Caerdydd: Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 17:46 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
Llafur - 39
Ceidwadwyr - 21
Democratiaid Rhyddfrydol - 11
Annibynnol/Arall - 4
Y Ceidwadwyr yn colli rheolaeth Mynwy
Plaid Cymru yn cipio mwyafrif yn Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr
Llafur yn cipio rheolaeth ym Mlaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr ond yn colli rheolaeth ar Gastell-nedd Port Talbot
Arweinwyr cynghorau Powys, Caerffili a Chaerfyrddin yn colli eu seddi
Y Blaid Werdd yn cipio'i seddi cyntaf yn Sir Ddinbych a Chasnewydd
Enillion bychan i'r Democratiaid Rhyddfrydol
Llafur - 39
Ceidwadwyr - 21
Democratiaid Rhyddfrydol - 11
Annibynnol/Arall - 4
Llafur yw’r blaid fwyaf yn Sir Fynwy – felly mae'r Torïaid wedi colli eu mwyafrif yn y cyngor.
Dyma'r tro cyntaf ers 1995 i Lafur gael y grŵp mwyaf ar yr awdurdod.
Hyd yn hyn mae 21 o seddi wedi eu datgan i Lafur, ac 17 i'r Ceidwadwyr.
Mae mwy na hanner yr awdurdodau Cymreig eto i ddatgan ond mae'n troi'n ddiwrnod gwael i'r Torïaid Cymreig.
Mae wedi ysgogi trafod ymhlith uwch swyddogion – gydag arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies yn galw ar Boris Johnson i ailadeiladu hyder gyda’r blaid.
Mae Llafur wedi gwneud enillion ond wedi methu ag adennill Merthyr Tudful yn llwyr o un sedd, sy'n disgyn o ddwylo annibynnol i ddim rheolaeth gyffredinol.
Gydag ond llond llaw o ganlyniadau ar ôl yn Sir Fynwy, mae hi'n agos iawn rhwng Y Ceidwadwyr a Llafur.
A fydd y Ceidwadwyr yn colli rheolaeth o'r cyngor?
Does "dim dadlau" fod yr etholiad wedi bod yn un siomedig i'r Torïaid, yn ôl cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig Glyn Davies.
Dywedodd yn yr ardaloedd ble y mae ef wedi bod yn ymgyrchu yn Sir Drefaldwyn nad yw'n teimlo fod y Ceidwadwyr wedi mynd am yn ôl.
"Ond wrth gwrs rydyn ni wedi colli mewn rhannau eraill," meddai.
Hyd yma, gyda hanner y cynghorau yng Nghymru wedi cyhoeddi eu canlyniadau, mae'r Ceidwadwyr wedi colli 34 sedd.
Plaid Cymru - 21
Annibynnol/Arall - 10
Llafur - 3
Democratiaid Rhyddfrydol - 1
Mae Neil McEvoy (dde) wedi cadw ei sedd yng Nghaerdydd.
Cadwodd Mr McEvoy, cyn-aelod o Blaid Cymru, sedd Y Tyllgoed dros Propel.
Mae Trystan Lewis, a oedd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol, wedi cipio sedd Llansannan ar Gyngor Conwy oddi ar Susan Lloyd-Williams o Blaid Cymru.
Roedd hi wedi cynrychioli'r ardal i'r blaid ers 2008.
Ddiwedd Ebrill fe gafodd Mr Lewis ei wahardd o Blaid Cymru am ei fod wedi sefyll yn erbyn cydweithiwr.
Fe enillodd Mr Lewis ei sedd ar Gyngor Conwy o 37 pleidlais.
Yn ei neges ar Facebook dywedodd nad oedd lle i "wleidyddiaeth y gwter" a ddigwyddodd yn ystod wythnosau ola'r ymgyrchu ac ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen i "baffio" dros gymunedau cefn gwlad.
Wyneb newydd ar Gyngor Gwynedd fydd Elfed Wyn ab Elwyn, 24, sydd wedi cael ei ethol i gynrychioli ward Bowydd a’r Rhiw, Blaenau Ffestiniog ar ran Plaid Cymru.
Dywedodd ei bod yn "sioc fawr" a'i bod yn "anhygoel fod pobl wedi rhoi eu ffydd ynof fi".
Ychwanegodd y bydd mynd i'r afael ag ail dai yn flaenoriaeth iddo, gyda'r mater yn "mynd dan fy nghroen i".
