Crynodeb

  • Kasper Dolberg yn rhoi Denmarc ar y blaen ar ôl 27 munud ac yn rhwydo'i ail ar ôl 48 munud

  • Joakim Maehle a Martin Braithwaite yn selio'r fuddugoliaeth

  • Harry Wilson yn derbyn cerdyn coch hallt am dacl hwyr

  • Connor Roberts yn gadael y cae gydag anaf yn yr hanner cyntaf, Neco Williams yn ei le

  • Cymru'n cychwyn gyda'r 11 a ddechreuodd yn erbyn y Swistir a Thwrci

  • Ben Davies, Kieffer Moore a Chris Mepham y newidiadau o'r golled yn erbyn Yr Eidal; Ethan Ampadu wedi'i wahardd

  • Denmarc yn gwneud dau newid - Jens Stryger Larsen a Kasper Dolberg yn lle Daniel Wass a Yusuff Poulsen

  • Denmarc oedd y ffefrynnau gan y bwcis i fynd ymlaen i'r rownd nesaf

  • Taith i Baku sy'n wynebu Denmarc yn rownd yr wyth olaf

  1. Y farn ar Twitter.....wedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Dim siâp ar Gymru?wedi ei gyhoeddi 17:52 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Roedd y llun cyn y gic gyntaf mor drefnus â'r disgwyl...

    Yn anffodus, doedd fawr o siap arnyn nhw AR y cae erbyn diwedd yr hanner cyntaf!

    Tim CymruFfynhonnell y llun, Getty
  3. Bacwn ar yr egwyl?wedi ei gyhoeddi 17:49 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Mae criw yn mwynhau'r gêm yn y Saith Seren yn Wrecsam, ac ar yr egwyl maen nhw'n mwynhau roliau cig moch.

    Nid bacwn o Ddenmarc yw hwnna gobeithio?

    saith sereenFfynhonnell y llun, bbc
  4. Denmarc ar y blaen ar yr egwylwedi ei gyhoeddi 17:47 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-1 Denmarc

    Hanner Amser

  5. Neco Williams ymlaenwedi ei gyhoeddi 17:42 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-1 Denmarc

    Eilyddio

    Dyw Connor Roberts ddim wedi gwella o'i anaf a chefnwr Lerpwl sydd ymlaen yn ei le

  6. 'Angen peidio rhoi pwysau ar y golwr'wedi ei gyhoeddi 17:41 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    'Tash' Harding
    Chwaraewr rhyngwladol Cymru

    Quote Message

    Rhaid cadw'r pwysau oddi ar Danny Ward. Mae'n bwysig cymryd amser wrth basio'r bêl.

  7. Moore allan o'r un nesaf!wedi ei gyhoeddi 17:40 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cerdyn Melyn

    Gyda Chymru lawr i ddeg dyn am y tro, fe gafodd Kieffer Moore ei gosbi am drosedd ac mae'n gweld cerdyn melyn - ei ail yn y bencampwriaeth ac felly fydd e'n colli'r gêm nesaf.

    kmFfynhonnell y llun, Getty Images
    kmFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Anaf i Connor Roberts!wedi ei gyhoeddi 17:39 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-1 Denmarc

    Mae Roberts oddi ar y cae ar y funud, a dyw hi ddim yn edrych y ndebygol y bydd o'n dychwelyd.

  9. Meddiant yn bwysigwedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Mae angen i Gymru gael mwy o feddiant nawr... angen iddyn nhw fod yn amyneddgar

  10. Yr egwyl ar y gorwelwedi ei gyhoeddi 17:35 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-1 Denmarc

    A fedrith yr egwyl ddim dod yn ddigon buan i Gymru nawr!

    Mae Denmarc yn ymosod yn barhaus ar hyn o bryd.

  11. 'Rhaid cadw pen rŵan'wedi ei gyhoeddi 17:31 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Bydd rhaid cadw pen rŵan. Rhaid peidio ildio ail gôl. Bydd rhaid i Aaron Ramsey gael ei hun i mewn i'r gêm.

  12. Carl yn wlyb!wedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Cefnogwyr Denmarc yn taflu cwrw wrth ddathlu’r gôl. Un yn rhedeg heibio heb ei grys ymlaen.

  13. Dolberg sy'n sgorio!wedi ei gyhoeddi 17:27 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-1 Denmarc

    Dyw Kasper Dolberg ond yn chwarae oherwydd anaf i Yousuff Poulsen, ond fe sy'n rhwydo ergyd daclus i roi Denmarc ar y blaen

    dolbergFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Mae Denmarc wedi sgorio!wedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-1 Denmarc

    gfx
  15. Diffyg profiadwedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Diffyg profiad fanna gan Rodon... doedd dim angen iddo fe neud y sialens

  16. Cerdyn i Joe Rodonwedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Denmarc

    Cerdyn Melyn

    Yr unig gysur yw nad yw Rodon wedi gweld un yn barod yn y gystadleuaeth...

  17. 'Amddiffyn da'wedi ei gyhoeddi 17:23 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Dylai Rob Page fod yn falch sut wnaeth Cymru amddiffyn y dair gic gornel yna.

    cic gornelFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Cyfnod da i Ddenmarcwedi ei gyhoeddi 17:21 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Denmarc

    Tair cic gornel yn syth ar ol ei gilydd i Ddenmarc, ond Cymru'n gwrthsefyll y pwysau am y tro...

  19. Cic gornel i Ddenmarcwedi ei gyhoeddi 17:19 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Denmarc

  20. 'Dechrau yn arbennig o dda...'wedi ei gyhoeddi 17:18 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru

    Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty
    Quote Message

    Mae Cymru wedi dechrau yn arbennig o dda… ni sydd ar y blaen. Mae angen sicrhau nad yda ni'n gwastraffu cyfleoedd fel yn gêm Twrci.