Cynhadledd Dathlu'r Gymraeg ar ddyfodol darlledu
- Cyhoeddwyd
Bydd dyfodol darlledu Cymraeg yn cael ei drafod mewn cynhadledd yn Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd yn ddiweddarach.
Mae'r gynhadledd wedi'i threfnu gan fudiad Dathlu'r Gymraeg, grŵp sy'n galw am "gyfres o fesurau cryfion newydd" i gefnogi'r Gymraeg.
Bwriad y grŵp yw gwneud cyfraniad uniongyrchol at yr adolygiad annibynnol o S4C gan Lywodraeth y DU, ac ysgogi unigolion a mudiadau i gyfrannu'n at y broses.
Bydd siaradwyr gwadd a thrafodaethau ar S4C a darlledwyr eraill, gan gynnwys y BBC, a dulliau eraill o ddarlledu, gan gynnwys ar lefel gymunedol.
Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cadeirydd y Gynhadledd: "Mae'r gynhadledd hon yn gyfle pwysig i drafod darlledu yn yr iaith Gymraeg yn ei holl ffurfiau cyfoes a hynny ar gyfnod heriol i'r diwydiannau creadigol.
"Trwy ddod a phrif gynrychiolwyr y sector a mudiadau'r iaith Gymraeg at ei gilydd, y nod yw rhannu syniadau cyffrous a datblygu strategaethau uchelgeisiol at y dyfodol."
Dywedodd Rebecca Williams, Cadeirydd Dathlu'r Gymraeg: "Bydd siaradwyr o statws uchel yn y diwydiannau creadigol a lleisiau llawr gwlad yn rhannu syniadau ac yn cyd-drafod ar y pwnc hwn sy'n agos at ein calonnau, a hynny ar adeg hynod ddylanwadol."