Crynodeb

  • Kasper Dolberg yn rhoi Denmarc ar y blaen ar ôl 27 munud ac yn rhwydo'i ail ar ôl 48 munud

  • Joakim Maehle a Martin Braithwaite yn selio'r fuddugoliaeth

  • Harry Wilson yn derbyn cerdyn coch hallt am dacl hwyr

  • Connor Roberts yn gadael y cae gydag anaf yn yr hanner cyntaf, Neco Williams yn ei le

  • Cymru'n cychwyn gyda'r 11 a ddechreuodd yn erbyn y Swistir a Thwrci

  • Ben Davies, Kieffer Moore a Chris Mepham y newidiadau o'r golled yn erbyn Yr Eidal; Ethan Ampadu wedi'i wahardd

  • Denmarc yn gwneud dau newid - Jens Stryger Larsen a Kasper Dolberg yn lle Daniel Wass a Yusuff Poulsen

  • Denmarc oedd y ffefrynnau gan y bwcis i fynd ymlaen i'r rownd nesaf

  • Taith i Baku sy'n wynebu Denmarc yn rownd yr wyth olaf

  1. Diolch, a hwyl fawr!wedi ei gyhoeddi 19:25 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r daith ar ben am Euro 2020.

    Un fantais o weld y bencampwriaeth yn cael ei gohirio am flwyddyn yw mai dim ond un flwyddyn sy'n rhaid disgwyl am y bencampwriaeth nesaf.

    Cwpan y Byd 2022 yw honno, ac fe allwn ni nawr ddechre gobeithio y bydd Cymru'n cyrraedd y rowndiau terfynol yn Qatar!

    C'mon Cymru!

  2. Diwedd y daithwedi ei gyhoeddi 19:20 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Y farn gan un cefnogwr yn Amsterdamwedi ei gyhoeddi 19:19 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Cymru 0-4 Denmarcwedi ei gyhoeddi 19:16 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r daith ar ben am y tro hwn.

    Ond fe wnaeth Cymru gyrraedd 16 gorau Ewrop unwaith eto, felly mae balchder hefyd.

    .graffeg
    Disgrifiad o’r llun,

    Diwedd y gêm

  5. Carl Roberts wedi colli ffrind?wedi ei gyhoeddi 19:15 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Carl Roberts oedd yn holi Gareth Bale ar y diwedd, ond roedd ymateb capten Cymru pan ofynnwyd iddo am ei ddyfodol gyda Chymru, roedd yr ymateb yn reit ffyrnig!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Euro 2020 'yn ofnadwy o annheg'wedi ei gyhoeddi 19:11 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Mae'r gystadleuaeth yma'n ofnadwy o annheg. Dim ond dwy wlad sy' wedi 'neud mwy o drafeilio na Cymru - Y Swistir a Sweden. Dim esgusodion - alla i ddim dallt pam bo' cefnogwyr Cymru ddim yn cael trafeilio a bod y lle 'ma'n llawn o gefnogwyr Denmarc. Ond llongyfarchiadau iddyn nhw - maen nhw'n well tîm na ni.

  7. Mwy i ddodwedi ei gyhoeddi 19:10 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. 'Da ni gyd yn teimlo fel Aaron Ramseywedi ei gyhoeddi 19:08 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    ramseyFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Siom yn y Saith Serenwedi ei gyhoeddi 19:03 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    ..ac ymhob man arall a dweud y gwir.

    Roedd teimladau'r criw yn y Saith Seren yn Wrecsam yn adlewyrchu teimladau pawb drwy Gymru.

    7 seren
  10. Bale am gario mlaen?wedi ei gyhoeddi 19:02 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Malcolm Allen
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Dwi ddim yn credu mai dyma ddiwedd Gareth Bale i Gymru.. fydd o ddim isho mynd allan gyda cholled fel hyn, ac mae ganddo fo mwy i roi

  11. 'Colli yn erbyn tîm gwell'wedi ei gyhoeddi 19:01 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Ry'n ni wedi colli yn erbyn tîm gwell heddiw. Doedd hi ddim yn hawdd i Gymru - mae nhw wedi gorfod trafaelio lot a heddiw roedd 99% o gefnogwyr o blaid Denmarc. Un peth - mae'n rhaid i ni gael mwy o barch pan 'dan ni'n colli.

    cymeradwyo cefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. 'Hoelen olaf yn yr arch'wedi ei gyhoeddi 18:56 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    A dyna'r hoelen olaf yn yr arch i Gymru ac mae chwaraewyr Cymru yn llyfu eu clwyfau. Mae nhw bellach ar eu ffordd yn ôl i Gymru. Mae wedi bod yn boenus - a fydd dim ailadrodd campau Euro 2016.

  13. Llongyfarchiadau i Ddenmarcwedi ei gyhoeddi 18:55 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Nic Parry
    Sylwebydd S4C

    Quote Message

    'Da ni'n diolch i Gymru am yr hyn gawson ni ganddyn nhw... 'da ni'n llongyfarch Denmarc am be welson ni heddiw

  14. Cymru allan o Euro 2020wedi ei gyhoeddi 18:54 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-4 Denmarc

    BBC Cymru Fyw

    Does dim dadlau... Denmarc oedd yn feistri ar y diwrnod.

    Mae hi ar ben yn Amsterdam, ac mae Cymru wedi colli o 4-0 i Ddenmarc.

  15. VAR yn ein herbyn y tro yma!wedi ei gyhoeddi 18:53 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-4 Denmarc

    Mae'n chwalfa.

    VAR yn edrych ar y digwyddiad eto, ac yn caniatau gol Martin Braithwaite... mae'n bedair i Ddenmarc.

    dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. O diar!wedi ei gyhoeddi 18:53 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-4 Denmarc

    denmarc
  17. 'Dan ni ddim yn dîm budr'wedi ei gyhoeddi 18:52 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Dwi erioed wedi gweld Cymru yn cael cymaint o gardiau coch. Ond 'dan ni ddim yn dîm budr! Rhaid peidio colli'n pennau.

  18. Rhyddhad o fath!wedi ei gyhoeddi 18:51 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-3 Denmarc

    Brathwaite yn rhwydo eto, ond roedd e'n camsefyll... mae'n parhau yn 3-0 yn ddwfn i mewn i amser ychwanegol.

  19. Melyn i Bale!wedi ei gyhoeddi 18:50 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-3 Denmarc

    Cerdyn Melyn

    Diffyg disgyblaeth lwyr nawr... Gareth Bale yn gweld cerdyn melyn am wawdio'r dyfarnwr!

    baleFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Cweir yn Amsterdamwedi ei gyhoeddi 18:48 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Cweir yn Amsterdam. Mae ar ben ar Gymru.