Crynodeb

  • Y Ceidwadwyr yn colli rheolaeth Mynwy

  • Plaid Cymru yn cipio mwyafrif yn Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr

  • Llafur yn cipio rheolaeth ym Mlaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr ond yn colli rheolaeth ar Gastell-nedd Port Talbot

  • Arweinwyr cynghorau Powys, Caerffili a Chaerfyrddin yn colli eu seddi

  • Y Blaid Werdd yn cipio'i seddi cyntaf yn Sir Ddinbych a Chasnewydd

  • Enillion bychan i'r Democratiaid Rhyddfrydol

  1. Dau o hoelion wyth Môn yn colli seddiwedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae etholiad Arfon Wyn a John Ifan Jones i Blaid Cymru yn ward Bro Aberffraw yn golygu colli dau o hoelion wyth Cyngor Môn.

    Bu i Bryan Owen arwain yr awdurdod hyd at 2013, pan gollodd ei sedd cyn ei hadennill yn 2017.

    Mae Peter Rogers yn gynghorydd ar yr ynys ers 2004, a chyn hynny yn aelod Ceidwadol o'r Cynulliad rhwng 1999 a 2003.

  2. Plaid Cymru'n gwneud enillion ar Ynys Mônwedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Ar Ynys Môn mae Plaid Cymru wedi gwneud enillion pellach ar ochr orllewinol y sir.

    Mae dau gynghorydd annibynnol adnabyddus - Bryan Owen a Peter Rogers - wedi colli eu seddi yn ward Bro Aberffraw i Blaid Cymru.

    Y cynghorwyr newydd yno fydd John Ifan Jones, a'r cerddor (a seren Cân i Gymru) Arfon Wyn.

    Gyda chwe ward eto i gyhoeddi, y canlyniadau ydy:

    • Plaid Cymru - 13 sedd
    • Annibynnol - 6
    • Llafur - 1
    • Democratiaid Rhyddfrydol - 1
    Arfon Jones a John Ifan JonesFfynhonnell y llun, Cyngor Ynys Môn
    Disgrifiad o’r llun,

    Dau gynghorydd newydd Plaid Cymru ym Môn - Arfon Jones a John Ifan Jones

  3. Llafur yn cipio Blaenau Gwentwedi ei gyhoeddi 15:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
    Newydd dorri

    Mae Llafur wedi cipio rheolaeth o Gyngor Blaenau Gwent.

  4. 'Eisiau corwynt i fynd trwy Gyngor Ceredigion'wedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Wyneb newydd ar Gyngor Ceredigion ydy Wyn Evans, sydd wedi cael ei ethol yn gynghorydd annibynnol ar gyfer ward Lledrod.

    Mae'n ffigwr cyfarwydd i fyd amaeth yng Nghymru fel Cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru.

    Fel un o nifer o wynebau newydd ar y cyngor, dywedodd fod "eisiau corwynt i fynd trwy'r cyngor a dechrau o'r dechrau".

    Disgrifiad,

    Ymateb Wyn Evans

  5. Pum sedd yn Sgeti i'r Democratiaid Rhyddfrydolwedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Yn Abertawe, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dathlu ar ôl ennill pum sedd yn ardal Sgeti - tair yn fwy na phum mlynedd yn ôl.

    Democratiaid Rhyddfrydol
  6. Mwy o sibrydion am y Ceidwadwyr yn Nhrefynwy...wedi ei gyhoeddi 15:18 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae ein gohebwyr yn Nhrefynwy yn clywed sibrydion pellach bod y Ceidwadwyr wedi colli rheolaeth o Gyngor Sir Fynwy.

    Does dim canlyniad terfynol eto, ond mi fyddai'n ergyd fawr i'r blaid.

  7. Y Gymraeg yn flaenoriaeth i aelod newydd Caerllionwedi ei gyhoeddi 15:16 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae Jason Hughes o Lafur wedi ei ail-ethol i gynrychioli Caerllion ar Gyngor Casnewydd.

    Ar ôl bod yn bencampwr Cymraeg i ddinas Casnewydd, ei fwriad yw parhau i ehangu’r ddarpariaeth a sicrhau bod yr iaith yn cael ei chlywed mwy, meddai.

    Jason Hughes
  8. Y darlun hyd yma... dim ond 20 i fynd!wedi ei gyhoeddi 15:14 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Graffeg
  9. 'Pryder am yr hyn sydd wedi digwydd ar ddiwedd yr M4'wedi ei gyhoeddi 15:11 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Sir Fynwy, Richard John, wedi dal ei afael yn ei ward yn Llanfihangel Troddi a Threllech.

    Roedd 'na ofnau yn y blaid y gallai golli ei sedd i'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond fe ddaliodd ef a'i gydweithiwr Jayne McKenna eu gafael ar y ddwy sedd yn y ward.

    Yn ei araith dderbyn, mae’n dweud bod ei fuddugoliaeth yn dangos yr achos dros “geidwadaeth dosturiol fodern”, ond soniodd hefyd am “boen anodd” y canlyniadau.

    Yn y cyfamser, mae cyn-arweinydd cyngor Sir Fynwy, Peter Fox, sydd bellach yn Aelod o'r Senedd, wedi disgrifio "pryder am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd ar ddiwedd yr M4" yn gwneud gwaith y Ceidwadwyr yn anodd ar lefel leol.

    Pan oedd yn ymgyrchu ar garreg y drws, nid oedd y materion a godwyd "yn ymwneud â Boris i gyd" meddai, ond ychwanegodd "fod pryder am rai o'r pethau sydd wedi digwydd".

    “Rwy’n credu ei fod wedi rhoi arweiniad cryf trwy’r pandemig... does neb yn berffaith, mae gen i bethau rydw i’n eu gwneud yn anghywir,” ychwanegodd Mr Fox.

    Peter Fox AS
    Disgrifiad o’r llun,

    "Does neb yn berffaith" meddai Peter Fox AS

  10. Llwyddiant a cholledion i Blaid Cymru yng Ngheredigionwedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae Caryl Roberts o Drefeurig wedi cipio sedd Trefeurig i Blaid Cymru oddi ar yr ymgeisydd annibynnol.

    Mae'n adnabyddus fel un o feirniaid Fferm Ffactor.

    Ond mae Plaid Cymru wedi colli ward Llanfarian - fe wnaeth Geraint Hughes o'r Democratiaid Rhyddfrydol gipio'r sedd. Simon Warburton oedd yn cynrychioli Plaid Cymru wedi ymddeoliad Alun Lloyd-Jones.

    Hefyd mae Catherine Hughes o Blaid Cymru wedi colli ei sedd - roedd ward Ystrad Fflur a Thregaron wedi uno a'r ymgeisydd annibynnol Ifan Davies sydd wedi ennill.

    Caryl
  11. Pryder am sedd Emlyn Dole, arweinydd Sir Gârwedi ei gyhoeddi 15:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Yn ôl ein gohebydd Catrin Haf Jones yng nghyfri' Sir Gâr mae'r Blaid Lafur yn dweud fod yna amheuon am sedd arweinydd y cyngor, Emlyn Dole.

    Mae'n cynrychioli ward Llannon.

    ED
  12. Plaid Cymru'n treblu nifer ei seddi ar Gyngor Wrecsamwedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae Plaid Cymru wedi treblu nifer ei seddi ar Gyngor Wrecsam o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl.

    Tair sedd enillodd y blaid yn 2017, cyn ennill dau isetholiad yn y blynyddoedd diwethaf ac ychwanegu pedair arall yn yr etholiad yma i roi cyfanswm o naw.

    Dywedodd Gwenfair Jones, sy'n ymddeol heddiw fel cynghorydd y blaid ar gyfer Gorllewin Gwersyllt, eu bod yn "arbennig o falch".

    Ychwanegodd eu bod "bach yn siomedig" gydag ambell ganlyniad, ond eu bod wedi ennill seddi eraill yn annisgwyl.

