Y bugail o Rydychen sy’n barddoni’n Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Sam Robinson yn un sy'n barod i droi ei law at unrhyw beth.
O Rydychen yn wreiddiol, mae Sam wedi ymgartrefu ym Machynlleth ers rhai blynyddoedd gan ddysgu'r Gymraeg yn rhugl a dod yn fugail a waliwr sych heb fath o gefndir amaethyddol.
Pe bai hynny ddim yn ddigon, ar ôl deunaw mis o gychwyn barddoni yn y Gymraeg, mae newydd dderbyn sgôr o 9.5 am ei gerdd gyntaf ar Y Talwrn ar BBC Radio Cymru.
Dysgu'r iaith
Dim ond ers rhyw bedair blynedd mae Sam wedi mynd ati i ddysgu'r Gymraeg o ddifrif, er i'w berthynas â Chymru gychwyn yn 2011, pan adawodd Rhydychen i astudio Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ond yn fuan ar ôl graddio a thair blynedd mewn llyfrgelloedd, roedd yn awchu i "'neud rhywbeth efo nwylo ac allan yn yr awyr iach."
Ers ymgartrefu ym Machynlleth bedair blynedd yn ôl, mae ei waith ar y ffermydd, bod yn aelod o Gôr Meibion Machynlleth a chymdeithasu yn y clwb rygbi lleol, wedi ei alluogi i drochi ei hun yn yr iaith.
Eglura Sam: "O'n i wedi pigo fyny ambell air o'r Gymraeg cyn symud i Machynlleth; ro'n i wedi byw yng Nghymru ers sbel eisoes a o'n i wedi pigo fyny y syne ac o'n i'n gallu ynganu y geiria' a nath hwnna roi mantais mawr i mi wrth ddechrau dysgu o ddifri'.
"Dechreuais i fynychu gwersi Cymraeg gan y Llydawr Nic Davalan; athro Cymraeg anhygoel nath roi y dechreuad gorau bosib i mi.
"Ond wrth drochi dwi wedi dysgu go iawn. Dwi wedi trochi fy hun yn yr iaith mewn ffordd 'di lot o ddysgwyr heb lwyddo i 'neud ond nid eu bai nhw ydi hynny. O'n i awydd 'neud petha fel côr, ffermio a rygbi - oedd hynny yn rhoi cyfle i fi ymarfer fy Nghymraeg.
"Wrth fugeilio, ro'n i'n mynd o fferm i fferm yn holi os oedden nhw eisiau bugail a ddes i 'nabod ffermwyr lleol Bro Ddyfi. Pan ti'n derbyn cyfeiriadau hen dractors ac ati mewn ail iaith, ti'n gorfod dysgu'n gyflym!
Mae Sam yn cydnabod nad yw pob dysgwr yn cael y cyfle i drochi yn y Gymraeg yn yr un modd os nad yw eu diddordebau a'u gwaith yn rhoi'r cyfle hynny iddyn nhw, ond mae'n dweud bod y cyfrifoldeb ar y dysgwr hefyd.
Meddai Sam: "Mae angen mwy o gyfleon lle mae'n amhosib i feunfudwyr osgoi'r iaith. Hefyd mae dysgwyr angen rhoi eu hunain mewn sefyllfaeodd lle nad oes neb arall yn siarad Saesneg, ond dyw lot ddim awydd rhoi eu hunain yn y math yna o sefyllfa chwaith."
Barddoni
Ers blwyddyn a hanner mae Sam wedi dechrau barddoni'n Gymraeg. Meddai Sam am ei daith fel bardd: "Dwi wedi barddoni ers o'n i'n bymtheg ond 'oedd yna rhyw fwlch o ychydig flynyddoedd lle o'n i eisoes wedi diflasu gyda sgwennu yn y Saesneg - doedd e ddim yn teimlo'n berthnasol i 'mywyd i bellach ond o'n i ddim wedi dysgu digon o Gymraeg i sgwennu.
"Wnes i gychwyn barddoni yn y Gymraeg ddeunaw mis yn ôl a dwi wedi bod wrthi yn eitha' dwys ers hynny. Wnes i ymuno gyda thîm Talwrn Y Llewod Cochion ar ôl cael gwersi cynganeddu gan Arwyn Groe, capten y tîm."
Mabli Haf: 'yr ast fêch goch gen i'
Telyneg dan y testun 'Callio' oedd ei dasg cyntaf i'r Talwrn, a'i gi defaid, Mabli Haf, oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r gerdd. Eglura Sam: "Callia! ydi un o'r gorchmynion sy'n cael ei ddefnyddio'n aml iawn ar y fferm wrth weithio'r hen êst, Mabli Haf. O'n i isio sgwennu rhywbeth am y berthynas yna ac roedd y testun 'Callio' yn ffordd ddigon da i fynd ati.
"Dwi'n eitha' sicr 'mod i 'di clwad Dewi Jenkins, yr hyfforddwr cŵn defaid, yn dweud bod isio blwyddyn ar gyfer bob coes o ran hyfforddi, a mae hynna bendant yn wir efo cŵn Cymreig; maen nhw'n enwog am eu brwdfrydedd.
"Mabli ydi'r ci cyntaf dwi 'rioed wedi ei gael heb sôn am ei gweithio. Mae'r gerdd yn mynd ar ôl siwrne Mabli a'r ffordd mae hi'n gwella ac yn dysgu bob dydd. Ond hefyd sut mae ei pherchennog yn dysgu bod yn amyneddgar gyda hi, a sut mae fy sgiliau i fel bugail yn gwella."
Rhoddodd y Meuryn, Ceri Wyn Jones sgôr o 9.5 i'r gerdd. Wrth ymateb i hyn, meddai Sam: "O'n i wrth fy modd. O'n i bach yn nerfus o weld be' fasa Ceri yn 'neud o'r gerdd ond dwi'n ddiolchgar iawn bod rhywun fel Ceri yn trin fy ngeiria' i mor galed â fasa fo'n gwneud i unrhyw un arall. Mae'n gadarnhad i mi fy mod ar y llwybr iawn efo be dwi'n sgwennu."
Dywedodd Ceri Wyn Jones: "Un o'r pethau oedd yn braf am delyneg Sam oedd ei fod e wedi tynnu ar ei brofiadau fel bugail a rhoi darlun barddonol i ni o egni, awch a brwdfrydedd yr ast ddefaid, a gwneud hynny yng nghyd-destun y tir o'i chwmpas. Mae'r delyneg yn fyw iawn, felly, ond yn llawn doethineb gwledig ar yr un pryd."
Ag yntau eisoes wedi dysgu Cymraeg, troi'n amaethwr, ac ennill clod a bri'r Meuryn ar Y Talwrn, disgwyliwn i weld beth fydd Sam yn ei gyflawni nesaf.
Hefyd o ddiddordeb: