Cyngor Gwynedd: Cadarnhau gwyliau Dydd Gŵyl Dewi

  • Cyhoeddwyd
Cennin Pedr

Bydd gweithlu Cyngor Gwynedd yn cael diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni wedi ymgais i atal hynny gan rai cynghorwyr.

Cafodd penderfyniad cabinet y cyngor i roi diwrnod ychwanegol o wyliau i staff ei drafod gan y Pwyllgor Craffu ddydd Iau.

Roedd y cyfarfod yn craffu ar benderfyniad cabinet Plaid Cymru i wario £200,000 ar ddiwrnod ychwanegol o wyliau i'w staff wedi i rai o gynghorwyr y sir gwestiynu'r penderfyniad.

Cafodd cynnig i gyfeirio'r mater yn ôl at y cabinet ei drechu o chwe phleidlais i bump.

Roedd Cyngor Gwynedd wedi dod i benderfyniad wedi i Lywodraeth y DU wrthod datganoli'r hawl i ddynodi Mawrth y cyntaf yn ŵyl banc.

Gobaith y deilydd portffolio corfforaethol, y cynghorydd Nia Jeffreys, oedd y byddai penderfyniad Cyngor Gwynedd yn sbarduno cyrff cyhoeddus eraill i gynnig gwyliau i'w staff ar 1 Mawrth, a rhoi mwy o bwysau ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r hawl i Senedd Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi gofyn "dro ar ôl tro" am y grymoedd angenrheidiol.

Roedd y cynghorydd Llafur Sion Jones, ynghyd â'r cynghorwyr annibynnol Angela Russell a John Pughe Roberts, wedi anfon cais am graffu pellach ar benderfyniad y cabinet Plaid Cymru fis diwethaf.

'Athrawon a nyrsys ddim yn cael y gwyliau'

Fore Iau ar Dros Frecwast fe wnaeth y Cynghorydd John Pughe Roberts, sy'n cynrychioli Corris a Dinas Mawddwy, ofyn a yw hi'n gyfreithlon i Gyngor Gwynedd ariannu gwyliau i'w staff.

"Dydy hynny ddim wedi cael ei graffu a dwi'n meddwl fel pwyllgor craffu bod yn rhaid edrych ar unrhyw risg i'r cyngor," meddai.

"Arian cyhoeddus ydy o - a 'dan ni wedi gofyn y cwestiwn ond ddim wedi cael ateb pendant."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys na fyddai cost y diwrnod o wyliau yn effeithio ar y dreth cyngor, nac yn dod o gyllidebau adrannau'r cyngor

"Mae'r gwariant yn llawer iawn o arian ac ydy hi'n edrych yn dda arnon ni, fel cynghorwyr, ein bod yn gwario'r arian yma pan mae llawer iawn yn methu talu treth y cyngor?

"Fydd athrawon ddim yn cael y gwyliau yma, fydd nyrsys ddim yn cael y gwyliau yma - mae rhain wedi gweithio llawn mor galed â staff Cyngor Gwynedd," ychwanegodd Mr Roberts.

'Gwrthwynebu'r Jiwbili?'

Yn gynharach mewn datganiad dywedodd Plaid Cymru eu bod yn siomedig bod tri o gynghorwyr Gwynedd yn gwrthwynebu cynnig diwrnod o wyliau cyhoeddus i staff Cyngor Gwynedd i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi.

"Yn dilyn cynnig a chefnogaeth unfrydol Cynghorwyr Gwynedd yng nghyfarfod o'r Cyngor llawn nôl ym mis Hydref, cadarnhaodd cabinet Gwynedd ar y 18 o Ionawr y byddai'n cadarnhau cyfarwyddyd y Cyngor llawn gan arwain y ffordd, trwy Gymru, i sicrhau statws a phwysigrwydd cenedlaethol Dydd Gŵyl Ddewi i staff y cyngor.

"Mewn blwyddyn lle mae gwyliau banc ychwanegol yn cael eu taflu atom blith draphlith i ddathlu Jiwbili Platinwm Brenhiniaeth Loegr, mae'n fy rhyfeddu nad yw'r tri chynghorydd yn dangos yr un gwrthwynebiad i'r dathliadau rheiny," meddai'r Cynghorydd Elwyn Edwards, Llandderfel a gododd y mater yn wreiddiol.

Ar ran y cabinet, dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys wrth y cyfarfod y byddai'r arian i dalu am y diwrnod o wyliau yn dod o goffrau wrth gefn yr awdurdod.

"Ni fydd yr arian yn dod o gyllidebau adrannau, ac ni fydd yn effeithio ar y dreth cyngor," meddai.

"Mae'r £200,000 yn uchafswm o amcangyfrif... dydyn ni erioed wedi ceisio cuddio'r gost."

Fe wnaeth ddadlau hefyd bod yr egwyddor wedi cael ei chefnogi'n unfrydol gan y cyngor llawn, a'i bod felly yn teimlo dyletswydd i wneud iddo ddigwydd.