Stadio Llanerchymeddowedi ei gyhoeddi 17:19 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021
Mae 200 o gefnogwyr yn eistedd wrth eu byrddau mewn pabell tu ôl i'r Bull, yn Llannerchymedd, Ynys Môn.
Yr Eidal yn gorffen ar frig Grŵp A, gyda Chymru yn ail
Matteo Pessina yn rhoi'r Eidal ar y blaen cyn yr egwyl
Cerdyn coch i Ethan Ampadu ar ôl 56 munud
Gareth Bale yn methu cyfle gorau Cymru yn yr ail hanner
Swistir 3-1 Twrci yng ngêm arall y grŵp
Mae 200 o gefnogwyr yn eistedd wrth eu byrddau mewn pabell tu ôl i'r Bull, yn Llannerchymedd, Ynys Môn.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Quote MessageRhybudd arall. 'Da ni yn chwarae gêm beryglus yn disgyn mor ddyfn yn amddiffynnol. Gallwn ni ddim neud hyn am awr a hanner - mae rhaid ni gael rhywfath o chwarae ymosodol er mwyn i chwaraewyr canol cae a'r pump yn y cefn wthio i fyny.
Nic Parry
Sylwebydd S4C
Quote Message‘Da chi’n teimlo bod y crochan Eidalaidd yn dechrau berwi
Prawf cynnar i amddiffyn Cymru wrth i'r Eidal ddechrau symud y bêl yn slic ac achosi problemau i dîm Rob Page.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Quote MessageMae'n rhaid ni gael cyfnod o gadw'r bêl, mae'r Eidalwyr wedi bod yn llawer mwy taclus 'efo'r bêl yna na Chymru yn y deg munud agoriadol.
Cyfle i'r Eidal, mae Belotti'n codi i gyrraedd y croesiad yn y cwrt, ond dydy o ddim yn cael cysylltiad digon da i rwydo.
Mae 'na bosib y byddai'r Eidalwr wedi bod yn camsefyll petai honno wedi mynd i mewn.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Quote MessageNewydd gael neges bod y Swistir un i fyny. Ond rhaid ni beidio poeni am hynny, mae rhaid ni ganolbwyntio ar yr her sydd o'n blaen ni.
Mae hi'n 1-0 i'r Swistir yn y gêm arall yn y grwp...
Ciciau rhydd cynnar i Gymru yn dilyn troseddau gan y tîm cartref.
Joe Allen o bawb yn rhedeg i'r cwrt ond dydy Joe Bach ddim yn ddigon tal i gyrraedd y bas!
Dafydd Pritchard
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru yn Stadio Olimpico, Rhufain
Roedd yr anthem Eidalaidd yna yn hollol wefreiddiol.
Anrhydedd i'w chlywed yn fyw.
Nic Parry
Sylwebydd S4C
Quote Message400 o gefnogwyr ddudis i? Roedd o’n swnio fel 15,000!
Yr anthemau wedi eu canu. Y chwaraewyr yn barod. I ffwrdd a ni!
Carl Roberts
Chwaraeon BBC Cymru
Quote MessageMae angen i'r cefnogwyr a ni yn y wasg wisgo mwgwd yn gwylio'r gêm. Sawl un o'n cwmpas ni wedi cael ei atgoffa i wisgo un. Y dorf newydd floeddio 'ITALIA ITALIA ITALIA' Bellisimo!
Gwnewch baned, tolltwch ddiod, mae hi bron yn amser y gic gyntaf.
Mae'r chwaraewyr allan ar y cae ar gyfer yr anthemau.
Owain Tudur Jones
Cyn-chwaraewr Cymru
Quote MessageUn peth am Verratti – mae hwn yn gallu colli ei ben felly rhai i ni wneud yn siŵr - Joe Allen a Joe Morrell - fynd yn agos ato fo a gwneud o’n anodd iddo fo, a phwy a ŵyr falle fyddwn ni’n gweld y tîm cartref i lawr i 10 dyn...
Carl Roberts
Chwaraeon BBC Cymru
Quote MessageMae eilydd yr Eidal Nicolo Barella newydd ymddiheuro i'r dyn camera y tu ôl i'r gôl ar ol i'w ergyd daro fo ar ei ben. Y dyn camera yn iawn!
'Tash' Harding
Chwaraewr rhyngwladol Cymru
Quote MessageDwi meddwl bod hi'n symudiad da gan Rob Page, fi'n gwbod bod ni ddim drwodd gant y cant, mae'n edrych tuag at y gemau nesaf, a dysgu o'r twrnament diwethaf pan wnaeth y bois golli allan ar gerdyn melyn. Fi'n meddwl bod e'n symudiad da gan Rob Page.
Nicky John
Rhaglen Ewro Marc, BBC Radio Cymru
Dyma farn Nicky John o raglen Ewro Marc o'r tîm fydd yn dechrau'r gêm yn Rhufain.
Cofiwch wrando ar Ewro Marc yn syth ar ôl y gêm am 19:00 ar BBC Radio Cymru.
Cysylltwch ar 03703 500 500 neu 67500 ar y testun.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Quote MessageMae hwn yn un o'r meysydd gorau dwi wedi gweld. Unwaith ti yn cerdded i fewn mae dy ên di yn cyffwrdd y llawr. Mae yna awyrgylch da yma.
Carl Roberts
Chwaraeon BBC Cymru
Quote MessageMae digon o sŵn yn y Stadio Olimpico heddiw. Dwi ar ochr y cae yn gwylio'r Eidalwyr yn ymarfer.