Crynodeb

  • Y Ceidwadwyr yn colli rheolaeth Mynwy

  • Plaid Cymru yn cipio mwyafrif yn Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr

  • Llafur yn cipio rheolaeth ym Mlaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr ond yn colli rheolaeth ar Gastell-nedd Port Talbot

  • Arweinwyr cynghorau Powys, Caerffili a Chaerfyrddin yn colli eu seddi

  • Y Blaid Werdd yn cipio'i seddi cyntaf yn Sir Ddinbych a Chasnewydd

  • Enillion bychan i'r Democratiaid Rhyddfrydol

  1. Cris Tomos yn colli ei sedd yn Sir Benfrowedi ei gyhoeddi 14:16 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Colled annisgwyl i Blaid Cymru yn Sir Benfro, ble mae Cris Tomos wedi colli ei sedd i'r ymgeisydd annibynnol Shon Rees.

    Cris Tomos (chwith) a Shon Rees
    Disgrifiad o’r llun,

    Cris Tomos (chwith) a Shon Rees

  2. Gwynedd: Y canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
    Newydd dorri

    Gwynedd

    Plaid Cymru - 44 sedd

    Annibynnol/Arall - 23

    Llafur - 1

    Democratiaid Rhyddfrydol - 1

  3. 'Cymru'n dilyn patrwm Lloegr o ran y Ceidwadwyr'wedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Dros Ginio
    BBC Radio Cymru

    Dywedodd Dr Huw Lewis, uwch ddarlithydd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar Dros Ginio ei bod yn ymddangos fod canlyniadau gwael y Ceidwadwyr yn Lloegr yn cael ei adlewyrchu yma hefyd.

    "Os ydyn ni yn mynd i gredu yr adroddiadau sydd wedi dod hyd yn hyn, mae hi yn ymddangos fel bod y canlyniad Cymru yn mynd i ddilyn patrwm lled siomedig fel ddigwyddodd yn Lloegr dros nos.

    "Gyda golwg o gymharu y canlyniadau yma gyda chanlyniadau etholiad cyffredinol 2019, fe fydd hi'n ddiddorol gweld y troedleoedd etholiadol y sicrhaodd y Ceidwadwyr mewn seddi San Steffan yng Nghymru yn yr etholiad diwethaf – mewn ardaloedd fel Delyn, Pen-y-bont a’r seddi yng Nghlwyd - i ba raddau y bydd yr etholiadau yma yn dangos bod hynny ddim wedi arwain at droedle yr un mor gryf ar lefel llywodraeth leol."

  4. Y diweddara' hyd yn hynwedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Tad a mab yn cadw eu seddiwedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Yn Sir Conwy mae tad a mab wedi eu hail-ethol i'r cyngor ar gyfer ward Bae Cinmel.

    Mae Nigel (chwith) a Michael Smith, y ddau'n aelodau annibynnol, wedi cadw eu seddi yn gyfforddus.

    Nigel a Michael Smith
  6. 'Y Ceidwadwyr yn colli gafael ar y dosbarth canol'wedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Yn Lloegr, yr hyn sydd yn ddiddorol yw ein bod ni'n gweld parhad y fflip yma o safbwynt dosbarth ac addysg o’r Ceidwadwyr i Lafur ac o Lafur i’r Ceidwadwyr.

    Hynny yw, Llafur yn gwneud yn dda yn yr ardaloedd hynny lle mae 'na nifer sylweddol o bleidleiswyr ifanc a lle mae 'na nifer sylweddol o bleidleiswyr sydd â gradd coleg.

    Mae hynny’n ymddangos i fi yn newid hanesyddol, wrth i’r Ceidwadwyr yn raddol droi yn fwy o blaid populist dosbarth gwaith, a cholli gafael ar y dosbarth canol a phobl sydd ag addysg drydyddol.

    Mae'n ganrif eleni ers i Lafur golli etholiad mawr yng Nghymru, ac os unrhywbeth mae eu gafael nhw yn tynhau, oherwydd mae y llanw yna o safbwynt yr ifanc a’r addysgiedig yn rhedeg o’u plaid nhw yng Nghymru, ond dyw y llanw yn y dosbarth gwaith o blaid y Ceidwadwyr ddim yn digwydd yn yr un modd.

    Felly mae'r Ceidwadwyr Cymreig mewn dipyn o gornel a dweud y gwir.

  7. Arweinydd Penfro yn ddiogel, ond rhagweld dim mwyafrifwedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae arweinydd Cyngor Sir Penfro, David Simpson, wedi cadw ei sedd yn Llanbedr Felfre.

    Mae ein gohebydd Aled Scourfield yn rhagweld na fydd mwyafrif gan yr un blaid yn y sir, ac felly y bydd trafodaethau dros y penwythnos ynghylch arweinyddiaeth.

  8. Ww agos yn ward Yr Eifl - 198 a 196!wedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae Jina Gwyrfai wedi cipio ward Yr Eifl o ddwy bleidlais i Blaid Cymru, a hi felly fydd yn cynrychioli'r ward ar Gyngor Gwynedd.

    Fe gafodd hi 198 a Cian Ireland o Lafur 196.

  9. Arweinydd Rhondda Cynon Taf yn cael ei ailetholwedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Newyddion da i'r blaid Lafur yn Rhondda Cynon Taf, wrth i arweinydd y cyngor Andrew Morgan gael ei ailethol.

    Ond dyw hi ddim yn newyddion cystal i Pauline Jarman o Blaid Cymru, sy'n colli ei sedd ar y cyngor wedi 46 mlynedd ar ôl methu ag ennill un o'r ddwy sedd yn Aberpennar yn dilyn newidiadau i ffiniau'r wardiau yno.

    RCT
  10. 'Gallai arweinydd cyngor Sir Fynwy golli ei sedd'wedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae ffynhonnell wedi dweud wrth BBC Cymru y gallai Richard John, arweinydd cyngor Sir Fynwy, golli ei sedd i'r Democrat Rhyddfrydol Martin Blakebrough, o'r elusen gyffuriau Kaleidoscope.

    Mae rhai seddi yn y sir yn debyg o gael ail gyfrif, a chanlyniadau agos.

  11. Plaid Cymru'n sicrhau mwyafrif yng Ngwyneddwedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
    Newydd dorri

    Mae Plaid Cymru wedi sicrhau 37 o'r 69 o seddi ar Gyngor Gwynedd, sy'n golygu bod y blaid wedi cael mwyafrif yn y sir.

    Mae 'na ragor o ganlyniadau i gael eu cyhoeddi o Wynedd.

    cfn
  12. Llais Gwynedd 'ddim yn tanio' yn yr ymgyrchwedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Disgrifiad,

    Alwyn Gruffydd

    Fe glywson ni'n gynharach bod Alwyn Gruffydd o Lais Gwynedd wedi colli ei sedd yn ward Glaslyn.

    Dywedodd wrth Cymru Fyw ei fod yn siomedig, ond bod pobl "wedi cael cyfle i ddeud eu deud" ac wedi dewis ymgeisydd arall.

    Ychwanegodd bod yr ymgyrch wedi bod yn un "eilradd" o safbwynt Llais Gwynedd, gyda'r blaid "ddimyn tanio fel yr oedden ni".

  13. Arweinydd Llafur Cyngor Caerffili wedi colli ei seddwedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
    Newydd dorri

    Mae arweinydd Llafur Cyngor Caerffili, Philippa Marsden wedi colli ei sedd i ddau gynghorydd Annibynnol.

    Derbyniodd 213 o bleidleisiau.

    Cafodd ei gwrthwynebwyr a enillodd ward Ynysddu, Jan Jones (Annibynnol) 1162 o bleidleisiau. Cafodd Janine Reed (Annibynnol) 1150 o bleidleisiau.

    Dim ond tua 20% o'r pleidleisiau a gafodd yr enillydd gafodd arweinydd y cyngor Llafur, Philippa Marsden.
    Disgrifiad o’r llun,

    Dim ond tua 20% o'r pleidleisiau a gafodd yr enillydd gafodd arweinydd y cyngor Llafur, Philippa Marsden.

