Sefyllfa'r GIG 'ar ei waethaf' ers 25 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dywedodd Dr Iona Collins fod y gwasanaeth iechyd mewn sefyllfa "ddifrifol iawn"

Y sefyllfa anoddaf y mae hi wedi wynebu mewn 25 mlynedd yn y proffesiwn - dyna ddisgrifiad un llawfeddyg o gyflwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar hyn o bryd.

Nyrsys ar eu gliniau yn methu ymdopi, ac yn ystyried gadel y gwasanaeth - disgrifiad un nyrs amlwg o'r straen eithriadol sydd ar y gweithlu y gaeaf hwn.

Yn ôl Dr Nicky Leopold, mae ysbytai wedi gwneud popeth posib i gadw cleifion ar wahân yn y cyfnodau prysuraf, ond bod hynny ddim wastad yn bosib, gyda rhai'n treulio noson mewn cadair yn adrannau brys.

Mewn dyddiadur fideo ar gyfer BBC Cymru, dywedodd: "Nid dyma'r math o ofal yr ymunais â'r gwasanaeth i'w ddarparu - mae gweld cleifion mewn gwely wrth gael eu derbyn yn dod yn beth prin."

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod degau o filiynau o bunnau yn cael ei wario i hyfforddi staff newydd a chefnogi staff presennol sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i gynyddu capasiti drwy recriwtio ystod eang o swyddi... er mwyn creu 12,000 o staff clinigol ychwanegol erbyn 2024/25.

"Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i gynyddu'r gweithlu gofal cymdeithasol.

"Mae'r gwaith yma'n cael ei gefnogi gan fuddsoddiad sylweddol, gan gynnwys £25m i drawsnewid gofal brys a £96m i gefnogi staff gofal cymdeithasol, ar ben £43m i gyflwyno'r cyflog byw go iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Nicky Leopold bod y sefyllfa wedi gwella ers gostyngiad yn nifer y staff sy'n cael profion Covid positif

Bydd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, a phrif weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor iechyd Senedd Cymru ddydd Iau ynghylch y pwysau ar y gwasanaeth iechyd ym misoedd y gaeaf.

'Pobl yn llefain'

"Rydyn ni mewn situation ddifrifol iawn," rhybuddiodd ymgynghorydd llawfeddygol yn Abertawe, Iona Collins.

"Mae 'na bobl sydd yn llefain, sydd ddim yn gallu gweithio, ac wedyn maen nhw'n sâl.

"Mae'r pwysau, mae'r stress yn ormod," medd Ms Collins, sydd wedi bod yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd ers 25 mlynedd.

Tra bod rhai staff yn gorfod aros adref yn sâl oherwydd y straen, mae eraill yn penderfynu gadael eu swyddi'n gyfan gwbl, yn ôl y llawfeddyg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd 12,000 o staff clinigol ychwanegol yn cael eu recriwtio erbyn 2024/25

Dylid rhoi mwy o bŵer i nyrsys a meddygon er mwyn goresgyn y broblem, meddai Ms Collins, gan ddadlau fod yna ormod o fiwrocratiaeth o fewn y gwasanaeth iechyd.

"Bydden i ishe pobl i wrando ar y meddygon i weld sut allen ni weithio yn effeithiol," ychwanegodd.

"Yn hanesyddol roedd gan y nyrsys mwy o autonomy, roedden nhw'n rheoli y wards, a nawr rydyn ni'n ffeindio bod y nyrsys yn cwblhau shwt gymaint o bapurau am bobl eraill.

"Dyw'r rheolaeth ddim yn aros gyda'r bobl sydd yn gweithio gyda'r cleifion."

Ond pwysleisiodd Dr Collins nad cyfrifoldeb gweithwyr iechyd ydy datrys y broblem.

"Mae 'na managers yma i wneud hwn i weithio. Rydyn ni yma i ddarparu gwasanaeth, rydyn ni yma i wneud y swydd, ond dydyn ni ddim yn gallu creu yr arian a chreu y swyddi er mwyn darparu'r gwasanaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sandra Robinson-Clark fod nifer o gleifion yn yr ysbyty am yn hirach na sydd angen

Mae Sandra Robinson-Clark, nyrs yn y gogledd-orllewin sy'n cynrychioli'r Coleg Nyrsio Brenhinol, yn dweud fod y straen wedi bod "mor ddifrifol" ar nyrsys dros y gaeaf.

"Mae'r gaeaf eleni wedi bod mor galed oherwydd 'dan ni wedi bod yn fyr o staff - be' sy' wedi bod yn galed eleni ydy mwy o staff wedi bod i ffwr' o'r gweithle oherwydd salwch, oherwydd stress,ac ar ben hynna ma' Covid.

"Ma' nyrsys yn gwneud eu gora' i drio rhoi gofal - ma' nyrsys wedi bod yn gorffen yn hwyr, methu cael amser i fwyta na yfed yn ystod eu shifft, yn crïo...

"Mae 'na domino effect - cleifion sy'n dod fewn ac sy' isio mynd allan o'r ysbytai sy' angen mynd i le priodol.

"Y broblem ydy, ers blynyddoedd maith dydi'r social care sector heb gael investment i roi care in the community - mae'n anodd cael cleifion allan ar amser priodol a bo' nhw ddim yn aros yn yr ysbyty am hirach na maen nhw fod."

'Cleifion yn sownd yn yr ysbyty'

Dywed Dr Leopold bod y sefyllfa wedi gwella ers gostyngiad yn nifer y staff sy'n cael profion Covid positif, ond ategodd fod llif cleifion trwy'r ysbyty'n broblem.

"Mae gymaint o gleifion yn sownd yn yr ysbyty ac mae hynny'n anodd a rhwystredig iawn," meddai.

"Does jest dim digon o staff yn y gymuned i gefnogi lefel uwch yr anghenion."

Ychwanegodd bod prinder staff hefyd wedi effeithio ar apwyntiadau cleifion allanol.

"Rydym yn brwydro i geisio cadw ein clinigau cleifion allanol i fynd oherwydd mae angen dybryd ar rai o'r cleifion rwy'n eu gweld," meddai.