Llafur - 45
Plaid Cymru - 18
Annibynnol/Arall - 6
Annibynnol/Arall - 22
Llafur - 11
Ceidwadwyr - 10
Plaid Cymru - 7
Democratiaid Rhyddfrydol - 4
Gwyrddion - 1
Yn Sir Fynwy mae Nick Ramsay wedi colli sedd Rhaglan.
Fe wnaeth sefyll ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol wedi iddo gael ei ddad-dethol gan y Blaid Geidwadol Gymreig pan oedd yn Aelod o'r Senedd.
Ond fe wnaeth ymgeisydd y Ceidwadwyr - Penny Jones - gadw'r sedd. Fe gafodd ei merch Laura Ann Jones AS ei hethol i'r Senedd y llynedd.
Ni fydd Sir y Fflint yn cyhoeddi canlyniadau llawn heddiw, gan bod angen ail-gyfri' mewn dwy ward.
Ni fydd hynny'n digwydd nes bore 'fory.
Yn ôl ein gohebydd Craig Duggan yng nghyfri' Ceredigion mae Plaid Cymru yn debygol o sicrhau 20 sedd ar gyfer cael mwyafrif.
Mae nhw eisoes ag 17 cynghorydd.
Keith Henson o Blaid Cymru yw cynghorydd newydd ward Llansanffraid wedi iddo gipio'r sedd oddi ar Dafydd Edwards - aelod annibynnol a oedd hefyd yn aelod blaenllaw o'r cabinet.
Gyda naw o'r 22 cyngor yng Nghymru bellach wedi cyhoeddi eu canlyniadau terfynol, mae'r map yn bron yn hanner llawn.
Ond mae'r llwyd ar y map yn dangos faint o gynghorau sydd eto i benderfynu beth fydd y drefn o'u harwain dros y pum mlynedd nesaf.
Dywed arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas ei bod yn "argoeli'n dda" i'r blaid Lafur yn y brifddinas.
"Dwi'n credu ei fod yn adlewyrchu'r polisïau 'dan ni wedi cyflawni dros y pum mlynedd ddiwethaf," meddai.
Mae Mr Thomas wedi cadw ei sedd yn y brifddinas heddiw.
Un o ddau gynghorydd newydd Plaid Cymru yn ward Bro Aberffraw ar Ynys Môn ydy'r cerddor Arfon Wyn.
Yn ymateb i'r canlyniad dywedodd ei fod "mewn sioc" ei fod yntau a John Ifan Jones wedi cipio seddi dau gynghorydd annibynnol blaenllaw.
A'r pwnc amlycaf ar y stepen drws?
"Tai haf oedd yn dod i fyny dro ar ôl tro. Pobl Cymraeg a di-Gymraeg yn yr ardal yn gweld eu plant yn methu prynu tŷ," meddai.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei bod wedi bod yn "noson galed yn y swyddfa" gyda phleidleiswyr eisiau anfon neges at y blaid yn etholiadau lleol Cymru.
“Mae brand y Ceidwadwyr Cymreig yn gryf iawn, ac mae’r croeso y mae ymgeiswyr y Ceidwadwyr Cymreig wedi’i gael wedi bod yn gynnes iawn, ond y darlun cenedlaethol hwnnw y mae pobl wedi bod yn dweud eu bod am anfon neges amdano,” meddai wrth y BBC.
Cymharodd ganlyniadau heddiw â'r etholiadau lleol yn 2012 pan "gawsom hefyd rai penawdau anodd iawn, a oedd yn ymwneud â threth pasty a threth carafanau", yn dilyn penderfyniadau amhoblogaidd ar ymestyn TAW ar y pryd.
"Y tro hwn, yn amlwg, mae wedi bod o gwmpas materion eraill, felly rwy'n meddwl ledled Cymru ein bod yn cael adroddiadau o'r heriau a wynebir.
"Roedd y neges genedlaethol yn un anodd i ni yn yr ymgyrch yma," meddai.
Ychwanegodd am ddyfodol prif weinidog y DU, "mae'n fater y mae pobl wedi ei godi ar garreg y drws. Roedd y penawdau cenedlaethol yn heriol.
"Mae gan Boris Johnson fy nghefnogaeth, ond mae'n rhaid iddo ddefnyddio misoedd yr haf nawr i wneud yn siŵr ei fod yn gallu magu hyder y blaid a hyder bobl i fynd â ni ymlaen i ymgyrch yr etholiad cyffredinol nesaf”.