    Disgrifiad,

    Gwenfair Jones

  13. Ceidwadwr anniddig yn Sir Ddinbychwedi ei gyhoeddi 14:52 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae'r Ceidwadwr Anton Sampson, sydd wedi colli ei sedd ar ôl bod yn gynghorydd ar gyfer Dwyrain Prestatyn ers 14 mlynedd, yn dweud ei fod yn credu bod “siawns cryf” bod amhoblogrwydd Boris Johnson wedi costio ei sedd iddo.

    “Rydyn ni'n gwneud yr holl waith ar lawr gwlad ond ni yw'r rhai sy'n cael ein cosbi.”

    Boris Johnson
  14. Y Blaid Lafur yn cipio seddi cyntaf Caerdyddwedi ei gyhoeddi 14:49 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Llafur sydd wedi ennill y seddi cyntaf i'w cyhoeddi ar gyfer Cyngor Caerdydd.

    Mae Owen Jones wedi'i ail-ethol i gynrychioli Adamsdown a Grace Ferguson-Thorne wedi cipio sedd i Lafur oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol.

    Canlyniadau Caerdydd
  15. Hywel o Pobol y Cwm wedi'i ethol yn gynghoryddwedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Efallai yn fwy adnabyddus fel Hywel o Pobol y Cwm ond ei enw iawn yw Andrew Teilo - ac mae wedi cael ei ethol ar ran Plaid Cymru i gynrychioli ward Llangadog ar Gyngor Sir Caerfyrddin.

    Andrew Teilo
  16. Dirprwy arweinydd Ceredigion yn colli ei seddwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae dirprwy arweinydd Cyngor Ceredigion, Ray Quant, wedi colli ei sedd yn Borth.

    Ymgeisydd annibynnol arall sydd wedi ennill yno - Hugh Hughes.

    Mae'n golygu diwedd ar gyfnod o 21 mlynedd i Mr Quant fel cynghorydd.

    Hugh Hughes
    Disgrifiad o’r llun,

    Hugh Hughes oedd yn fuddugol eleni

  17. Gŵr a gwraig yn Sir Gâr hefydwedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae gŵr a gwraig wedi'u hethol yn gynghorwyr yn Sir Gâr hefyd - y naill yn cynrychioli Dafen a'r llall yn cynrychioli Felinfoel.

    Mae Rob a Nysia Evans yn cynrychioli'r Blaid Lafur.

    Rob a Nysia Evans
  18. Llafur yn gobeithio adennill seddi ardaloedd ôl-ddiwydiannolwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Dros Ginio
    BBC Radio Cymru

    Ychwanegodd Dr Huw Lewis o adran wleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth y bydd Llafur yn gobeithio adennill rhai o'i cholledion mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol a welwyd yn 2017.

    "Bydden ni yn dychmygu o edrych ar y canlyniadau allai ddod, fe fydd gwneud cynnydd pellach yn ôl yn rhai o’r ardaloedd ôl-ddiwydiannol yn ystyriaeth bwysig.

    "Os ni'n edrych 'nôl i ganlyniadau 2017, roedd hwnnw yn etholiad digon siomedig i’r blaid Lafur ac fe wnaethon nhw golledion sylweddol ym Mlaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont.

    "Bydden i’n dychmygu mai un o’r amcanion - ochr yn ochr â pherfformiad da mewn ardaloedd dinesig fel Caerdydd - yw ennill tir yn ôl yn y math yna o gynghorau, lle mai colli seddi i gymysgedd o ymgeiswyr Plaid Cymru ac annibynnol wnaethon nhw y tro diwethaf."

  19. Y canlyniadau'n llawn ar ein tudalen ganlyniadauwedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Gyda'r cynghorau cyntaf bellach yn cyhoeddi eu canlyniadau llawn, mae'r holl wybodaeth ar ein tudalen ganlyniadau.

    Map
  20. Wrecsam: Y canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
    Newydd dorri

    Wrecsam

    Annibynnol/Arall - 23 sedd

    Llafur - 14

    Ceidwadwyr - 9

    Plaid Cymru - 9

    Democratiid Rhyddfrydol - 1