Crynodeb

  • Yr Eidal yn gorffen ar frig Grŵp A, gyda Chymru yn ail

  • Matteo Pessina yn rhoi'r Eidal ar y blaen cyn yr egwyl

  • Cerdyn coch i Ethan Ampadu ar ôl 56 munud

  • Gareth Bale yn methu cyfle gorau Cymru yn yr ail hanner

  • Swistir 3-1 Twrci yng ngêm arall y grŵp

  1. Record anhygoelwedi ei gyhoeddi 17:51 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Yr Eidalwyr sydd gyda'r record ryfeddol yma yn Rhufain - 'dyn nhw ddim wedi colli gêm gystadleuol yma ers 1953.

  2. Cymru o flaen Y Swistir - fel mae'n sefyllwedi ei gyhoeddi 17:49 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru yn Stadio Olimpico, Rhufain

    Ar hyn o bryd, mae Cymru dal o flaen Y Swistir yng Ngrwp A ar wahaniaeth goliau. Maen nhw ar yr un nifer o bwyntiau.

    Mae gan Gymru wahaniaeth goliau o +1 ac mae gan Y Swistir, sydd ar y blaen 2-0 yn erbyn Twrci, wahaniaeth goliau o -1.

  3. Yr Eidal 1-0 Cymru ar yr egwylwedi ei gyhoeddi 17:46 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Hanner Amser

    Gwaith i'w wneud yr yr ail hanner i Gymru. Gôl Matteo Pessina yn gwahanu'r timau ar hyn o bryd.

    A welwn ni newidiadau gan Rob Page?

    PessinaFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd cyffyrddiad ysgafn Pessina yn ddigon i wyro'r bêl heibio i Danny Ward

  4. Newid tactegau?wedi ei gyhoeddi 17:45 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Bydd rhaid i Robert Page feddwl am beth mae o'n neud yn yr ail hanner. Fedrwn ni ddim poeni am yr 16 olaf, hon ydy'r gêm bwysicaf, achos hon ydy'r nesaf. Gallwn ni ddim dibynnu ar Twrci yn sgorio yn erbyn Y Swistir.

  5. Colli meddiant yn hawddwedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Nic Parry
    Sylwebydd S4C

    Quote Message

    Dwi’n dechrau colli cyfri ar yr adegau mae Cymru wedi rhoi’r meddiant yn rhad.

  6. Cymru dan warchaewedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Mae Cymru dan bwysau ar ddiwedd yr hanner yma. Cylfe gwych arall i Pessina, cyn i'r Eidal brofi Danny Ward o gic gornel arall.

    Mae Cymru angen sicrhau nad ydyn nhw'n ildio eto cyn yr egwyl.

  7. Campuswedi ei gyhoeddi 17:41 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Chwarae teg i Pessina, cyffyrddiad campus ganddo fe i roi y bêl heibio i Danny Ward.

  8. Yr Eidal 1-0 Cymruwedi ei gyhoeddi 17:40 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Cic rydd i'r Eidal ar ôl trosedd Allen ar Marco Veratti.

    Y bêl yn mynd i mewn o ardal beryglus ac mae Pessina'n cael cyffyrddiad bach ar y bêl ar y postyn blaen.

    PessinaFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Gôl i'r Eidalwedi ei gyhoeddi 17:39 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    EidalFfynhonnell y llun, bbc
  10. C'mon Cymru!wedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Bridget a Tania yn cefnogi yn nhafarn Yr Albert, Caernarfon

    Cefnogwyr Cymru mewn tafarn yng NgharnarfonFfynhonnell y llun, bbc
  11. Un Cymro dal yn Bakuwedi ei gyhoeddi 17:33 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Mae 'na o leiaf un Cymro dal yn Baku!

    Illtud Dafydd, newyddiadurwr gydag AFP, sy'n cadw llygad ar bethau rhwng Y Swistir a Thwrci.

    2-0 fel mae'n sefyll...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Criw swnllyd yn gobeithio am fwywedi ei gyhoeddi 17:32 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Newydd glywed 'Don't Take me Home' yn dod o'r criw bach o Gymry i'r chwith ohonai.

    Cefnogwyr Cymru
  13. Cyfle arall i'r Eidalwedi ei gyhoeddi 17:31 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Mae'r Eidal yn parhau i fygwth, ac mae Chiesa wedi ergydio ar draws y gôl eto!

    Fe wnaeth hi gyffwrdd Ampadu hefyd ar ei ffordd - gallai fod wedi mynd i unman...

  14. Methu Moorewedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru a sylwebydd S4C

    Quote Message

    Mae’n mynd i fod yn anodd cael chwaraewyr creadigol fel James a Ramsey ar y bêl yn enwedig achos mae'r Eidal yn gorfodi ni fynd yn hir a dyna ble ni’n methu presenoldeb rhywun fel Kieffer Moore.

  15. 2-0 i'r Swistirwedi ei gyhoeddi 17:29 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Yn y cyfamser mae'r Swistir wedi dyblu eu mantais dros Dwrci...

  16. AGOS!!!wedi ei gyhoeddi 17:28 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Chris Gunter fodfeddi i ffwrdd o sgorio ei gôl gynta' i Gymru - a hynny wrth ennill cap 102!

    Peniad gan yr amddiffynnwr o'r gornel, ac mae o mor agos!

    Chris GunterFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Gobeithio cael hanner siawnswedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    'Tash' Harding
    Chwaraewr rhyngwladol Cymru

    Quote Message

    Mae nhw yn neud yn really dda ar y foment, trio gobeithio gewn nhw siawns ar y gôl neu gic gornel, ond meddwl bod y bois yn 'neud yn dda.

  18. Cymru wedi deffro!wedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Fflachiadau gwell gan Gymru!

    Pasio taclus ar y dde cyn i'r bêl ddod i'r chwith a chwarae da rhwng Neco Williams ac Ethan Ampadu i lawr yr asgell.

    Mae'r croesiad yn mynd i mewn, ond doedd Joe Allen yn methu a chadw'r bêl dan ei reolaeth.

    Yr Eidalwyr yn mynd syth i lawr i'r pen arall a Belotti eto yn taro ergyd ar draws y gôl. Cymru'n ffodus nad oedd na grys glas yna i sgorio...

    cyfle BelottiFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 17:21 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Dwylo saffwedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Mi wnaeth Danny Ward yn gampus yn fanna. Yr ergyd ar y foli gan Toloi, fe wyrodd hi ac fe fu'n rhaid i Danny Ward addasu ei gorff.