Crynodeb

  • Kasper Dolberg yn rhoi Denmarc ar y blaen ar ôl 27 munud ac yn rhwydo'i ail ar ôl 48 munud

  • Joakim Maehle a Martin Braithwaite yn selio'r fuddugoliaeth

  • Harry Wilson yn derbyn cerdyn coch hallt am dacl hwyr

  • Connor Roberts yn gadael y cae gydag anaf yn yr hanner cyntaf, Neco Williams yn ei le

  • Cymru'n cychwyn gyda'r 11 a ddechreuodd yn erbyn y Swistir a Thwrci

  • Ben Davies, Kieffer Moore a Chris Mepham y newidiadau o'r golled yn erbyn Yr Eidal; Ethan Ampadu wedi'i wahardd

  • Denmarc yn gwneud dau newid - Jens Stryger Larsen a Kasper Dolberg yn lle Daniel Wass a Yusuff Poulsen

  • Denmarc oedd y ffefrynnau gan y bwcis i fynd ymlaen i'r rownd nesaf

  • Taith i Baku sy'n wynebu Denmarc yn rownd yr wyth olaf

  1. Gêm gartref i Ddenmarcwedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru yn Amsterdam

    Y son cyn y gêm oedd y bydde yna 5,000 o bobl o Ddenmarc yma heddiw.

    Allwch chi dreblu'r nifer yna. Mae bron pawb yn y stadiwm yma'n gwisgo crys Denmarc.

    Mae mwy neu lai yn gêm gartref iddyn nhw.

  2. Tân y Ddraig!wedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Roedd Catrin ar raglen Ar Y Marc y bore 'ma yn siarad am ei gwaith o ddylunio graffeg ar gyfer y BBC yn Euro 2020.

    Gwaith fel hyn.... WAW!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Cymry Amsterdam yn teimlo 'dyletswydd a braint'wedi ei gyhoeddi 16:42 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    ffans
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Kelsie, Jamie, Lisa a David yn gobeithio am noson fawr yn eu cartref newydd

    Dywedodd David Bartlett, 31, yn wreiddiol o Gaerdydd ond sydd bellach yn byw yn Amsterdam bod yna "lawer o falchder".

    "Rwy'n teimlo bod yna lawer o bwysau arnom ni fel yr ychydig iawn o gefnogwyr Cymru sydd yma. Rydyn ni wedi bod yn ymarfer ein lleisiau a byddwn ni'n uchel iawn yn y stadiwm. Rwy'n nerfus ond rwy'n credu y gallwn grafu buddugoliaeth - 1-0."

    Lisa Harrison, 28, sy'n wreiddiol o Gaerdydd: "Mae'n ddyletswydd arnom heddiw - gwneud Cymru'n falch a bod yno i'r tîm a gwneud cymaint o sŵn â phosib. Rwyf ychydig yn nerfus. Bydd hi'n noson fawr os ydyn ni'n ennill - noson fawr yma yn Amsterdam."

    Lisa Harrison
    Disgrifiad o’r llun,

    Lisa Harrison

    Jamie Braddock, 30, sy'n wreiddiol o Lyn Ebwy: "Rydym wedi recriwtio cymaint o bobl leol â phosib i gefnogi Cymru. Mae gen i lawer o'r swyddfa sy'n gwisgo crysau Cymreig. Mae gennym rai citiau paent wyneb gyda ni - yn barod i recriwtio ychydig o'r niwtrals! Symudon ni yma gwpl o flynyddoedd yn ôl - dydan ni heb weld teulu na ffrindiau am y 18 mis diwethaf felly mae gallu bod yma heddiw yn ei gwneud ychydig yn fwy gwerth chweil."

    Kelsie Armstrong, 30, sy'n wreiddiol o Bontyclun: "Waeth beth fydd yn digwydd, byddwn ni yno'n cefnogi'r tîm - gweiddi, canu'r anthem genedlaethol. Rydyn ni'n teimlo'n anhygoel o lwcus i gael y gêm yma yn Amsterdam. Dyma'r unig beth rydyn ni wedi bod yn siarad amdano."

  4. Gêm gartref i Richard!wedi ei gyhoeddi 16:39 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    BBC Cymru Fyw

    Mae Richard Morris yn wreiddiol o Gasnewydd ond bellach yn byw yn Haarlem yn yr Iseldiroedd wedi gwneud y daith fer i'r stadiwm yn Amsterdam.

    Richard Morris
    Disgrifiad o’r llun,

    Richard Morris sy'n wreidiol o Gasnewydd

  5. Nicky'n barod i glywed gennych chiwedi ei gyhoeddi 16:36 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cofiwch gysylltu gyda Nicky a Dylan am 19:00 ar BBC Radio Cymru i edrych yn ôl ar y gêm yn Ewro Marc.

    Ffoniwch - 03703 500 500 neu 67500 ar y testun!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. 'Teimlo fel gêm gartref i Ddenmarc'wedi ei gyhoeddi 16:33 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Dim ond cefnogwyr Denmarc dwi'n eu gweld a'u clywed yma. Mae'n teimlo fel gêm gartref i Ddenmarc. 'Dwi newydd siarad â Rob Page ac fe dd'wedodd o wrthai nad yw'n deg bod nifer o gefnogwyr Cymru ddim wedi cael dod. Fe dd'wedodd hefyd ei fod wedi dweud wrth y tîm am bwysigrwydd y gêm heddiw - un cyfle sy' 'na a mae'n rhaid i bawb berfformio.

  7. Digwydd am y tro cyntaf?wedi ei gyhoeddi 16:32 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Mae'n bur debyg mai dyma'r tro cyntaf i ddau golwr o'r un clwb wynebu'i gilydd mewn pencampwriaeth rhyngwladol.

    Prif golwr Caerlŷr yw Kasper Schmeichel.. golwr Denmarc.

    Ond golwr GORAU Caerlŷr yw Danny Ward o Gymru!

    danny
  8. 'Gwlad Gwlad' oedd y floedd o'r Gogarth!wedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    BBC Cymru Fyw

    Dyma rai o ddisgyblion Ysgol y Gogarth yn Llandudno yn dangos eu cefnogaeth i'r tîm drwy ganu'r anthem.

    Disgrifiad,

    Ysgol y Gogarth

  9. Cefnogwyr Denmarc yn hyderuswedi ei gyhoeddi 16:27 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru yn Amsterdam

    Dwi wedi bod yn siarad gyda chefnogwyr Denmarc yma yn Amsterdam, ac maen nhw i gyd yn eithaf hyderus.

    Mae'r ddau yma yn dod o Aarhus, lle enillodd Denmarc yn erbyn Cymru 2-0 yn 2018.

    Cefnogwyr DenmarcFfynhonnell y llun, BBC Sport
  10. Wel dyw hynna ddim yn neis iawn!wedi ei gyhoeddi 16:25 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru yn Amsterdam

    Quote Message

    Bŵio gan gefnogwyr Denmark wrth i dîm Cymru cael ei gyhoeddi ar yr uchel seinydd.

  11. 'Mae'n rhaid i rywun chwarae i Gymru - pam ddim chi?'wedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Disgrifiad,

    Geiriau o ysbrydoliaeth gan gyn-athro Gareth Bale i sêr y dyfodol

    Mae cyn-athro ymarfer corff Gareth Bale yn llawn balchder wrth i'r brodor o Gaerdydd baratoi i gamu i'r cae yn Amsterdam fel capten ei wlad.

    "Mae'n rhaid i rywun ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd, mae'n rhaid i rywun chwarae i Gymru, mae'n rhaid i rywun chwarae i'r Llewod - pam ddim chi?"

    Dyna'r hyn mae Gwyn Morris yn ei ddweud wrth ei ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Eglwys Newydd yn y brifddinas.

    Mae'r ysgol yn enwog am gynhyrchu rhai o ser amlycaf Cymru yn y maes chwaraeon - Bale, Geraint Thomas, Sam Warburton a Tom Maynard yn eu plith.

  12. Wrth i ni aros...wedi ei gyhoeddi 16:18 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Credwch neu beidio mae yna gêm arall o ddiddordeb i Gymru yn digwydd ar hyn o bryd...

    Mae’r Llewod yn ennill yn gyfforddus yn erbyn Japan, ond mae Alun Wyn Jones wedi gadael y maes gydag anaf.

    Mae modd gwrando ar y sylwebaeth fan yma.

    AWJFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. 'Mewn gemau mawr, ni'n perfformio'wedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Gwennan HarriesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Gwennan Harries wedi siarad yn agored wrth Cymru Fyw am y profiad o sylwebu yn ystod yr Ewros

    "O'n i'n dechrau gobeithio falle bod cyfle inni fynd i gemau yn Llundain ond na, mae'n rhaid jyst canolbwyntio ar un gêm ar y tro achos yn amlwg os chi ddim yn ennill hwnna chi allan.

    "Fi'n credu bydd e'n gêm anodd iawn. Maen nhw'n dîm da, ni 'di colli ddwywaith iddyn nhw yn y blynyddoedd diwethaf, ond hefyd yr emosiwn o bopeth sydd wedi digwydd iddyn nhw, mae'n mynd i fod yn anodd i ni gyda falle pawb yn erbyn ni am unwaith.

    "Fel gwlad fach sydd wedi gwneud yn dda fel underdogs mae pawb wedi bod gyda ni, ond yn yr achos yma fi'n credu bydd y mwyafrif tu ôl i Denmarc. So bydd e'n gêm anodd, ond fi wastad yn teimlo gyda Cymru, pan mae'r pwysau ymlaen, mewn gemau mawr fel hwn, maen nhw rili yn perfformio.

    "So fi'n edrych ymlaen i weld nhw yn rhoi perfformiad mewn fel wnaethon ni weld yn erbyn Twrci neu gemau mawr fel o'r blaen fel yn erbyn Rwsia yn y gêm grŵp yn 2016 a Gwlad Belg a Hwngari yn y qualifying yn ddiweddar - pan mae'r pwysau 'mlaen a mae pawb falle yn ysgrifennu ni off ni wastad gyda un perfformiad rili, rili dda ynddon ni a fi'n credu bydd hwnna'n digwydd eto dydd Sadwrn, ond sai'n mynd i roi sgôr!"

    Darllenwch fwy am Gwennan Harries a sut brofiad yw sylwebu ar yr Ewros am y tro cyntaf.

  14. Mae'r arth yn gwybod!wedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Arth frown yn Sŵ Mynydd Cymru ym Mae Colwyn yw Athena.

    Ddoe fe gafodd hi'r cyfle i ddewis enillydd gêm heno drwy ddewis bwyd o un o ddau fag.....

    Mae edrych yn wych i dîm Robert Page!

    Does dim gwybodaeth a yw Athena wedi dewis yr enillydd cywir mewn unrhyw gêm arall hyd yma cofiwch....

    Disgrifiad,

    Eirth Sŵ Mynydd Cymru yn dewis yr enillwyr?

  15. Pen-blwydd hapus!wedi ei gyhoeddi 16:07 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Fydd o'n brysur yn cyd-sylwebu y prynhawn yma allan yn Amsterdam, ond gobeithio wir y caiff Iwan Roberts ddathlu heno.

    Gen i syniad go lew be fyddai'r anrheg perffaith iddo hefyd!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Diwedd neges twitter 2
  16. Mae chwaraewyr Cymru ar y caewedi ei gyhoeddi 16:05 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    cymru
    Aaron Ramsey ar y caeFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. I'w glywed ymhobman!wedi ei gyhoeddi 16:01 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Twitter

    Mae ysgolion ledled Cymru wedi bod yn canu'r anthem er mwyn cefnogi Cymru, ac mae'r cartwnydd Mumph yn credu bod Hen Wlad Fy Nhadau i'w glywed ymhobman!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Yn dawel hyderus....wedi ei gyhoeddi 15:59 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Mae Aaron Ramsey wedi bod yn sgwrsio gydag Ian Gwyn Hughes ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru, gan edrych yn ôl ar yr ymgyrch hyd yma, ac edrych ymlaen at yr ornest yn erbyn Denmarc.

    Mae ei glywed e'n siarad yn rhoi hyder i chi ond dyw e?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. 'Fydd cael mewn i'r stadiwm yn deimlad briliant'wedi ei gyhoeddi 15:56 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Mae Iwan Reeves, sy'n wreiddiol o'r Bala ond sydd bellach yn byw yn Northampton, wedi llwyddo i gyrraedd Amsterdam.

    Mae eisoes wedi bod yn cefnogi'r tîm yn Baku ac yn Rhufain!

  20. Ydi Huw yn gwrando?wedi ei gyhoeddi 15:54 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Ysgol Gymraeg Brynsierfel oedd ysgol gynradd Huw Edwards, a'r gobaith yw y bydd e'n cyhoeddi ar newyddion y BBC fod Cymru yn y rownd nesa.

    Tybed oedd y canu cystal pan oedd Huw'n ddisgybl yno?