Crynodeb

  • Yr Eidal yn gorffen ar frig Grŵp A, gyda Chymru yn ail

  • Matteo Pessina yn rhoi'r Eidal ar y blaen cyn yr egwyl

  • Cerdyn coch i Ethan Ampadu ar ôl 56 munud

  • Gareth Bale yn methu cyfle gorau Cymru yn yr ail hanner

  • Swistir 3-1 Twrci yng ngêm arall y grŵp

  1. Arbediad arall gan Ward!wedi ei gyhoeddi 18:50 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Ergyd yn dod drwy nifer o goesau, ond Danny Ward yn ei chadw allan!

  2. 3 munud ychwanegol...wedi ei gyhoeddi 18:48 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

  3. Chwysfawedi ei gyhoeddi 18:47 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Mae bob man yn chwyslyd, dwi just isio 'stafell dywyll a gorwedd lawr.

  4. Sirigu ymlaen i'r Eidalwedi ei gyhoeddi 18:47 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Eilyddio

    Mae'r Eidal yn newid golwr. Sirigu ymlaen yn lle Donnarumma am ychydig funudau.

    goaliesFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Tanc Joe yn wagwedi ei gyhoeddi 18:45 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Gweld coesau Joe Allen wrth adael y cae, mae'r tanc yn wag.

  6. 'Gweithio mor galed'wedi ei gyhoeddi 18:44 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Malcolm Allen
    Cyn ymosodwr Cymru a sylwebydd S4C

    Quote Message

    Mae Cymru’n drefnus, maen nhw’n ddisgybledig – am faint allan nhw gadw fo fynd ydi’r peth, maen nhw’n gweithio mor, mor galed i’w gilydd.

    amddiffyn connor robertsFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Tri eilydd i Gymruwedi ei gyhoeddi 18:43 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Eilyddio

    David Brooks, Ben Davies a Dylan Levitt yn dod ymlaen.

    Gareth Bale, Neco Williams a Joe Allen yn gadael y cae.

    Y sgoriwr Pessina yn gadael i'r Eidal.

  8. Yr Eidal yn curo ar y drwswedi ei gyhoeddi 18:41 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Mae Cymru'n gaeth i'w cwrt cosbi eu hunain, a'r Eidal yn pwyso.

  9. Cerdyn melyn arall, Gunter y tro hwnwedi ei gyhoeddi 18:40 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Mae'r dyfarnwr yma wedi bod yn rhy barod ac yn rhy sydyn i ddangos cerdiau i Gymru... ac ambell i dacl fudur a sinicaidd wedi cael eu rhoi mewn gan Yr Eidal. Bydd y deg munud olaf yma fel deg awr.

  10. Carl yn cadw golwg ar y goliauwedi ei gyhoeddi 18:38 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Mae'r gwahaniaeth goliau Cymru 2 yn well na'r Swistir ar hyn o bryd. Os yw y gwahaniaeth goliau yn gyfartal Y Swistir fydd yn gorffen yn ail oherwydd eu bod wedi sgorio mwy o goliau na Chymru.

  11. Eilyddio anghywir?wedi ei gyhoeddi 18:37 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru a sylwebydd S4C

    Quote Message

    Synnu taw Dan James sydd wedi dod oddi ar y cae o ystyried ein bod ni wedi bod yn pryderu am ffitrwydd Allen a Ramsey.

  12. Cyfle i Bale!wedi ei gyhoeddi 18:33 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Cic rydd yn cael ei phenio'n ôl ar draws y cwrt tuag at Bale.

    Mae'n disgyn yn berffaith ar ei droed chwith, ond y capten yn ergydio dros y trawst!

    Doedd hi ddim yn hawdd, ond a fydd cyfle arall mor dda i Gymru?

    BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Wilson ymlaen yn lle Jameswedi ei gyhoeddi 18:32 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Eilyddio

    Harry Wilson yn dod i'r cae yn lle Dan James.

    Cristante a Raspadoriat ymlaen i'r Eidal yn lle Jorginho a Bernadeschi.

  14. Agos!wedi ei gyhoeddi 18:31 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Cornel Yr Eidal yn fflachio ar draws gôl Cymru! Dim on cyffyrddiad oedd ei angen yn fan 'na.

  15. Cymru yn blino yng nghanol cae?wedi ei gyhoeddi 18:30 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru a sylwebydd S4C

    Quote Message

    Problem fwya' sydd ganddo ni o ran chwaraewyr lluddedig ydi mai Allen a Ramsey sydd yng nghanol y cae nawr - a nhw ydi’r ddau chwaraewr ni angen edrych ar ôl mwya’ o ran ffitrwydd.

  16. Beth fydd ar feddwl Ampadu?wedi ei gyhoeddi 18:28 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Ampadu yn yr ystafell newid, beth yn y byd sydd yn mynd trwy ei feddwl o? Roedd o bron yn ei ddagrau yn gadael y cae.

    ampaduFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Cerdyn coch yn anffoduswedi ei gyhoeddi 18:28 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    'Tash' Harding
    Chwaraewr rhyngwladol Cymru

    Quote Message

    Mae just yn anffodus, ni gyd yn gwbod beth ddigwyddodd i Cymru pan aethon ni lawr i ddeg dyn. Anffodus bod y cerdyn coch wedi dod allan.

  18. Gôl arall i Shaqiri yn Bakuwedi ei gyhoeddi 18:26 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Mae Xherdan Shaqiri wedi cael gôl arall i'r Swistir yn Baku...

    3-1 bellach, ond Cymru dal yn ail yn y grwp am y tro.

  19. Diolch Twrciwedi ei gyhoeddi 18:25 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Diolch yn fawr iawn Twrci, gawn ni un bach arall? Ond mae hi yn bwysig bod ni yn neud y gwaith amddiffynol fan hyn.

  20. Arbediad campus gan Wardwedi ei gyhoeddi 18:22 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Arbediad gwych gan golwr Cymru i atal Andrea Belotti o chwe llath. Arbennig.