Rheolwr Y Seintiau Newydd, Craig Harrison yn gadael

Disgrifiad o'r llun, Mae Craig Harrison wedi bod yn reolwr Y Seintiau Newydd ers 5 mlynedd

Mae pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd wedi cyhoeddi bod eu rheolwr Craig Harrison wedi gadael y clwb.

Daeth cadarnhad bod Harrison wedi ei benodi yn brif hyfforddwr clwb pêl-droed Hartlepool Utd yng nghynghrair cenedlaethol Lloegr yn dilyn eu cwymp o'r ail adran ar ddiwedd y tymor.

Harrison, sy'n hanu o ogledd ddwyrain Lloegr yw rheolwr mwyaf llwyddiannus yn hanes y Seintiau Newydd.

Dros gyfnod o bum mlynedd mae wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru chwe gwaith, Cwpan Cymru bedair gwaith a chwpan y gynghrair dair gwaith yn olynol.

Dywedodd Cadeirydd Y Seintiau Newydd, Mike Harris ar wefan swyddogol y clwb: "Hoffwn ddiolch i Craig Harrison am yr holl lwyddiant mae wedi dod i'r clwb dros y pum mlynedd a hoffwn ddymuno'n dda iddo fel rheolwr newydd Hartlepool Utd".

Cadarnhaodd Y Seintiau Newydd mai Scott Ruscoe fydd yn camu fyny i fod yng ngofal y tîm yn y byr dymor, gyda Steve Evans yn ei gynorthwyo.