Canfod gweddillion awyren Emiliano Sala ym Môr Udd
- Cyhoeddwyd
Mae gweddillion awyren ddiflannodd wrth gario'r pêl-droediwr Emiliano Sala wedi eu darganfod ym Môr Udd.
Aeth yr awyren Piper Malibu ar goll wrth deithio rhwng Nantes yn Ffrainc i Gaerdydd ar 21 Ionawr, gyda Sala a'r peilot David Ibbotson ar ei bwrdd.
Mae disgwyl i ymchwilwyr yrru llong danfor i gael golwg fanylach ar yr awyren, sydd yn y môr ger Guernsey, ddydd Llun.
Mae teuluoedd y ddau ddyn wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.
'Y rhan fwyaf ohoni yna'
Cafodd y gwaith chwilio ei ariannu'n breifat ar ôl i ymgyrch codi arian gasglu dros €320,000.
Wrth gadarnhau'r newyddion nos Sul, dywedodd David Mearns, wnaeth arwain y gwaith chwilio preifat, bod "rhan sylweddol" o'r awyren wedi ei ddarganfod.
"Mae'n teimladau heno gyda'r ddau deulu a'u cyfeillion," ychwanegodd.
Fore Llun, dywedodd Mr Mearns bod gweddillion yr awyren wedi eu canfod ar ddyfnder o "tua 63m" o fewn "cwpl o oriau o chwilio".
Dywedodd bod yr awyren wedi ei darganfod drwy sonar cyn i gamerâu gael eu defnyddio i gadarnhau.
"Fe wnaethon nhw weld y rhif cofrestru a'r sioc fwyaf i ni oedd bod y rhan fwyaf o'r awyren yna," meddai.
"Roedden ni'n disgwyl darganfod gweddillion dros y lle, mae hi wedi torri, ond mae'r rhan fwyaf ohoni yna."
Ychwanegodd bod y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) yn gyfrifol am y cam nesaf, ac mae disgwyl ymgais i ddod â'r awyren i'r lan yn y pen draw.
Yn dilyn y darganfyddiad, dywedodd tad Emiliano Sala, Horacio, ei fod "fel breuddwyd, breuddwyd ddrwg" a'i fod yn sefyllfa "enbyd".
Roedd Mr Mearns, oedd mewn cysylltiad â'r teulu, wedi dweud bod y "teulu yn ei gweld hi'n anodd dygymod gyda beth sydd wedi digwydd".
"Rydym yn ceisio canfod atebion iddyn nhw ynglŷn â beth ddigwyddodd."
Fe gyrhaeddodd deulu Emiliano Sala ar ynys Guernsey yn dilyn ei ddiflaniad ac fe aethon nhw i weld yr ardal sydd eisoes wedi cael ei ymchwilio.
Dechreuodd y chwilio preifat ar ôl i ran o glustog sedd awyren ddod i'r lan ar draeth ger Surtainville, Ffrainc.
Roedd teyrngedau emosiynol i Emiliano Sala nos Sadwrn wrth i Glwb Pêl-droed Caerdydd chwarae eu gêm gartref gyntaf ers ei ddiflaniad.
Dywedodd y rheolwr Neil Warnock ei fod yn teimlo bod Sala "gyda'i" dîm yn y fuddugoliaeth dros Bournemouth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2019