Crynodeb

  • Y Ceidwadwyr yn colli rheolaeth Mynwy

  • Plaid Cymru yn cipio mwyafrif yn Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr

  • Llafur yn cipio rheolaeth ym Mlaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr ond yn colli rheolaeth ar Gastell-nedd Port Talbot

  • Arweinwyr cynghorau Powys, Caerffili a Chaerfyrddin yn colli eu seddi

  • Y Blaid Werdd yn cipio'i seddi cyntaf yn Sir Ddinbych a Chasnewydd

  • Enillion bychan i'r Democratiaid Rhyddfrydol

  1. Arweinydd yn colli sedd ym Mhowyswedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
    Newydd dorri

    Mae arweinydd Cyngor Powys, Rosemarie Harris, wedi colli ei sedd.

    Collodd yr aelod annibynnol ei sedd yn ward Llangatwg i Jacke Charlton, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

    Y canlyniad oedd 541 i 455 o bleidleisiau.

  2. 'Tasg anodd' yn Sir Gâr, medd AS Llafurwedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Dywedodd Nia Griffith AS Llanelli wrth BBC Cymru Fyw ei bod yn hapus iawn gyda llwyddiant ei phlaid yn Llundain, gan obeithio bydd hynny hefyd i'w weld yng Nghymru.

    O ran Sir Gâr, dywedodd ei fod wedi bod yn "dasg anodd" i'r blaid hyd yn oed aros yn ei hunfan o ran nifer y cynghorwyr, heb son am gynnydd.

    Roedd hyn, meddai, wrth i rai gyn-gynghorwyr ymddeol ac i eraill adael y blaid.

    Plaid Cymru oedd y blaid fwyaf ar y cyngor, gan ei reoli ar y cyd gyda grŵp annibynnol.

    cyfri
  3. Disgwyl diwrnod 'heriol' i'r Ceidwadwyr yn Sir Ddinbychwedi ei gyhoeddi 11:15 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Raj Metri

    Dyma Raj Metri, cynghorydd newydd ward Bodelwyddan. Fe gipiodd y sedd o’r Ceidwadwyr gyda mwyafrif o 100.

    Ydy ei fuddugoliaeth yn y sedd, ger Y Rhyl, yn argoeli’n wael i’r Ceidwadwyr yn Sir Dinbych?

    Abigail Mainon, aelod adnabyddus o’r blaid yn y gogledd, oedd yr ymgeisydd Toriaidd. Ei thad, Richard, oedd y cynghorydd blaenorol.

    Mae gan y Ceidwadwyr ymgeisydd ym mhob ward yn y sir hon, ond mae ffynonellau annibynnol ac o’r pleidiau eraill yn hyderus yma yn y cyfri' yng nghanolfan hamdden Dinbych.

    Mae AS Dyffryn Clwyd, y Ceidwadwr James Davies, yn dweud ei fod yn paratoi am ganlyniadau "heriol" heddiw.

  4. 'Byth eto - ymgyrch frwnt iawn'wedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Dywed Wendy Lewis, cynghorydd Llafur Waunarlwydd yn Abertawe nad yw hi am weld ymgyrch fel a gafwyd eleni eto.

    "Mae wedi bod yn ymgyrch hynod o frwnt y tro hwn a dwi byth eisiau mynd trwy hyn byth eto," meddai.

    Llafur Waunarlwydd
  5. Gyrfa newydd i ffotograffyddwedi ei gyhoeddi 11:04 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Disgrifiad,

    Ymateb Arwyn Roberts, cynghorydd newydd Tryfan

    Mae Plaid Cymru wedi trechu un o hoelion wyth Llais Gwynedd, wrth gipio ward newydd Tryfan ar Gyngor Gwynedd.

    Llwyddodd Arwyn Roberts, ffotograffydd adnabyddus yn y gogledd, i drechu Aeron Jones o 315 i 136.

    Dywedodd bod pobl yr ardal wedi ymddiried ynddo, a'i fod yn gobeithio ad-dalu'r ffydd yna ynddo.

  6. Sir Gâr: 'Mwyafrif o fewn gafael'wedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae cyn-gynghorydd Plaid Cymru a’r Aelod o'r Senedd Cefin Campbell yn dweud bod sicrhau mwyafrif “ yn Sir Gâr o fewn eu gafael.”

    Ond mae’n dweud y bydd hi’n “agos iawn" mewn nifer o seddi.

    Yn enwedig yn yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol fel Cwm Gwendraeth, Dyffryn Aman, Rhydaman a Llanelli.

    “Ond ry’n ni’n hyderus y bydd gyda ni ddigon o seddi i ffurfio gweinyddiaeth- p’un ai bod hynny ar gyfer Plaid Cymru ar ben eu hunain, neu fod yn rhaid i ni ffurfiol rhyw fath o gytundeb gydag, o bosib, yr annibynwyr, neu falle rhywun arall.”

    Enillodd Plaid Cymru 36 o’r 74 sedd yn 2017, gan arwain at glymblaid gyda’r annibynwyr. Eleni mae 75 o seddi yn y fantol.

    Disgrifiad,

    Ymateb Cefin Campbell o Blaid Cymru ar ôl 4 canlyniad

  7. Faint fydd yn pleidleisio yng Nghasnewydd?wedi ei gyhoeddi 10:56 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae nifer isel o bleidleiswyr bob amser yn gur pen ond mae’n broblem mwy dwys yng Nghasnewydd.

    Yn ystod yr etholiadau lleol diwethaf yn 2017, Casnewydd ynghyd â Chaerffili oedd â’r ganran isaf o bleidleisio o blith unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru - dim ond 36.3%.

    Ond yn 2012 roedd y ganran yng Nghasnewydd yr isaf o holl gynghorau Cymru - 33.9%.

    Yn y cyfrif heddiw mae nifer yn pendroni a fydd y bobl ifanc 16 ac 17 oed sy'n gymwys i bleidleisio am y tro cyntaf mewn etholiadau lleol yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth yma?

    Casnewydd
  8. Ymgyrchu 'ffyrnig' yng Nglannau Dyfrdwywedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Disgrifiad,

    Sion Pennar sy'n gohebu.

    Mae'r broses o wirio'r pleidleisiau wedi cychwyn yn neuadd chwaraeon Coleg Cambria yn Nghei Connah, Sir y Fflint.

    Enillodd Llafur 34 o'r 70 sedd oedd ar gael ar y cyngor sir y tro diwethaf, ond mae hi wedi bod yn gyfnod cythryblus i'r blaid yn lleol.

    Ymddiswyddodd yr arweinydd, Aaron Shotton, yn Ebrill 2019, mewn ffrae chwerw wedi iddo ddiswyddo ei ddirprwy, Bernie Attridge.

    Cafodd Mr Shotton ei ddisgyblu'n ddiweddarach am annog ei gynorthwyydd personol i yrru negeseuon rhywiol eu natur iddo.

    Dydy Mr Shotton ddim yn sefyll y tro hwn, ond mae Mr Attridge yn gobeithio cael ei ethol fel aelod annibynnol yng Nghei Connah.

    Dywedodd un cynghorydd Llafur wrtha' i yn gynharach mai yn yr ardal honno - a Glannau Dyfrdwy yn gyffredinol - mae'r brwydro etholiadol wedi bod ar ei ffyrnicaf, wrth i'r blaid geisio gwrthsefyll yr ymgeiswyr annibynnol.

    Ond ychwanegodd ei fod yn "dawel hyderus" yn ei ward o yn ne'r sir.

    Gobaith y blaid dan arweiniad Ian Roberts fydd dal eu tir ac - efallai - cipio seddi ychwanegol i hawlio mwy na hanner yr etholaethau y tro hwn.

  9. 'Fe fydd siom i rywun' yn Rhondda Cynon Tafwedi ei gyhoeddi 10:48 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Disgrifiad,

    Bethan Lewis sy'n gohebu.

    Yn Rhondda Cynon Taf mae’r cyfri’n digwydd mewn tri lleoliad sy’n adlewyrchu tair rhan yr awdurdod lleol sylweddol yma.

    Ond yng Nghwm Cynon mae’r ornest fwyaf diddorol mewn awdurdod ble mae Llafur wedi bod yn rheoli gyda mwyafrif digon cyfforddus.

    Mae arweinydd y grŵp Llafur a’r cyngor cyn yr etholiad, Andrew Morgan, sydd hefyd yn wleidydd amlwg yn genedlaethol, yn mynd benben gyda Pauline Jarman, arweinydd Plaid Cymru yn yr ardal ers degawdau a chyn-aelod Cynulliad.

    Mae’r maer Llafur hefyd yn cystadlu am un o ddwy sedd yn Aberpennar felly fe fydd yna siom i rywun.

  10. Y sefyllfa ym Mônwedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Disgrifiad,

    Liam Evans sy'n gohebu.

    Ar Ynys Môn mae’r broses o wirio’r pleidleisiau eisoes wedi digwydd yn hwyr neithiwr gyda 64 o focsys wedi cyrraedd Canolfan Hamdden Plas Arthur.

    Mi oedd ‘na 53,554 o etholwyr gyda'r hawl i bleidleisio, gyda 21,621 yn mynd ati i fwrw eu pleidlais - 39.59%.

    Mae hynny’n is nag yn 2017 (45.9%) a hefyd yn 2013 (50.5%).

    Plaid Cymru oedd yn arwain ond doedd yr un blaid yn rheoli’n llwyr.

    Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, sy'n ymgeisio ym mhob un o’r 35 o seddi, yn gobeithio ethol eu cynghorydd cyntaf ers bron i ddegawd.

  11. Y Ceidwadwyr i golli tir yn Sir Benfro?wedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Fel ymhob etholiad mae ein gohebwyr allan mewn canolfannau hamdden a neuaddau sir dros y wlad heddiw.

    Yn Sir Benfro mae Aled Scourfield yn dweud mai perfformiad y Ceidwadwyr fydd yn ddiddorol y tro hwn, ar ôl ennill 11 o seddi yn 2017.

    Ond a fydd helyntion y blaid yn genedlaethol yn effeithio hynny?

    Disgrifiad,

    Aled Scourfield sy'n gohebu.

  12. Beth am Gymru?wedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Wrth droi ein golygon yn ôl at Gymru, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Dylan Iorwerth ar raglen Dros Frecwast bod y darlun yma hefyd yn fwy cymleth nag un syml o oruchafiaeth Llafur wrth ystyried awdurdodau lleol.

    "Bydda i'n edrych i weld a fydd Llafur yn ennill rhai cynghorau mewn ardaloedd fel Merthyr ac yn y blaen - ardaloedd 'den ni'n ystyried yn ardaloedd Llafur.

    "Ac wedyn wrth gwrs, bydd Plaid Cymru yn trio ennill goruchafiaeth lwyr fel bod ganddyn nhw fwyafrif clir mewn cynghorau fel Ceredigion a Chaerfyrddin.

    "Felly'r ddwy blaid yna yn trio ennill mwyafrif yn eu cadarnleoedd a'r Ceidwadwyr, fydda nhw'n desperate i gadw gafael ar Sir Fynwy."

    Dolgellau
  13. 'Cnoc i'r Ceidwadwyr' yn Lloegr dros noswedi ei gyhoeddi 10:34 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Dywedodd Elliw Gwawr, gohebydd Seneddol BBC Cymru, ar raglen Dros Frecwast fod Llafur wedi gwneud yn dda iawn yn Llundain ond fod y darlun yn fwy "cymysglyd a chymhleth" yng ngweddill Lloegr.

    "Yn Llundain, Llafur yn cipio nifer o seddi allweddol oddi ar y Ceidwadwyr.

    "Maen nhw newydd gipio Westminster am y tro cyntaf erioed. Rhywbeth wnaeth nhw hyd yn oed fetheu ei wneud dan Tony Blair.

    "Cnoc enfawr i'r Ceidwadwyr yn colli Wandsworth ond y tu allan i Lundain mae'r darlun wedi bod yn llawer mwy cymysg ac mewn rhai ardaloedd yn y canolbarth y Ceidwadwyr yn dal eu tir.

