2019 mewn lluniau
- Cyhoeddwyd
O bencampwriaethau i briodasau, paentio waliau a phleidleisio; mae 2019 wedi bod yn flwyddyn llawn digwyddiadau yng Nghymru. Ymysg y gwyliau, y gorymdeithiau a'r golygfeydd anhygoel, ry'n ni wedi bod yn dathlu ac yn galaru.
Dyma gasgliad o rai o'r lluniau - a'r straeon - mwyaf cofiadwy o'r flwyddyn a fu.


Croesawodd Cymru'r flwyddyn newydd gyda golygfeydd gaeafol dros y wlad. Syrthiodd eira dros nos yn rhai o ardaloedd uchaf Cymru gyda rhew yn achosi trafferthion ar rai ffyrdd a rhai ysgolion wedi cau.

Croeso gwresog i'r byd oedd i'r babi bach yma ar ddechrau'r flwyddyn.
Dyw Tracey Smith ddim yn gallu rhoi genedigaeth ei hun, ond fe gytunodd Emma, mam Tracey, i gario'r babi ar ei rhan. Cafodd Evie Siân Emma Smith ei geni ar 16 Ionawr.
"Oedd pobl yn dweud 'ti'n rhy hen'... ond chi'n mynd i helpu'ch plentyn 'da beth bynnag sy' isie arnyn nhw," meddai Emma ar y pryd.

Teyrngedau lu i'r pêl-droediwr Emiliano Sala tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd. Roedd Sala wedi arwyddo gyda'r Adar Gleision ac ar ei ffordd i ddechrau hyfforddi gyda'i dîm newydd pan ddiflannodd yr awyren oedd yn ei gludo ef a'r peilot David Ibbotson o Nantes i Gaerdydd.

Chwaraewyr Cymru yn mwynhau'r dathlu ar ôl sicrhau'r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019.

Beth yw hyn? Eira ym mis Ebrill! Ar ôl cyfnod o dywydd braf, deffrodd rhannau o Gymru i flanced o eira yn ystod wythnos gyntaf Ebrill. Ac yn Ninas Mawddwy, roedd Meirion Jones a'i gi yn ceisio cadw'n gynnes wrth helpu gyda'r wyna ar fferm ei deulu.

Pan ddifrodwyd y gofeb answyddogol i Dryweryn ym mis Ebrill, yr ymateb gan nifer o bobl yng Nghymru oedd i fynd ati i greu mwy o sloganau mewn undod â'r un gwreiddiol. Roedd adroddiadau o'r graffiti yn cael ei weld mewn bron i hanner cant o leoliadau gwahanol.

I 'ffwr' â ni! Treuliodd Henry, y ci sy'n paragleidio, a'i berchennog, Amy, rhan go dda o 2019 lan fry yn yr awyr dros Gymru.

Ond ar y ddaear mae pawennau Mot, ci ffyddlon y newyddiadurwr Huw Edwards.

Hei Mistar Urdd! Roedd yna lawer o hwyl i'w gael ar faes Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro.

Roedd y merlod gwyllt yma i weld yn gwneud y mwyaf o heulwen mis Mai wrth iddyn nhw garlamu tuag at Fynyddoedd Cambria. Mae'r llun yn dangos gre o ferlod Cymreig wrth iddynt ddychwelyd i dir uchel ardal yr Elenydd ar ôl gaeaf o bori ar dir isel.
Bydd y merlod yn ymddangos ar DRYCH S4C yn gynnar yn 2020.

Roedd hi'n flwyddyn i'w chofio i'r awdur Manon Steffan Ros a oedd 'wedi mopio' ar ôl ennill tair gwobr yn seremoni Llyfr Y Flwyddyn am ei nofel Llyfr Glas Nebo.

Roedd tu fewn i furiau Castell Caerdydd yn fwrlwm wrth i Caryl Parry Jones a'r band gloi gŵyl Tafwyl yn y brifddinas eleni.

Dyma'r olygfa odidog ger Llyn y Dywarchen yn Eryri wrth i'r haul godi ar ddiwrnod hirddydd haf.

