Nathan Wyburn: Creu celf o Marmite a thost
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Nathan Wyburn yn arlunydd sydd wedi creu dipyn o enw i'w hun dros y blynyddoedd diwethaf, gyda sêr o'r byd pop a Hollywood ymysg y rhai sy'n edmygu ei waith.
Mae'r artist 32 oed o Lyn Ebwy yn creu gwaith gan ddefnyddio dulliau anarferol, a gyda deunydd anghyffredin fel glo, Marmite a gwaed ffug.
Daeth Nathan i enwogrwydd gyntaf yn 2011 pan gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain's Got Talent, ac ers hynny mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth.
Yma mae'n ateb rhywfaint o gwestiynau ac yn esbonio beth sy'n ei ysgogi i ddefnyddio ei ddulliau celf unigryw.
Pryd ddechreuodd dy diddordeb mewn arlunio?
Ers i mi allu cofio dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn arlunio. Pan o'n i'n fach o'n i'n arfer sketchio cloriau LPs fy nhad a thynnu lluniau o Power Rangers.
Mae lliwiau a textures wastad wedi fy nghyffroi i ac o'n i'n gweld y potensial ym mhob dim.
O'n i wrth fy modd gydag arlunio yn yr ysgol, ac roedd fy athrawon yn hynod o gefnogol i feithrin fy nhalent.
Tra'n gwneud fy nghwrs TGAU Celf, dim ond gwersi celf am awr yr wythnos roeddwn i'n ei gael gan fod 'na clashes efo pynciau eraill - dwi mor ddiolchgar i fy athrawes Sian Slater am adael imi wneud hynny! Pwy a ŵyr lle fyswn i heb y gefnogaeth yna...!
Sut mae dy fywyd wedi bod ers i ti wneud enw i ti dy hun ddegawd yn ôl?
I fod yn onest mae fy mreuddwydion wedi eu gwireddu. O'n i byth yn disgwyl bod yn gwneud yr hyn dwi'n ei wneud fel bywoliaeth.
Mae'n debyg bod neb i ddweud gwir yn credu 100% y bydd eu breuddwydion yn dod yn wir, ond mi ddigwyddodd i fi.
Dwi 'di cael teithio'r byd, cwrdd â phobl anhygoel a chael profiadau arbennig oherwydd fy ngwaith celf.
Beth wnaeth wneud i ti arbrofi gan ddefnyddio pasta, glo a deunydd eraill?
I ddechrau, tost a Marmite oedd e. Gweles i bennawd am Simon Cowell a meddwl 'MARMITE!' Nes i roi hwnna ar YouTube ac fe saethodd y fideo, a dyna dechreuodd pethe i ddweud gwir.
Portreadau o'n i'n gyfforddus yn gwneud, ond doedd gen i ddim syniad y byddwn i'n dal i ddefnyddio 'deunydd pob dydd' degawd yn ddiweddarach! Mae'n gymaint o hwyl, yn hawdd i'w defnyddio ac heb unrhyw gyfyngiadau.
Beth yw'r gwaith mwyaf heriol i ti wneud?
Maen nhw i gyd wedi cael elfennau anodd iddynt. Mae'r darnau yn yr awyr agored yn dibynnu ar....oes gen i gŵn fydd yn rhedeg ar draws y traeth a chicio'r tywod? Gwylanod yn dwyn tost? Mae'r ffactorau dwi'n gorfod ystyried yn eitha' doniol i fod yn onest.
Ond dwi'n meddwl mai'r anodda' oedd gwneud gwaith celf efo blawd! Blwyddyn diwetha' 'nes i fap enfawr o'r byd ar gyfer y gyfres ZeroZeroZero i NOW TV gan ddefnyddio blawd fel cocên. Roedd e mor anodd i'w reoli ond nes i gwblhau y gwaith yn y diwedd!
Hefyd, fe 'nes i weithio gyda bwyd cath ar gyfer un darn....roedd e'n drewi!
Mae dy waith wedi bod yn eitha' gwleidyddol ar brydiau, ond hefyd ti'n ymdrin â phynciau ysgafnach - beth sydd orau gen ti?
I fod yn onest dwi wrth fy modd yn gwneud nhw i gyd. Mae angen i mi gael hwyl tra dwi'n gweithio er mwyn cadw diddordeb.
Mae'r stwff gwleidyddol yn cyffwrdd â materion cyfoes ac yn adlewyrchiad o'r amseroedd ry'n ni'n byw ynddo. Mae'r stwff hwyl yn gwneud i bobl wenu ond mae yr un mor bwysig cofnodi adegau mewn hanes a diwylliant cyfoes.
Roedd ymddangos ar Britain's Got Talent yn agor dy gelf di, a chelf yn gyffredinol, i gynulleidfa na fyddai efallai'n ymddiddori mewn celf fel arfer - mae'n rhaid bod ti'n falch iawn o hyn?
100%! Dwi'n teimlo'n angerddol iawn am wneud yn siŵr bod celf o fewn cyrraedd i bawb. Er 'mod i'n gallu gwerthfawrogi galeri 'white wall art', mae'n gallu dychryn rhai bobl, felly dwi'n arddangos fy ngwaith mewn canolfannau siopa, ar y stryd, bwytai neu thafarndai! Unrhyw le!
Mae'r cyfryngau cymdeithasol a rhaglenni teledu wedi bod yn wych i wneud i bobl gyffredin sylweddoli eu bod nhw hefyd yn gallu creu celf - efallai cafodd hyn ei bwysleisio fwy yn ystod y cyfnodau clo oherwydd Covid-19.
Dwi'n annog pobl i fynd drwy'r cypyrddau a chael gafael ar hen boteli sos coch, neu hanner lipstick, a jest CREU!
Beth yw'r darn o waith wyt ti mwyaf balch ohono?
Mae'n debyg y darn efo fingerprints o waed ffug nes i o Gareth Thomas. Roedd y darn am ei stori HIV ac fe wnaethon ni ddadorchuddio'r gwaith efo'n gilydd yng Nghlinig Iechyd Rhyw yng Nghaerdydd, ac roedd e'n emosiynol iawn.
Mae celf yn gallu siarad i rywun mewn ffyrdd dydi geiriau yn aml methu gwneud - mae'n gallu bod mor bwerus. Mae'r darlun ar y wal yno fel arwydd pwerus o falchder i bobl weld wrth iddynt ymweld â'r clinig.
Pa mor bwysig yw hi i ti bod artistiaid yn creu gwaith sy'n adlewyrchu materion yn ein cymdeithas? Wyt ti'n teimlo dyletswydd i wneud hyn?
Yndw. Mae 'na bethau yn aml fyswn i'n hoffi rhoi mewn i eiriau a gweiddi amdano, ond dwi 'rioed di bod yn hyderus yn gwneud hynny. Mae fy nghelf i'n caniatau i fi WEIDDI'n weledol dros bynciau, ac mae'n gallu bod mor bwerus.
Rwyf wedi creu celf yn cefnogi materion LGBTQ fel ymwybyddiaeth am HIV, pobl trans, BLM a llawer mwy o gymunedau sydd ar yr ymylon a sydd angen cefnogaeth.
Hefyd yn y Gwasanaeth Iechyd yn ystod y pandemig, mae gweithwyr ar y llinell flaen wedi wynebu camdriniaeth. Dwi wedi gwneud celf yn diolch iddyn nhw ac hefyd darn yn rhoi sylw i'r geiriau cas mae nhw wedi ei dderbyn arlein.
Rwyt wedi creu gwaith ar gyfer sêr byd-eang, pa rai wnes di lwyddo i gwrdd ac beth oedd eu hymateb nhw?
Mae wastad yn wych pan dwi'n gallu cwrdd â'r bobl 'ma, gan mod i wir yn edmygu llawer ohonyn nhw. Roedd Mariah Carey yn anhygoel!
Cefais i fy nghomisiynu i wneud anrheg pen-blwydd iddi ac yna ges i'r cyfle i gwrdd â hi yn ei ystafell newid yn yr Albert Hall.
Rwyf wedi cyflwyno gwaith i'r Tywysog Charles ar gyfer achos da, a hefyd Catherine Zeta-Jones a Shirley Bassey pan gafon nhw'r anrhydedd Rhyddid i'r Ddinas yn Abertawe a Chaerdydd.
Yr un a oedd wedi ei chyffroi fwyaf wth ymateb i fy ngwaith oedd Joanna Lumley. Roedd hi wrth ei bodd gyda'r gwaith celf wnes i iddi allan o glitter aur ohoni fel ei chymeriad eiconig yn Absolutely Fabulous.
Pa brosiectau sy'n dy gyffroi ar gyfer y dyfodol? Beth sydd gan ti ar y gweill?
Lot fawr! Mae gen i restr enfawr. Dwi ar fin dechrau gweithio ar fy mhedwerydd llyfr, mae gen i ambell brosiect rhyngwladol ac mi fydda i yn ymddangos ar y teledu yn Awstralia. Mae gen i bethau mawr fydda i'n gweithio arno yn agosach i adref ac alla i ddim aros i ddatgan y manylion!
Dwi hefyd yn gweithio ar ddylunio crys-T ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd, a fe fydd hynny'n anrhydedd enfawr.
Hefyd o ddiddordeb: