A fydd Allen yn ddigon ffit i ddechrau?wedi ei gyhoeddi 08:24 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022
Ar ôl colli'r gêm yn erbyn UDA ddydd Llun mae rheolwr Cymru wedi cadarnhau bod Joe Allen yn holliach i chwarae heddiw.
Mae anaf i linyn y gar wedi ei gadw oddi ar y cae ers mis Medi.
Ers cyrraedd Qatar mae Allen wedi bod yn ymarfer ar ei ben ei hun, ond fe ddychwelodd i hyfforddi'n llawn gyda'r garfan ddydd Mercher.
Ond a fydd y chwaraewr canol cae yn dechrau'r gêm heddiw felly? Cawn wybod yn ddigon buan, mae disgwyl i'r timau gael eu cyhoeddi o fewn y munudau nesaf.