Ym mis Mehefin, heidiodd miloedd o bobl i Gaernarfon i gymryd rhan mewn gormydaith yn galw am annibyniaeth i Gymru. Daeth miloedd o bobl ynghyd mewn ralis tebyg hefyd yng Nghaerdydd ac ym Merthyr Tudful yn ystod y flwyddyn.

Fe wnaeth yr ymgyrchydd iaith, Dafydd Iwan, fu'n protestio yn erbyn yr Arwisgiad Brenhinol ym 1969, gyfarfod â'r Tywysog Charles am y tro cyntaf union 50 mlynedd i ddiwrnod y seremoni Arwisgo yng Nghaernarfon.
"Rwy'n weriniaethwr o hyd, fydda i byth yn frenhinwr, ond mae gan Charles a minnau fwy yn gyffredin nag oeddwn yn ei dybio," meddai Dafydd Iwan.
Fe wnaeth y ddau gwrdd yn breifat fel rhan o raglen ddogfen yn edrych yn ôl ar y digwyddiad Brenhinol yng Nghastell Caernarfon 50 mlynedd yn ôl.

Roedd Sioe Frenhinol 2019 yn un hynod gofiadwy i Arwel a Bethan Edwards. Nhw oedd y cwpwl cyntaf erioed i briodi ar faes y sioe yn ystod wythnos y sioe ei hun. Roedd yr achlysur yn nodi'r canfed sioe yn Llanelwedd.

Llongyfarchiadau i'r canwr opera Bryn Terfel a'r delynores Hannah Stone wnaeth hefyd briodi ym mis Gorffennaf.

Bu Clwb Mynydda Cymru yn dathlu'r deugain eleni ac ymysg oriel o rai o anturiaethau'r clwb ledled Cymru a thu hwnt dyma lun o daith mwy diweddar yn 2018, gydag adlewyrchiad o'r criw yn sbectol y ffotograffydd, Stephen Williams.

Anturiaethwr arall fu'n dathlu oedd Ash Dykes a gwblhaodd y daith 4,000 o filltiroedd ar hyd yr afon Yangtze yn China ar ei ben ei hun - y cyntaf erioed i wneud hynny.

O'r dwyrain pell i Ddolgellau, ac roedd y criw yma yn amlwg wrth eu boddau gyda pherfformiad Candelas ar nos Wener y Sesiwn Fawr.

Da iawn Dad! Guto Dafydd, bardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, gyda'i blant Nedw a Casi.

Bu'n rhaid gwagio Maes B a'r maes pebyll ieuenctid ar ddiwedd wythnos yr Eisteddfod eleni oherwydd y tywydd garw.

Er gwaetha'r tirwedd heriol, roedd digon o hwyl i'w gael wrth redeg Marathon Eryri. Cymerodd bron i 2,500 o redwyr ran yn y ras a oedd yn cychwyn wrth droed Yr Wyddfa yn Llanberis.

Hwyl fawr Gats, y "Kiwi â chanddo dân, ac adenydd draig". Ar ôl bron i 12 mlynedd a dros 120 o gemau wrth y llyw, gan gynnwys gêm gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd 2019, fe wnaeth Warren Gatland arwain tîm rygbi Cymru am y tro olaf eleni.

Doedd dim amheuaeth am flaenoriaethau Gareth Bale wrth i dîm pêl-droed Cymru sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol pencampwriaeth Euro 2020. Ymlaen at Baku!

Welsoch chi'r machlud rhyfeddol ddechrau Rhagfyr? Yng Nghaerfyrddin, dyma oedd yr olygfa tu allan i swyddfa Carwyn Tywyn uwchben yr Afon Tywi.

Aeth Twm y ci, a'i berchennog Esyllt Sears, i bleidleisio yn Eglwys Santes Tudful, yn Llyswyrny yn ystod yr Etholiad Cyffredinol - y cyntaf i gael ei gynnal ym mis Rhagfyr ers 1923.
Hefyd o ddiddordeb: