Crynodeb

  • Y Ceidwadwyr yn colli rheolaeth Mynwy

  • Plaid Cymru yn cipio mwyafrif yn Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr

  • Llafur yn cipio rheolaeth ym Mlaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr ond yn colli rheolaeth ar Gastell-nedd Port Talbot

  • Arweinwyr cynghorau Powys, Caerffili a Chaerfyrddin yn colli eu seddi

  • Y Blaid Werdd yn cipio'i seddi cyntaf yn Sir Ddinbych a Chasnewydd

  • Enillion bychan i'r Democratiaid Rhyddfrydol

  1. Tair menyw yn ward Talybolionwedi ei gyhoeddi 16:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae 'na dair menyw wedi eu hethol yn ward Talybolion ar Ynys Môn - yr un nifer o ferched ag oedd yn y cyngor i gyd ar ôl yr etholiad diwethaf!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Dyma'r darlun diweddaraf, wedi i naw cyngor gyhoeddiwedi ei gyhoeddi 16:32 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    9 cyngor
  3. Powys: Y canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 16:30 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Powys

    Democratiaid Rhyddfrydol - 24

    Annibynnol/Arall - 17

    Ceidwadwyr - 14

    Llafur - 9

    Plaid Cymru - 3

    Gwyrddion - 1

  4. Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Gâr wedi colli ei seddwedi ei gyhoeddi 16:24 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
    Newydd dorri

    Mae Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Gâr, wedi colli ei sedd.

    Etholwyd un cynghorydd Llafur ac un Plaid Cymru yn ward Llannon - ond nid Emlyn Dole.

    Emlyn Dole
  5. Dem Rhydd yn 'falch iawn' hyd yn hynwedi ei gyhoeddi 16:22 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi mynnu fod yr etholiadau lleol yn dangos fod ei phlaid yn brwydro 'nôl ac adennill tir, ac nid yw'n unig yn bleidlais brotest yn erbyn llywodraeth Boris Johnson.

    Dywedodd Jane Dodds fod y canlyniadau yn dangos fod pobl yn ymddiried yn ei phlaid eto, ac am weld dewis arall heblaw am y Ceidwadwyr a Llafur.

    “Mae pobl eisiau neges bositif,” meddai

    Ond dywedodd fod etholwyr ym Mhowys, lle mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill tir wedi bod “â chywilydd” am ymddygiad y Prif Weinidog, a bod hynny’n golygu fod Ceidwadwyr wedi dewis “aros adref”.

    Disgrifiad,

    Ymateb Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig

  6. Torfaen: Y canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Torfaen

    Llafur - 30

    Annibynnol/Arall - 10

  7. Llafur yn adennill Blaenau Gwentwedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae Llafur wedi cyflawni eu nod o adennill Blaenau Gwent oddi wrth yr Annibynwyr.

    Enillodd Llafur 21 sedd, o'i gymharu â 13 yn 2017. Dim ond 17 sedd oedd ei angen ar y blaid i gipio'r mwyafrif.

    Un o’r seddi annibynnol a gollwyd yw arweinydd presennol y cyngor – Nigel Daniels, a wynebodd bleidlais o ddiffyg hyder rai wythnosau’n ôl, ar ôl i gynghorwyr gredu iddo ddal gwybodaeth hanfodol yn ôl oddi wrthynt ynglŷn â’r ymchwiliad i lywodraethu a goruchwyliaeth Silent Valley Waste Services.

    Dim ond 32% a bleidleisiodd (gostyngiad o 40% yn 2017).

    Arweinydd grŵp Llafur Blaenau Gwent, Steve Thomas (chwith) a'r dirprwy arweinydd Haydn Trollope (dde)
    Disgrifiad o’r llun,

    Arweinydd grŵp Llafur Blaenau Gwent, Steve Thomas (chwith) a'r dirprwy arweinydd Haydn Trollope (dde)

  8. Casnewydd: Y canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Casnewydd

    Llafur - 35

    Ceidwadwyr - 7

    Annibynnol/Arall - 7

    Democratiaid Rhyddfrydol - 1

    Gwyrddion - 1

  9. 'Pethau'n poethi yn Sir y Fflint'wedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae pethau'n poethi yn Sir y Fflint, gyda Llafur ar y blaen gyda 28 sedd hyd yma ac ymgeiswyr annibynnol gyda 25.

    Cafodd cyn-ddirprwy arweinydd y cyngor sir, Bernie Attridge - oedd unwaith yn aelod o Lafur ond sydd bellach yn gobeithio arwain aelodau annibynnol - ei ailethol yng Nghanol Cei Connah gydag aelod annibynnol arall, Debbie Owen.

    Dywedodd eu bod wedi cael llwyddiant "bendigedig" yng Nghei Connah ond na fydden nhw, mwy na thebyg, yn trechu'r holl Lafurwyr yn y dref.

    Fe ychwanegodd ei fod yn credu mai'r grŵp annibynnol fyddai'r mwyaf unwaith fydd pob pleidlais wedi ei chyfri.

    "Mae gen i awdurdod moesol gan 47 aelod annibynnol sy'n sefyll yn Sir y Fflint i ffurfio awdurdod annibynnol," meddai.

    "Dwi wedi gweithio ddydd a nos, 16-17 awr y dydd, er mwyn i hyn ddigwydd.

    "A dwi dal yn hyderus rŵan mai'r grŵp annibynnol fyddai a'r mwyaf o seddi yn Sir y Fflint erbyn diwedd y dydd."

    Er hynny, mae aelodau Llafur yn dal eu tir mewn sawl ardal, gan gipio sedd ym Mancot a hawlio'r tair sedd bosib yn ward Cynswllt a Threlawnyd yn y Fflint.

    Bernie Attridge
  10. Y Blaid Lafur yn cadw Abertawewedi ei gyhoeddi 16:11 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
    Newydd dorri

    Mae'r Blaid Lafur wedi cadw ei gafael ar Gyngor Sir Abertawe.

  11. Cynghorydd cyntaf y Blaid Werdd yng Nghasnewyddwedi ei gyhoeddi 16:07 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Lauren James, 31, yw'r cynghorydd cyntaf erioed i gael ei hethol i gynrychioli'r Blaid Werdd ar Gyngor Casnewydd.

    Fe fydd hi'n cynrychioli ward Shaftesbury.

    Dywedodd mai ei bwriad yw "adfer ffydd pobl" yn y cyngor. "Mae pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu hanghofio," meddai.

    Lauren James
  12. Merthyr Tudful: Y canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 16:05 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Graffeg

    Llafur - 15

    Annibynnol/Arall - 15

  13. Mwyafrif i Blaid Cymru ar Ynys Mônwedi ei gyhoeddi 16:04 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
    Newydd dorri

    Mae Plaid Cymru wedi sicrhau 18 sedd ar Ynys Môn, sy'n golygu bod mwyafrif yno, er nad yw'r cyfri' ar ben.

  14. Sir Benfro: Y canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 16:01 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Graffeg

    Annibynnol/Arall - 35

    Ceidwadwyr - 11

    Llafur - 10

    Plaid Cymru - 2

    Democratiaid Rhyddfrydol - 2

  15. Llafur yn cadw Caerffiliwedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
    Newydd dorri

    Dydy'r cyfri' ddim ar ben yng Nghaerffili, ond mae Llafur eisoes wedi sicrhau 39 o seddi - digon am fwyafrif ar y cyngor.

  16. Sir Ddinbych: Y canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 15:55 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Graffeg

    Llafur - 19

    Annibynnol/Arall - 12

    Plaid Cymru - 8

    Ceidwadwyr - 6

    Gwyrddion - 2

    Democratiaid Rhyddfrydol - 1

  17. Blaenau Gwent: Canlyniad llawnwedi ei gyhoeddi 15:54 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    gfx

    Llafur: 21

    Annibynnol: 12

  18. Ceidwadwyr yn plymio o'r safle cyntaf i'r pedwerydd yn Sir Ddinbychwedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Llafur yw plaid fwyaf Sir Ddinbych erbyn hyn, gyda'r Ceidwadwyr yn plymio o'r safle cyntaf i'r pedwerydd safle.

    Mae’n ganlyniad ofnadwy i’r Torïaid, a gyflwynodd ymgeisydd ym mhob sedd.

    Ymwelodd Boris Johnson â maes carafanau ger Y Rhyl i geisio ennyn cefnogaeth yn ystod yr ymgyrch.

    Ond fe wnaeth rhai o gynrychiolwyr y blaid yn y cyfrif feio problemau ei lywodraeth yn San Steffan am y perfformiad gwael.

    Roedd y Torïaid wedi bod yn rhan o weinyddiaeth annibynnol yn Sir Ddinbych.

    Gallai'r canlyniadau hyn roi cyfle i Lafur ffurfio clymblaid newydd.

    Ar ôl colli’r seddi yn y Senedd a San Steffan, dywedodd ymgyrchwyr Llafur lleol fod yr etholiad hwn yn “ganolog” i frwydr y blaid i ad-ennill tir yn yr ardal.

    Hyd yn hyn, cyfanswm y seddi yw:

    Llafur 19

    Annibynwyr 12

    Plaid Cymru 8

    Ceidwadwyr 6

    Gwyrddion 2

    Democratiaid Rhyddfrydol 1

    Cyngor Sir DdinbychFfynhonnell y llun, Google
    Disgrifiad o’r llun,

    Cyngor Sir Ddinbych

  19. Plaid Cymru'n cadw sedd cyn-arweinydd Ceredigionwedi ei gyhoeddi 15:49 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae Catrin MS Davies o Blaid Cymru wedi llwyddo i ddal sedd Ceulanamaesmawr yng Ngheredigion.

    Dyma oedd sedd y cyn-arweinydd Ellen ap Gwynn sy'n ymddeol eleni wedi iddi fod yn arweinydd Cyngor Ceredigion ers 2012.

    Catrin MS
  20. Diwedd cyfnod yng Nghwm Cynonwedi ei gyhoeddi 15:44 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter