Crynodeb

  • Yr Eidal yn gorffen ar frig Grŵp A, gyda Chymru yn ail

  • Matteo Pessina yn rhoi'r Eidal ar y blaen cyn yr egwyl

  • Cerdyn coch i Ethan Ampadu ar ôl 56 munud

  • Gareth Bale yn methu cyfle gorau Cymru yn yr ail hanner

  • Swistir 3-1 Twrci yng ngêm arall y grŵp

  1. Cerdyn coch costus iawn?wedi ei gyhoeddi 18:21 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Nic Parry
    Sylwebydd S4C

    Os fydd gan Gymru a'r Swistir yr un nifer o bwyntiau a goliau ar ddiwedd y gêm, bydd y nifer o gardiau coch a chardiau melyn yn bwysig iawn.

    Quote Message

    Nid yn unig bod Cymru yn mynd lawr i 10 dyn ond fe all y cyfan ddod lawr i faint o bwyntiau disgybliaeth sydd gan y naill dîm a’r llall – fe all yr eiliad honna gostio’n ddrud.

    ampaduFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ethan Ampadu yn cael ei gysuro gan Gareth Bale wrth iddo adael y maes

  2. Twrci wedi sgoriowedi ei gyhoeddi 18:21 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Mae twrci wedi tynnu un yn ôl yn erbyn Y Swistir - 2-1 bellach...

  3. Penderfyniad anghywir?wedi ei gyhoeddi 18:20 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Hwyrach penderfyniad anghywir gan Robert Page gyda'r eilyddio? Ond dwi heb gael fy synnu. Profiad yn hollbwysig nawr.

  4. Dim amser ar y bêl i chwaraewyr Cymruwedi ei gyhoeddi 18:19 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru a sylwebydd S4C

    Quote Message

    Bob tro mae Cymru 'efo meddiant maen nhw yn ein gwynebau ni o fewn eiliad felly maen nhw’n gorfodi ni'n ôl trwy'r amser.

  5. Kieffer Moore ymlaen i Gymruwedi ei gyhoeddi 18:17 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Eilyddio

    Joe Morrell yn gadael y cae wrth i Rob Page wybod bod rhaid cymryd risg.

    Hanner awr sydd i fynd.

  6. Angen dringo Everestwedi ei gyhoeddi 18:16 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Os oedd ganddon ni Yr Wyddfa i ddringo yn yr ail hanner yma, mae ganddon ni fynydd Everest rwan. Lawr i ddeg dyn yn erbyn y tîm yma!

  7. Cerdyn coch i Ampaduwedi ei gyhoeddi 18:14 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Cerdyn Coch

    Ethan Ampadu yn cael ei hel o'r cae am dacl hwyr ar Bernadeschi.

    Mae hyn yn ergyd ofnadwy i Gymru, sydd i lawr i 10 dyn am weddill y gêm.

    cerdyn coch AmpaduFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Cyfle gorau'r gêm i Gymru!wedi ei gyhoeddi 18:12 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Aaron Ramsey yn dwyn y bêl yng nghwrt Yr Eidal ac un yn un yn erbyn y golwr...

    Ond mae'n oedi cyn ergydio, a cyfle i'r amddiffynnwr ddod yn ôl.

  9. Symud yn gyflymachwedi ei gyhoeddi 18:10 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Ni'n symud y bêl yn gyflymach a Gareth Bale yn cael dangos ei gryfder, dangos ei weledigaeth. Yr Eidal yn gweithio mor galed ac yn cau lawr mor sydyn. Dwi ddim yn meddwl bydd yr Eidal yn fodlon ar ennill y gêm o un gôl i ddim.

    baleFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. POSTYN!wedi ei gyhoeddi 18:10 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Bernadeschi yn taro'r postyn o'r gic rydd!

  11. Melyn i Allenwedi ei gyhoeddi 18:09 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Cerdyn Melyn

    Joe Allen yn cael cerdyn melyn cyntaf y gêm.

    Fe allai hynny fod yn hollbwysig os ydy Cymru a'r Swistir yn gyfartal ar goliau ar ddiwedd y gêm...

  12. Owain Tudur Jones yn hyderus...wedi ei gyhoeddi 18:08 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Owain Tudur Jones
    Cyn chwaraewr Cymru

    Quote Message

    Cymru - cadwch eich pennau, peidiwch â mynd ar ôl pethau sydd ddim yna o gwbl a gadael gormod o fylchau ac ildio’n rhy gynnar. Fyddwn ni’n iawn, peidiwch â phoeni.

  13. 'Rhaid gwneud newid'wedi ei gyhoeddi 18:04 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Malcolm Allen
    Cyn ymosodwr Cymru a sylwebydd S4C

    Quote Message

    Mae’n rhaid i ni wneud rhyw fath o newid, dod a Tyler Roberts neu gymryd y gambl a dod a Kieffer Moore ar y cae. Does ‘na neb yn dal y bêl i fyny a dyda' ni heb gynnig dim byd yn ymosodol.

  14. Acerbi ymlaenwedi ei gyhoeddi 18:03 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Eilyddio

    Francesco Acerbi ymlaen yn lle capten Yr Eidal, Leonardo Bonucci.

    Dim newid i Gymru.

  15. 'Gunter mor agos!'wedi ei gyhoeddi 18:02 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Nicky John
    Rhaglen Ewro Marc, BBC Radio Cymru

    Dyma sylwadau Nicky John o raglen Ewro Marc ar yr hanner.

    Cofiwch wrando ar Ewro Marc yn syth ar ôl y gêm am 19:00 ar BBC Radio Cymru.

    Cysylltwch ar 03703 500 500 neu 67500 ar y testun.

    Disgrifiad,

    Nicky

  16. Dal i gredu!wedi ei gyhoeddi 18:02 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Er gwaetha'r sgôr ar yr hanner, mae rhai o griw Llannerchymedd yn dal i gadw'r ffydd.

    Gobeithio am well yn yr ail hanner!

    cefnogwyr yn yfed cwrw
  17. Bale wedi anafu?wedi ei gyhoeddi 17:58 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Gareth Bale yn hercian wrth adael y cae ar yr egwyl. Gobeithio y bydd o'n iawn!

  18. Beth sy'n rhaid i Gymru ei wneud?wedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Owain Tudur Jones
    Cyn chwaraewr Cymru

    Quote Message

    Mae’n rhaid i ni fynd a’r gêm ychydig bach iddyn nhw – ar hyn o bryd mae’r Eidal yn ei chael hi yn ormodol eu ffordd nhw.

    allenFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Eidal wedi gweld mwy o'r bêl yn yr hanner cyntaf

  19. Wedi colli gormod o'r bêlwedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    'Tash' Harding
    Chwaraewr rhyngwladol Cymru

    Quote Message

    O ni yn meddwl y bydde Page wedi setio y tîm lan fel hyn, yn trio amddiffyn yn erbyn Yr Eidal yn yr hanner cyntaf a mynd mewn hanner amser gyda 0-0. Ond o' ti yn gweld oedd y Cymry ddim yn cael y bêl pan o' ni yn trio pasio fe o' nhw yn colli y bêl yn eu hanner nhw a wedyn Yr Eidal wedi cryfhau.

  20. Het hyfryd!wedi ei gyhoeddi 17:54 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter