Crynodeb

  • Yr Eidal yn gorffen ar frig Grŵp A, gyda Chymru yn ail

  • Matteo Pessina yn rhoi'r Eidal ar y blaen cyn yr egwyl

  • Cerdyn coch i Ethan Ampadu ar ôl 56 munud

  • Gareth Bale yn methu cyfle gorau Cymru yn yr ail hanner

  • Swistir 3-1 Twrci yng ngêm arall y grŵp

  1. Croeso!wedi ei gyhoeddi 15:30 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    P'nawn da i chi a chroeso i'n llif byw o gêm Cymru yn erbyn Yr Eidal yn Euro 2020.

    Heb os dyma ydy'r gêm anoddaf i dîm Rob Page ar bapur, ond mae'r Cymry wedi cael dechrau arbennig i'r gystadleuaeth.

    Arhoswch hefo ni wrth i ni edrych ymlaen at y gic gyntaf am 17:00 yn Rhufain.

    OlimpicoFfynhonnell y llun, Getty Images