Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 25-7 Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Chwaraewyr Cymru yn mwynhau'r dathlu ar ddiwedd y gêm
Mae Cymru wedi sicrhau'r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl curo Iwerddon yn gyfforddus yn Stadiwm Principality.
Fe sgoriodd Gareth Anscombe 20 o'r pwyntiau wrth i dîm Warren Gatland ennill o 25-7.
Gatland yw'r hyfforddwr cyntaf yn hanes y gystadleuaeth i gyflawni'r Gamp Lawn deirgwaith.
Cafodd y tîm mewn coch ddechrau perffaith gyda chais gan Hadleigh Parkes o fewn 90 eiliad yn dilyn gwaith campus gan George North i ennill y meddiant o'r lein.
Roedd yna gyfraniad allweddol arall gan Parkes wedi saith munud, wrth i'w dacl arbennig atal Jacob Stockdale rhag sgorio cais ar ôl iddo yntau dderbyn y bêl wedi cic glyfar gan Johnny Sexton.
Ond funud wedi hynny bu'n rhaid i North adael y maes wedi anaf i'r arddwrn a daeth Dan Biggar ymlaen yn ei le.

Roedd gêm George North ar ben wedi dim ond wyth munud
Gyda'r Gwyddelod yn ildio ciciau cosb diangen, roedd yna gyfleoedd i Gymru gynyddu'r pwysau, ac fe lwyddon nhw i sgorio pwyntiau bob tro roedden nhw'n ymosod hanner y gwrthwynebwyr.
Erbyn yr egwyl roedd Anscombe wedi cynyddu'r fantais i 16-0 ac roedd Cymru wedi cael 62% o'r meddiant o'r bêl.
Gyda tho'r stadiwm ar agor ar ddiwrnod glawog, a hynny ar gais yr ymwelwyr, roedd y tywydd, efallai, yn adlewyrchu maint yr her i'r Gwyddelod, sydd erioed wedi gallu taro'n ôl a churo Cymru ar ôl bod mwy nag wyth pwynt ar ei hôl hi wedi'r hanner cyntaf.
Roedd daer angen dechrau da i'r ail hanner felly ar y gwrthwynebwyr os am gael unrhyw obaith o aros yn y gêm ond roedd Cymru yn dal yn rhy gryf iddyn nhw, ac wedi 48 munud roedd Anscombe wedi sgorio cic gosb arall i'w gwneud hi'n 19-0.
Daeth ei bumed wedi 52 o funudau, yn dilyn mwy o ddiffyg disgyblaeth gan chwaraewyr Iwerddon, a'r sgôr bellach yn 22-0.

Gareth Anscombe gafodd ei enwi'n chwaraewr y gêm ar ôl sgorio 20 o bwyntiau Cymru
Roedd yna sawl newid i'r ddau dîm yn y munudau canlynol ond dim newid i batrwm y gêm yn sgil yr eilyddion.
Wedi 69 o funudau roedd Anscombe wedi llwyddo yn ei chweched gic gosb o'r gêm.
A Chymru 25 pwynt ar y blaen gydag ychydig dros 10 munud yn weddill, a pherfformiad y Gwyddelod mor siomedig roedd y gêm, i bob pwrpas, eisoes ar ben.
Pwyntiau cysur yn unig oedd yna i Iwerddon yn sgil cais munud olaf Jordan Larmour a chic Jack Carty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2019