Arestio dyn ar amheuaeth o droseddau ffrwydron yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae dyn 41 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â ffrwydron yn Llanelli.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod swyddogion arbenigol wedi chwilio'r eiddo ddydd Iau, gyda chymorth y gwasanaethau ambiwlans a thân.

Roedd swyddogion ar ddeall y gallai cemegau fod ar y safle.

Cafodd y dyn ei arestio dan y Ddeddf Deunyddiau Ffrwydrol, ac ar amheuaeth o fod ag arf yn ei feddiant.

Mae'n parhau yn y ddalfa.

Ychwanegodd yr heddlu nos Iau bod "dim risg i eiddo cyfagos nac i aelodau'r cyhoedd".

Pynciau cysylltiedig