuon ynglŷn â sut y bydd y cynllun yma'n gweithio iddyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd14 Mai 2024