Crynodeb

  • Kasper Dolberg yn rhoi Denmarc ar y blaen ar ôl 27 munud ac yn rhwydo'i ail ar ôl 48 munud

  • Joakim Maehle a Martin Braithwaite yn selio'r fuddugoliaeth

  • Harry Wilson yn derbyn cerdyn coch hallt am dacl hwyr

  • Connor Roberts yn gadael y cae gydag anaf yn yr hanner cyntaf, Neco Williams yn ei le

  • Cymru'n cychwyn gyda'r 11 a ddechreuodd yn erbyn y Swistir a Thwrci

  • Ben Davies, Kieffer Moore a Chris Mepham y newidiadau o'r golled yn erbyn Yr Eidal; Ethan Ampadu wedi'i wahardd

  • Denmarc yn gwneud dau newid - Jens Stryger Larsen a Kasper Dolberg yn lle Daniel Wass a Yusuff Poulsen

  • Denmarc oedd y ffefrynnau gan y bwcis i fynd ymlaen i'r rownd nesaf

  • Taith i Baku sy'n wynebu Denmarc yn rownd yr wyth olaf

  1. Foli gan Allen!wedi ei gyhoeddi 18:21 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-2 Denmarc

    Tafliad hir gan Gareth Bale, a Joe Allen yn taro foli o 20 llath, ond dros y trawst aeth hi

  2. Camgymeriad creulonwedi ei gyhoeddi 18:18 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Dyma ail gôl Denmarc, gyda Cymru'n cael eu cosbi ar ôl camgymeriad Nico Williams wrth glirio'r bêl.

    Oes ffordd yn ôl? Mae Cymru angen fflach o ysbrydoliaeth.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Gwlychu'n waeth!wedi ei gyhoeddi 18:18 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Mwy o gwrw wedi hedfan dros ein pennau ar ôl yr ail gôl.

  4. Harry Wilson yn lle Joe Morrellwedi ei gyhoeddi 18:17 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Eilyddio

    Newid tactegol i Gymru, ac un ymosodol....

  5. Ergyd gan James!wedi ei gyhoeddi 18:16 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-2 Denmarc

    Cyfle i Dan James - foli o ymyl y cwrt ond mae'n taro yn erbyn Christiansen....

  6. Un o gefnogwyr ieuengaf Cymru'n mwynhauwedi ei gyhoeddi 18:15 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Angen mentrowedi ei gyhoeddi 18:13 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Fydde'n well gen i golli 3-0 ond bo ni'n mynd amdani nawr

  8. Hyn.wedi ei gyhoeddi 18:13 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Nicky John yn dweud y cyfan ar Twitter...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Trosedd cyn yr ail i Ddenmarc?wedi ei gyhoeddi 18:12 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Malcolm Allen
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Allai ddim credu bod y dyfarnwr wedi gweld y drosedd ar Moore y tro cynta heb son am wylio hi ddwywaith.

  10. Y gôl yn ddadleuolwedi ei gyhoeddi 18:11 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Sut yn y byd nad yw'r hyn a wnaeth capten Denmarc yn erbyn Kieffer Moore yn drosedd? Alla'i ddim coelio!'

  11. Cyfle!wedi ei gyhoeddi 18:11 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-2 Denmarc

    Neco Williams yn croesi, ond Gareth Bale yn dwyn y peniad oddi ar ben Kieffer Moore pan oedd Moore mewn safle gwell!

  12. Cadwch y ffyddwedi ei gyhoeddi 18:08 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-2 Denmarc

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Mae'n dal yn bosib... ond ar y funud ni'n methu rhoi tri pas at ei gilydd... rhaid i ni fynd ar y droed flaen eto

  13. Ail i Kasper Dolbergwedi ei gyhoeddi 18:06 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-2 Denmarc

    Camgymeriad gan Neco Williams yn ei gwrt ei hun a'r cyfle i Dolberg gael ei ail.

    Dolberg yn rhwydoFfynhonnell y llun, Getty Images
    DolbergFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Mae'n mynd o ddrwg i waeth!wedi ei gyhoeddi 18:05 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-2 Denmarc

    go ldenmarc
  15. Ystadegyn i'w chwaluwedi ei gyhoeddi 18:05 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-1 Denmarc

    YN Euro 2016 fe wnaeth Cymru ennill bob tro roedden nhw'n gwisgo coch.

    Yn Euro 2020, dyw nhw heb ennill mewn crys coch!

    C'mon Cymru!! Chwalwch honna!

  16. Denmarc sy'n dechrau'r ail hanner - hanner anferth i Gymruwedi ei gyhoeddi 18:02 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Cymru 0-1 Denmarc

  17. 'Angen bod yn ddewr'wedi ei gyhoeddi 18:01 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Malcolm Allen
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Ar y lefel rhyngwladol, ma'n amaturaidd i ildio gôl o 20 llath. Rŵan mae'n rhaid i ni neud penderfyniada' dewr yn yr ail hanner.

  18. 'Dim disgwyl newidiadau'wedi ei gyhoeddi 18:01 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    'Tash' Harding
    Chwaraewr rhyngwladol Cymru

    Quote Message

    Dwi'm yn gweld Rob Page yn 'neud newidiadau yn syth ar ddechrau'r ail hanner. Mae e'n debygol o aros ryw 20 munud i weld sut mae'r bechgyn yn chwarae.

  19. 'Peidiwch ildio un arall!'wedi ei gyhoeddi 17:58 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Nicky John
    Rhaglen Ewro Marc, BBC Radio Cymru

    "Ma ‘na waith o‘n blaenau ni rwan, peidio ildio un arall sy’n bwysig, ond yden nhw wedi colli’u pennau ar ôl y gôl yna?"

    Cysylltwch :

    Tecst : 67500

    Ffôn : 03703 500 500

    Twitter/Facebook BBC Radio Cymru efo’r #EwroMarc

  20. 'Angen Ramsey a Dan James'wedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 26 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Rhaid i ni edrych ar ôl y bêl yn well yn yr ail hanner. Rhaid i Aaron Ramsey ddod fewn i'r gêm fwy a 'dan ni angen cael cyflymdra Dan James i lawr y chwith 'na.