Star Wars a Doc Penfro
- Cyhoeddwyd
Mewn doc ymhell, bell yng Ngorllewin Cymru… adeiladwyd un o longau gofod enwoca'r byd a bydd arddangosfa barhaol i ddathlu hynny.
Adeiladwyd model maint llawn o'r Millennium Falcon yn y Western Hangar, sied awyrennau o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn Noc Penfro ar gyfer y ffilm The Empire Strikes Back.
Hon oedd ail ffilm yng nghyfres gwreiddiol ffilmiau Star Wars a fe aeth yn ei blaen i ennill dwy Oscar.
Bydd yr arddangosfa yn agor yn ddiweddarach eleni yng Nghanolfan Dreftadaeth Doc Penfro diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Buodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn sgwrsio ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru am y prosiect. Dywedodd fod y prosiect wedi derbyn "swm gymharol fach i gymharu â rhai o'r prosiectau, dan £10,000, ond mae'n mynd i wneud gwahaniaeth mawr i'r hanes pwysig 'ma yn Doc Penfro."
Y gyfrinach waethaf yn hanes Doc Penfro
"Cafodd (y Millennium Falcon) ei adeiladu yma'n Nghymru yn y saithdegau, pan o'n i'n fach a'n gwylio'r ffilmiau a chlywed sïon bod 'na gysylltiad gyda Cymru… ond ni'n gwybod taw nid si yn unig oedd hynny, ond rhan o wir hanes ein gwlad."
Bydd yr arddangosfa yn adrodd yr hanes o sut gafodd y model ei adeiladu yn y dref. Aeth Andrew White yn ei flaen i ddweud mai'r adeiladu oedd "cyfrinach y dref ar y pryd, ond fod rhai yn dweud ei fod the worst kept secret of Doc Penfro, a'n galw fe'n Magic Roundabout ar y pryd, yr enw côd ar ei gyfer."
Y gobaith yw y bydd yn denu "ffans o'r ffilmiau a'r franchise i'r dref, a dod a thwristiaeth mewn ac arian ac adfywiad economaidd i'r ardal. A gallu helpu busnesau eraill, creu swyddi, cyfleoedd i wirfoddol ac atgyfnerthu ymdeimlad o falchder yn y fro."
Ai hyn yw treftadaeth?
Wrth drafod gwerth treftadaeth y prosiect dywedodd: "Mae treftadaeth yn golygu lot o bethau i wahanol bobl. Un o'r diffiniadau wrth gwrs yw: rhywbeth o'r gorffennol y'n ni'n drysori ac am ei gadw a pasio 'mlaen i genedlaethau'r dyfodol ac mae hyn yn enghraifft perffaith o brosiect lleol. Prosiect bach gydag impact mawr.
"Mae 13 o ffilmiau (Star Wars) wedi ei creu a sawl spin off, a mae hwn yn brosiect sydd yn dwyn rhywfaint o'r enwogrwydd yna'n ôl i Gymru."
Bydd arddangosfa'r Millennium Falcon yn agor yng Nghanolfan Dreftadaeth Doc Penfro yn ystod 2022, a bydd arbenigwr a ffan Star Wars lleol yn goruwchwylio'r prosiect.
Dywedodd Mark Williams: "Gosododd George Lucas safon newydd mewn adrodd straeon a gwneud ffilmiau gyda Star Wars ac roedd stori'r Millennium Falcon sy'n cael ei hadeiladu yn Noc Penfro yn newyddion mawr ar y pryd. Roedd y byd i gyd yn gwybod amdano, ond mae'r stori honno rhywsut wedi pylu i'r chwedl.
"Gyda'r atgyfodiad diweddar o ddiddordeb ym masnachfraint Star Wars, mae cenhedlaeth newydd o gefnogwyr wedi'i chreu ac wrth i'r cefnogwyr hyn ddechrau edrych yn ddyfnach i'r saga, mae cefnogwyr hŷn yn adrodd straeon am y trioleg wreiddiol.
"Mae'r syniad o dref yng ngorllewin Cymru yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r stori anhygoel hon drwy fod yn fan lle adeiladwyd un o'r sêr mwyaf eiconig mewn hanes ffuglen wyddonol, yn creu cymysgedd o anghrediniaeth, awch a balchder."
Hefyd o ddiddordeb: