Y farn yng nghlwb Mountain Rangerswedi ei gyhoeddi 16:38 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021
Mountain Rangers yn trafod Cymru v Eidal
Yr Eidal yn gorffen ar frig Grŵp A, gyda Chymru yn ail
Matteo Pessina yn rhoi'r Eidal ar y blaen cyn yr egwyl
Cerdyn coch i Ethan Ampadu ar ôl 56 munud
Gareth Bale yn methu cyfle gorau Cymru yn yr ail hanner
Swistir 3-1 Twrci yng ngêm arall y grŵp
Mountain Rangers yn trafod Cymru v Eidal
Malcolm Allen
Cyn-ymosodwr Cymru
Quote MessageDydy’r hogia' yma ddim yn mynd i dynnu eu traed oddi ar y sbardun rŵan – mae 'na siawns i guro'r tabl fan hyn.
Quote MessageEfallai nad oes sêr fel 'da ni wedi gweld efo tîm Yr Eidal dros y blynyddoedd diwetha’ o ran unigolion - ond fel tîm maen nhw’n edrych yn uned a hanner.
Owain Tudur Jones, Cyn chwaraewr Cymru a sylwebydd
Dafydd Pritchard
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru yn Stadio Olimpico, Rhufain
Mae rheolwr Yr Eidal, Roberto Mancini, yn dipyn o gymeriad.
Yn ystod ei gynhadledd newyddion ddoe, cafodd Mancini gwestiwn yn gofyn os taw'r Eidal oedd yn chwarae yr arddull bêl-droed orau yn y gystadleuaeth.
"Dwi ddim yn siwr am hynny," meddai Mancini.
"Ond mae'r grwp yma o chwaraewyr yn sicr yn olygus!"
Mae gan chwaraewyr Yr Eidal steil 'does
Hanner awr sydd tan y gic gyntaf yn Rhufain.
Cofiwch bod modd gwrando ar sylwebaeth Radio Cymru drwy glicio uchod.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r newidiadau lu yna i dîm yr Eidal yn golygu eu bod nhw ychydig yn llai profiadol na'r disgwyl.
Oni bai am y capten Bonucci, sydd ar 104 o gapiau, does 'na'r un arall ohonyn nhw ar dros 40.
Ac er mai amddiffynnwr ydy o, does 'na neb yn yr 11 sy'n dechrau i'r Eidal heddiw sydd 'efo mwy o goliau rhyngwladol (7) na fo.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Carl Roberts
Chwaraeon BBC Cymru
Quote MessageMae'r gôl-geidwaid wedi bod allan yn ymarfer, Rob Page yn edrych yn chilled iawn.
Dafydd Pritchard
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru yn Stadio Olimpico, Rhufain
Mae golwyr Cymru newydd ymddangos ar y cae, ac ymateb yr Eidalwyr yn y dorf oedd i fwio nhw yn uchel.
Mae'r awyrgylch yn datblygu yn barod.
Fe wnaethom ni son yn fras yn gynharach am y posibiliadau i Gymru ar ôl heno, ond mae arbenigwr Cymru Fyw wedi bod yn ymchwilio...
Os ydy Cymru'n ennill neu'n cael gêm gyfartal heddiw, mae'r goblygiadau'n syml.
Curo'r Eidal, a bydd tîm Rob Page yn gorffen ar frig y grŵp ac yn chwarae yn Wembley yn rownd yr 16 olaf yn erbyn y tîm sy'n ail yng Ngrŵp B.
Gêm gyfartal, a bydd y crysau cochion yn gorffen yn ail, gan deithio i Amsterdam yn y rownd nesaf i wynebu'r Wcrain neu Awstria.
Colli, ac mae posibiliad o orffen yn drydydd. Byddai'n rhaid i'r Swistir hefyd ennill yn erbyn Twrci er mwyn i hynny ddigwydd, gydag o leiaf pum gôl o wahaniaeth yn y sgoriau (er enghraifft, Cymru'n colli o dair a'r Swistir yn ennill o ddwy).
OND os oes senario ble mae'r ddau yn gorffen ar yr un gwahaniaeth goliau, ac yna goliau wedi'u sgorio - er enghraifft, Cymru'n colli 3-0 a'r Swistir yn ennill 2-0 - bydden nhw'n hollol hafal yn y tabl.
Bryd hynny, byddai'n mynd i record disgyblaeth y ddau dîm. Hyd yma mae Cymru wedi cael tri cherdyn melyn yn y gystadleuaeth, a'r Swistir wedi cael pedwar.
O ia, ac os ydan ni'n gorffen yn drydydd... na, wedi meddwl, mae angen esboniad ar wahân eto ar gyfer hynny!
Mae 'na ddigon o bosibiliadau i Rob Page bendroni beth bynnag!
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dafydd Pritchard
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru yn Stadio Olimpico, Rhufain
Mae'r Stadio Olimpico yn odidog.
Dim ond 15,000 o gefnogwyr fydd yma heddiw oherwydd cyfyngiadau coronafeirws. Mae'r stadiwm fel arfer yn gallu dal 70,000.
Ond mi fydd clywed anthem Yr Eidal yn cael ei chanu gan y dorf yma yn brofiad arbennig.
Mae'n gynnes a chlos ar hyn o bryd. Bydd chwarae yn y tywydd yma'n waith chwyslyd.
Ond beth am ystadegyn i'ch gwneud chi ychydig yn fwy gobeithiol?
Mae'n bosib iawn y gwelwn ni o leiaf un gôl gan Gymru heddiw - dim ond unwaith yn eu 15 gêm gystadleuol ddiwethaf maen nhw wedi methu â sgorio.
Mae'r Eidal wedi cael dechrau arbennig i'r gystadleuaeth eleni, gan guro Twrci a'r Swistir o 3-0.
Gobaith yr Azzurri fydd sicrhau 11eg buddugoliaeth yn olynol ymhob cystadleuaeth heddiw.
Dydy tîm Roberto Mancini heb ildio gôl mewn 965 munud o gemau chwaith, gan sgorio 31 yn y cyfnod yna. Yn wir, y tro diwethaf i'r Eidal golli gêm oedd Medi 2018.
Mae 'na dasg anferthol i Gymru heddiw...
Heb os, mae'r Eidal yn un o dimau mawr pêl-droed Ewropeaidd a dros y byd.
Mae'n deg dweud pêl-droed yr un mor bwysig i'r bobl a'r bwyd byd-enwog, gweithiau celf Leonardo da Vinci neu dai ffasiwn Milan.
Ond faint wyddoch chi am bêl-droedwyr y wlad? Cliciwch yma am fwy.
Mae'r Eidal wedi gwneud WYTH newid i'r tîm gurodd Y Swistir - dim ond y golwr Donnarumma, yr amddiffynnwr Leonardo Bonucci a chwaraewr canol cae Chelsea, Jorginho, sy'n cadw eu lle.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Tri newid felly, sy'n golygu bod y profiadol Ben Davies a'r bygythiol Kieffer Moore yn disgyn i'r fainc.
Pawb yn hapus hefo hynny?
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae tîm Cymru newydd gael ei gyhoeddi, ac mae 'na dri newid i'r 11 a gurodd Twrci.
Mae Ethan Ampadu, Chris Gunter a Neco Williams i gyd yn dechrau, gyda Ben Davies, Chris Mepham a Kieffer Moore yn disgyn i'r fainc.
Mae'n werth nodi bod Davies, Mepham a Moore wedi derbyn cerdyn melyn yr un yn barod, ac fe fyddai un arall heddiw yn golygu gwaharddiad...
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dwi'n siŵr bod ddim angen eich atgoffa, ond dyma'r drydedd gêm i Gymru yn Euro 2020, yn dilyn y canlyniad cyfartal gyda'r Swistir ychydig dros wythnos yn ôl, a'r fuddugoliaeth wych 'na yn erbyn Twrci nos Fercher.
O ran y rownd nesaf, un peth sy'n sicr - fe fydd enillydd y gêm heno yn gorffen ar frig Grŵp A.
Byddai gêm gyfartal yn golygu bod Cymru'n sicr o orffen yn ail, ond colli heno, ac mae pethau'n mynd yn fwy cymhleth.
Ond mi gawn ni fwy am hynny gan arbenigwr Cymru Fyw yn y man...