Crynodeb

  • Kasper Dolberg yn rhoi Denmarc ar y blaen ar ôl 27 munud ac yn rhwydo'i ail ar ôl 48 munud

  • Joakim Maehle a Martin Braithwaite yn selio'r fuddugoliaeth

  • Harry Wilson yn derbyn cerdyn coch hallt am dacl hwyr

  • Connor Roberts yn gadael y cae gydag anaf yn yr hanner cyntaf, Neco Williams yn ei le

  • Cymru'n cychwyn gyda'r 11 a ddechreuodd yn erbyn y Swistir a Thwrci

  • Ben Davies, Kieffer Moore a Chris Mepham y newidiadau o'r golled yn erbyn Yr Eidal; Ethan Ampadu wedi'i wahardd

  • Denmarc yn gwneud dau newid - Jens Stryger Larsen a Kasper Dolberg yn lle Daniel Wass a Yusuff Poulsen

  • Denmarc oedd y ffefrynnau gan y bwcis i fynd ymlaen i'r rownd nesaf

  • Taith i Baku sy'n wynebu Denmarc yn rownd yr wyth olaf

  1. Cymru y gorau o fymrynwedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Denmarc

    17 munud wedi chwarae, a Cymru sydd wedi gwneud y rhan fwyaf o'r ymosod hyd yma....

  2. 'Tempo da i'r gêm'wedi ei gyhoeddi 17:13 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Mae tempo da i'r gêm. Mae Denmarc yn edrych yn beryglus ond mae Gareth Bale yn edrych yn siarp. Joe Allen hefyd yn cael dechrau da

  3. 'Brysia wella'wedi ei gyhoeddi 17:13 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    baleFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Y neges Gymraeg ar grys Cymru i Christian Eriksen

    Moment hyfryd cyn y gic gyntaf wrth i gapten Cymru, Gareth Bale gyflwyno crys coch i gapten y gwrthwynebwyr, Simon Kjaer. Mae'r crys ar gyfer Christian Eriksen, wrth gwrs.

  4. Denmarc yn ei chliro hi...wedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Denmarc

    Cymru'n pwyso nawr.. .sgarmes yn y cwrt a hanner cyfle i Ramsey a Moore, ond Denmarc yn clirio...

  5. Bale yn agos!wedi ei gyhoeddi 17:10 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Denmarc

    Gareth Bale yn mynd ei hun ac yn tanio o ymyl y cwrt - doedd honna ddim yn bell heibio'r postyn pellaf!

  6. Y farn o dafarn Twthill, Caernarfonwedi ei gyhoeddi 17:09 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    "Rydan ni angen performance mawr gan Bale heddiw..."

    Mae Tracey a Mike yn gwylio gyda chefnogwyr eraill yn nhafarn y Twthill, Caernarfon. Ac mae'r ddau yn swnio'n hyderus!

    Disgrifiad,

    Y farn o dafarn Twthill

  7. Ergyd gynta'r gêmwedi ei gyhoeddi 17:08 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Denmarc

    Denmarc sydd gyda'r ergyd, ond yn ffodus i Gymru mae hi ymhell heibio'r postyn (a dros y trawst!)

  8. Cadw pellter?wedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Mae’r stiwardiaid yn gwneud yn siwr fod cefnogwyr Denmarc gyda o leia un sedd gwag rhwng y cefnogwyr. Nid pawb sy’n cymryd sylw!

    ffansFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Cic rydd i Gymruwedi ei gyhoeddi 17:04 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Denmarc

    Aaron Ramsey'n cael ei wthio i'r llawr a chyfle am gic rydd mewn man peryglus

  10. Mae'r awen wedi taro Mei Mac....wedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    englyn
  11. Denmarc yn ymosod yn gynnarwedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Denmarc

    Tacl dda gan Chris Mepham wrth i Ddenmarc ymosod i lawr yr asgell dde

  12. Co ni off! Y gic gyntaf i Gymruwedi ei gyhoeddi 17:00 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Denmarc

    Dechrau'r gêm

  13. 'Dwi bach yn nerfus'wedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    BBC Cymru Fyw

    Mae Sian wedi dewis gwylio'r gêm yng Nghaerdydd

    Disgrifiad,

    Sian yng Nghaerdydd

  14. Arweinydd o'r Almaen!wedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    BBC Cymru Fyw

    Daniel Siebert o Ferlin sy'n dyfarnu heddiw.

    Mae'r gŵr 37 oed yn un o'r dyfarnwyr ieuengaf yn y gystadleuaeth ac mae'n dyfarnu ei drydedd gêm yn y bencampwriaeth ble mae wedi dangos pedwar cerdyn melyn a dim un cerdyn coch eto.

    Daniel SiebertFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Danny Siebert o'r Almaen yw'r dyfarnwr

  15. 'Pili palas yn y bol'wedi ei gyhoeddi 16:57 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Mae pili palas yn y bol. Mae popeth yma yn ffafrio Denmarc - y gerddoriaeth ac mae nhw newydd ddangos crys rhif 10 - sef rhif Christian Eriksen ac mi aeth y dorf yn wyllt

  16. Barod i ganu?wedi ei gyhoeddi 16:54 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Mae hi bron yn amser am yr anthemau...

    Anthem Cymru
  17. Yr olygfa i'r sylwebwyr!wedi ei gyhoeddi 16:54 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    amsterdam
  18. Gobeithio bod Malcs yn iawnwedi ei gyhoeddi 16:52 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Malcolm Allen
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Mae Aaron Ramsey wedi rhedeg bron 20 milltir yn barod... mae gynnoch chi daldra Kieffer Moore a chyflymder Dan James a Bale...fedrwn ni ddim colli hon!

  19. 'Y gystadleuaeth ddim yn deg - Cymru wedi gorfod teithio lot fawr!'wedi ei gyhoeddi 16:50 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Dwi ddim am gwyno gormod - dyw'r gystadleuaeth yma ddim yn deg. Allai'm dallt ffordd mae'r gystadleuaeth yma yn cael ei chynnal ar draws Ewrop i gyd - mae yna fantais i nifer o wledydd ac mae Denmarc yn un o'r rhai hynny. Mae Cymru wedi gorfod teithio lot fawr!

  20. Murlun ar wal ynghanol y brifddinaswedi ei gyhoeddi 16:48 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.