Halen ar y briw!wedi ei gyhoeddi 18:48 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021
Cymru 0-3 Denmarc
Cerdyn Coch
Harry Wilson sy'n gweld cerdyn coch am dacl ar Maehle, ond mae'n ymddangos yn gosb hallt dros ben!
Kasper Dolberg yn rhoi Denmarc ar y blaen ar ôl 27 munud ac yn rhwydo'i ail ar ôl 48 munud
Joakim Maehle a Martin Braithwaite yn selio'r fuddugoliaeth
Harry Wilson yn derbyn cerdyn coch hallt am dacl hwyr
Connor Roberts yn gadael y cae gydag anaf yn yr hanner cyntaf, Neco Williams yn ei le
Cymru'n cychwyn gyda'r 11 a ddechreuodd yn erbyn y Swistir a Thwrci
Ben Davies, Kieffer Moore a Chris Mepham y newidiadau o'r golled yn erbyn Yr Eidal; Ethan Ampadu wedi'i wahardd
Denmarc yn gwneud dau newid - Jens Stryger Larsen a Kasper Dolberg yn lle Daniel Wass a Yusuff Poulsen
Denmarc oedd y ffefrynnau gan y bwcis i fynd ymlaen i'r rownd nesaf
Taith i Baku sy'n wynebu Denmarc yn rownd yr wyth olaf
Cymru 0-3 Denmarc
Cerdyn Coch
Harry Wilson sy'n gweld cerdyn coch am dacl ar Maehle, ond mae'n ymddangos yn gosb hallt dros ben!
Cymru 0-3 Denmarc
Roedd gan Maehle ddigonedd o le yn y cwrt ac fe aeth ei ergyd yn daclus i'r gornel.
Cymru 0-3 Denmarc
Gwennan Harries
Cyn ymosodwr Cymru
Quote MessageBlinder yn bendant yn fanna, ond roeddech chi'n teimlo fod honna'n dod a bod Denmarc yn ei haeddu
Cymru 0-3 Denmarc
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Quote Message'Dan ni ddim wedi cyrraedd y safon a welon ni yn erbyn Twrci. Ro'n ni ar dân yn Baku yn yr hanner cyntaf. Dwi'n siwr bydd cwestiynau yn cael eu holi am ddyfodol Bale ar ôl hyn.
Cymru 0-2 Denmarc
Sgarmes yn y cwrt a Brathwaite sy'n tanio ergyd heibio'r postyn wedi i Cornelius daro'r postyn gyda'i ergyd yntau...
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Quote MessageMae Kieffer Moore wedi bod yn hynod o anlwcus heno - dwi'n teimlo dros yr hogyn. Perfformiad Dan James wedi bod yn siomedig yn y gêm - ddim fel ei berfformiad yn y gemau eraill.
Does dim un ergyd gan Gymru wedi taro’r targed hyd yma. Mae dal amser, ond mae yna fynydd yn eu hwynebu yn y munudau olaf.
Cymru 0-2 Denmarc
Nic Parry
Sylwebydd S4C
Quote MessageFasa un fach nawr yn creu drama am y deg munud olaf
Cymru 0-2 Denmarc
Cerdyn Melyn
Mae David Brooks wedi gweld cerdyn melyn yn syth...Cornelius redodd o'i hanner ei hun i ymyl cwrt Cymru cyn i Brooks ei faglu.
Cymru 0-2 Denmarc
Eilyddio
Mae Tyler Roberts ymlaen yn lle Kieffer Moore, ac ma Dan James yn gadael hefyd gyda David Brooks yn cael cyfle i greu argraff.
12 munud yn weddill....
Eilyddio
Mae'n ymddangos bod Simon Kjaer wedi cael anaf, a Jorgensen sydd ymlaen yn ei le.
Malcolm Allen
Cyn ymosodwr Cymru
Quote MessageI mi rhaid i ni gael Tyler Roberts yn lle Kieffer Moore... dydi o heb fod yr un peth ers y gerdyn felen ac mae angen coesau ffresh
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
Quote MessageMae'n rhaid codi pennau. Mae digon yn y tanc i ddod yn ôl. 'Dan ni angen Ramsey a Bale ar y bêl.
Does dim golwg bod y criw yn y Saith Seren yn Wrecsam yn mwynhau'r aill hanner rhyw lawer!
Cymru 0-2 Denmarc
Eilyddio
Kasper Dolberg yn gadael y cae a chyn ymosodwr Caerdydd, Andreas Cornelius sy'n dod ymlaen yn ei le
Malcolm Allen
Cyn ymosodwr Cymru
Quote Message'Da ni'n edrych yn well, ond 'da ni ddim yn neud digon. Mae Denmarc wedi syrthio nol, ond dydi Cymru ddim yn treiddio digon
'Tash' Harding
Chwaraewr rhyngwladol Cymru
Quote Message'Does dim dewis gan Gymru nawr dim ond mynd amdani. Efallai bydd hynna'n rhoi gôl arall i Ddenmarc ond mae'n rhaid iddyn nhw gymryd pob risg a bod yn fentrus.
Cymru 0-2 Denmarc
Jensen yn tanio o ongl fain, a Chymru'n falch o weld hi'n mynd heibio'r postyn o drwch blewyn!
25 munud anferth i ddod...
Dylan Griffiths
Chwaraeon BBC Cymru
Quote MessageOs 'dan ni'n ildio un arall mae'n gobeithion ni ar ben. Rhaid cadw ein pennau. Pwy a ŵyr os gawn ni gôl?