    "Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn elwa yn fawr hyd yn hyn, ond rhaid cofio eu bod nhw yn dechrau ar lefel llawr is na'r Blaid Lafur."

    Llafur yn ennillFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Llafur wedi cipio Cyngor Westminster am y tro cyntaf

  14. Beth ddigwyddodd bum mlynedd yn ôl?wedi ei gyhoeddi 10:31 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Disgrifiad,

    James Williams fu'n cymryd golwg 'nôl ar beth ddigwyddodd yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2017

  15. Beth oedd y darlun y tro diwethaf?wedi ei gyhoeddi 10:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Nifer 2017

    Cyn i ni fynd ymhellach, dyma oedd y darlun ar ddiwedd etholiadau lleol 2017.

    Cipiodd y blaid Lafur 472 o seddi, oedd yn gwymp o dros 100 bryd hynny.

    Aelodau annibynnol oedd yr ail grŵp fwyaf yn genedlaethol, gyda 322 aelod.

    Roedd gan Blaid Cymru 202 sedd, cynnydd o dros 30, ac fe welodd y Ceidwadwyr gynnydd o dros 80 wrth gyrraedd cyfanswm o 184. 63 sedd enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol.

    map 2017

    O ran ennill mwyafrifoedd, roedd gan Lafur reolaeth llawn mewn saith sir, roedd grwpiau annibynnol yn rheoli mewn tair sir, a Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn rheoli un yr un.

    Mae rheolaeth lawn yn wahanol i siroedd ble mae aelodau o blaid penodol yn arwain y cyngor fel rhan o glymblaid neu gyfundrefn o aelodau yn cydweithio.

  16. Wynebau adnabyddus o Wynedd wedi eu hetholwedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae 'na ganlyniadau'n dechrau cyrraedd o Wynedd hefyd, mae'r arweinydd presennol, Dyfrig Siencyn wedi ei ail-ethol yng Ngogledd Dolgellau.

    Ac mae Arwyn Roberts, neu Arwyn Herald, wedi cipio ward Tryfan gan Aeron Jones o Lais Gwynedd.

    Fe wnaeth Mr Roberts, ffotograffydd adnabyddus yn yr ardal, gael 315 o bleidleisiau, i 136 Mr Jones.

    Dyfrig Siencyn
  17. Canlyniadau cyntaf yn cyrraeddwedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae'r canlyniadau cyntaf eisoes wedi dechrau cyrraedd. Yn Sir Gâr mae 'na bedair ward wedi eu cyhoeddi - gydag Abergwili, Cynwyl Elfed, Cilycwm a Betws oll yn mynd i Blaid Cymru.

    Mae'r dwy ward - Cynwyl Elfed a Cilycwm - wedi eu cipio oddi ar ymgeiswyr annibynnol y tro hwn.

  18. Yr etholiad mewn rhifauwedi ei gyhoeddi 10:18 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Beth sydd yn y fantol heddiw felly?

    Rheolaeth o 22 cyngor Cymru yw'r brif wobr, sydd fel arfer yn mynd i'r blaid neu'r grŵp sydd â'r nifer uchaf o gynghorwyr.

    Dros y wlad, mae 'na 1,234 o seddi ar gael i'w hennill.

    762 o wardiau, neu ardaloedd unigol, sydd yng Nghymru, ond mae rhai yn cael eu cynrychioli gan fwy nag un aelod.

    Ond mewn 74 o wardiau, ni fydd cystadleuaeth am y sedd, gan fod aelodau wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad.

    Disgrifiad,

    Cyfri' yn Sir Benfro

  19. Croesowedi ei gyhoeddi 09:56 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Bore da a chroeso at ein llif byw wrth i ganlyniadau'r etholiadau lleol gael eu cyhoeddi dros Gymru.

    Mae'r cyfri' eisoes wedi dechrau mewn sawl sir, felly gwnewch baned, ac arhoswch gyda ni am y canlyniadau a'r holl ddadansoddi gydol y dydd.

    Disgrifiad,

    Mae'r cyfri' wedi dechrau yn Nolgellau y bore 'ma