  14. 'Colli yn sioc' i gyn-arweinydd Cyngor Powyswedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Dywed cyn-arweinydd Cyngor Sir Powys, Rosemarie Harries, nad oedd hi'n disgwyl colli ei sedd.

    Dywed bod penderfyniadau anodd gan y cyngor yn sgil cyfyngiadau ariannol, ynghyd â brwydr dda gan ei gwrthwynebydd o'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn rhannol gyfrifol am y canlyniad.

    Ychwanegodd ei bod yn falch iawn o'r hyn y mae wedi ei gyflawni fel arweinydd benywaidd cyntaf y cyngor.

    Dywedodd hefyd y bydd yn rhaid i gynghorwyr "fod yn ddoeth" wrth ddewis arweinydd nesaf Cyngor Sir Powys.

    RH
  15. Llais Gwynedd yn colli seddwedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae Alwyn Gruffydd o Lais Gwynedd wedi colli sedd ward Glaslyn i Margaret June Jones o Blaid Cymru.

    Alwyn G
  16. 'Gallai Llafur ennill hyd at ddwy ran o dair o’r seddi yng Nghaerdydd'wedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Gareth Pennant
    Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru

    Mae Llafur yng Nghaerdydd yn credu gallen nhw ennill hyd at ddwy ran o dair o’r seddi yng nghyngor y brifddinas.

    Yn ôl ffynhonnell o fewn y blaid, maen nhw’n obeithiol o ennill hyd at 50 allan o’r 79 o seddi.

    Ar “ddiwrnod rhagorol”, fe allen nhw ennill hyd at 60 o seddi, ychwanegodd y ffynhonnell.

    Yn yr etholiad diwethaf yn 2017, fe enillodd Llafur 40 allan o’r 75 o seddi.

  17. Canlyniadau Cyngor Caerdydd ddiwedd y prynhawnwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Does 'na ddim canlyniadau wedi cyrraedd o awdurdod mwyaf Cymru, Caerdydd, eto.

    Mae yna 79 o seddi ar gael ar draws 29 o wardiau yn y brifddinas.

    Y blaid Lafur sydd wedi bod yn rheoli ers deng mlynedd - maen nhw yn gobeithio cadw eu seddi presennol a'u mwyafrif fan bellaf.

    Mae disgwyl y canlyniadau tuag at ddiwedd y prynhawn.

  18. 'Caiff y Ceidwadwyr eu trechu'n argyhoeddiadol yn Sir Fynwy'wedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Owain Clarke
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae ffynhonnell Geidwadol ym Mhowys yn ofni y bydd y blaid yn cael ei threchu'n argyhoeddiadol yn Sir Fynwy, medd ein gohebydd Owain Clarke.

  19. Un cynghorydd ifanc wrth ei fodd ac yn edrych ymlaenwedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Dywed Elfed Wyn ab Elwyn, 24, o Blaid Cymru ei fod wrth ei fodd cael ei ethol i gynrychioli ward Bowydd a’r Rhiw, Blaenau Ffestiniog ar Gyngor Gwynedd - fe fydd yn un o'r cynghorwyr ieuengaf.

    Ar ei gyfri' Facebook dywedodd: "Braint ydi cyhoeddi fy mod i wedi cael fy ethol dros ward Bowydd a Rhiw!

    "Diolch i chi gyd am roi eich ffydd ynof i, ac dwi'n edrych ymlaen yn arw at gael dechrau'r gwaith!! (A taclo y rhestr mawr dwi wedi cael gan y chi ar stepan drws!)"

    Elfed Wyn ab ElwynFfynhonnell y llun, Elfed Wyn ab Elwyn
  20. Canlyniadau cyntaf Ceredigionwedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae'r canlyniadau cyntaf o Geredigion wedi ein cyrraedd ni.

    Yn ward Aberystwyth Penparcau, mae Steve Davies a Carl Worrall wedi eu hethol dros Blaid Cymru.

    Doedd dim rheolaeth lawn gan yr un blaid y tro diwethaf, ond mae Ceredigion yn sir y bydd Plaid Cymru'n ei thargedu.