Miloedd yn gorymdeithio dros annibyniaeth yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd

Roedd miloedd o bobl yn cymryd rhan yn yr orymdaith
Mae miloedd o bobl wedi tyrru i Gaernarfon ddydd Sadwrn i gymryd rhan mewn gorymdaith yn galw am annibyniaeth i Gymru.
Fe ddechreuodd yr orymdaith am 13:00 o Faes Parcio Doc Fictoria, cyn mynd ymlaen drwy strydoedd y dref, o amgylch y castell, cyn gorffen gyda rali ar y Maes.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod tua 5,000 o bobl wedi cymryd rhan, ond yn ôl y trefnwyr mae'r ffigwr yn nes at 8,000.
Dywedodd un o'r trefnwyr, a chadeirydd mudiad YesCymru, Sion Jobbins: "Y nod ydy dangos bod 'na bobl yng Nghymru, miloedd ohonom ni, eisiau annibyniaeth i Gymru a bod Cymru yn gallu gwneud gwell job o reoli'i hun na chael ei rheoli gan San Steffan.

Sion Jobbins: Pobl newydd yn ymuno â'r frwydr am annibyniaeth 'yn llythrennol bob mis'
"Mi allen ni fod mewn sefyllfa mewn dwy, tair blynedd lle mae'r Deyrnas Unedig yn dod i ben a bod Cymru ddim yn barod - bod Yr Alban wedi mynd a bod Gogledd Iwerddon wedi mynd - ac allwn ni ddim gadael hynny i ddigwydd.
"'Da ni'n bell o'r lan ond 'da ni'n agosach nag oedden ni flwyddyn yn ôl."
Ymhlith y siaradwyr ar y Maes roedd y digrifwr a'r gweithredwr gwleidyddol o'r Alban, Hardeep Singh Kohli.
"Mae'n annerbyniol beth sydd wedi digwydd i bobl Cymru," meddai wrth y rali.
"Mae'n amser i Gymru, fel yr Alban, adfer ei hun fel cenedl. O Gastell y Fflint i Gas-gwent yn y de, mae'n bryd i wlad y gân ganu ei chân unwaith eto."
Ym mis Mai, roedd mudiad YesCymru, Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg ymhlith y mudiadau orymdeithiodd yng Nghaerdydd.



Roedd nifer o siaradwyr yn annerch y dorf mewn rali ar y Maes
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2019