Crynodeb

  • Ail gêm Cymru yng Ngrŵp B Cwpan y Byd Qatar 2022

  • Iran wedi cael y bêl yn y rhwyd yn gynnar, ond camsefyll yn rhoi dihangfa i Gymru

  • Y gwrthwynebwyr hefyd wedi taro'r postyn ddwywaith ar ddechrau'r ail hanner

  • Wayne Hennessey wedi cael cerdyn coch gyda phum munud i fynd

  • Cheshmi a Rezaeian yna'n rhwydo dwy gôl yn y munudau olaf i Iran

  • Cymru nawr angen trechu Lloegr i gael unrhyw obaith o fynd trwodd i'r 16 olaf

  1. O emosiwn i densiwn...wedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Osian Roberts
    Cyn-is-reolwr Cymru ar S4C

    Emosiwn nos Lun, tensiwn heddiw 'ma.

    Does 'na'm byd rhwng y ddau dîm - mae'r gêm yn eitha' agored a'r ddau dîm yn edrych fel y gallan nhw sgorio'r gôl gynta' 'na.

  2. Diddanwch hanner amser gan ddisgyblion Ysgol Glan Clwydwedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Disgrifiad,

    Sosban Fach

  3. 'Ampadu yn arwrol unwaith eto'wedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Diolch byth am Ethan Ampadu unwaith eto - mae e 'di bod yn arwrol hyd yn hyn.

    Ond mae angen help arno fe - opsiynau.

    Yn ymosodol mae angen i ni edrych ar ôl y bêl yn well a bod bach yn fwy creadigol.

    Ond pan mae Iran yn gwrthymosod maen nhw'n edrych fel sgorio.

    AmpaduFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Galw eisoes am ddod â Brennan Johnson ymlaenwedi ei gyhoeddi 10:56 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Dylen ni weld Brennan Johnson yn dod ymlaen ar hanner amser.

    'Neith e drio curo'r dynion ar y tu allan. Dim ond Neco Williams sy'n gwneud hynny ar hyn o bryd.

    I fi, mae angen bach mwy o egni i guro'r dyn a wedyn chwipio'r bêl i mewn.

    Ar hyn o bryd mae Iran yn rhagweld yn union beth ni'n mynd i wneud.

  5. Y teimlad hanner amser...wedi ei gyhoeddi 10:54 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Y Wal Goch yn bryderus yn Nhreganna...

    Cefnogwyr Cymru yn gwylio yng Nghaerdydd
  6. Dwylo diogel gan Hennesseywedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Dydy Wayne Hennessey ddim wedi cael dim byd i 'neud tan funud ola'r hanner cynta'.

    Doedd hi ddim yn un hawdd chwaith - yn bownsio reit o'i flaen o.

  7. Anadlwch!wedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

  8. Hanner amserwedi ei gyhoeddi 45+4

    O'r gic rydd, y bêl yn mynd i ardal beryglus yn y cwrt, ac mae Iran bron yn sgorio eto.

    Amddiffyn Cymru yn aros yn gadarn, a'r bêl yn nwylo Wayne Hennessey i orffen yr hanner.

  9. Cerdyn melyn i Rodonwedi ei gyhoeddi 45+3 mun

    Mae Cymru'n pwyso tuag at ddiwedd yr hanner, ond Iran yn atgoffa eu bod nhw'n beryglus hefyd.

    Croesiad gwych i mewn i'r cwrt tuag at Azmoun, ond mae Rodon yn gwneud digon i'w atal rhag cael ergyd.

    Yr ymosodiad nesaf gan Iran ac mae Taremi heibio Rodon, sy'n ei gymryd i lawr ar yr asgell. Melyn i Rodon. Haeddiannol.

    RodonFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. 4 munud o amser ychwanegolwedi ei gyhoeddi 45 mun

  11. 'Iran llawer gwell na'r disgwyl'wedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Mae'r gêm wedi bod llawer yn fwy agored nag y byddai unrhyw un wedi disgwyl.

    Mae strwythur Iran wedi bod gymaint yn well, a maen nhw 'di bod llawer gwell nag o'n i wedi disgwyl ar ôl gweld y gêm ddiwethaf.

    Ond - pum newid i'r tîm, maen nhw bendant yn teimlo'n fwy hyderus a gallwn ni weld hynny yn y ffordd maen nhw 'di gosod y tîm i fyny.

  12. Gwell gan Gymruwedi ei gyhoeddi 42 mun

    Chwarae gwell gan Gymru, pas Ramsey yn torri drwy amddiffyn Iran, Moore yn ei chyffwrdd, ond ergyd Harry Wilson yn hedfan heibio'r postyn.

    Maen nhw'n dod yn ôl eto yn fuan wedyn, Mepham yn rhyng-gipio, ond Bale yn camsefyll yn y pendraw.

  13. 'Y gôl gynta'n hollbwysig'wedi ei gyhoeddi 10:41 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae'r gôl gynta' yn mynd i fod yn hollbwysig.

    Tasan ni'n ei chael hi, alla i 'mond dychmygu y bysa pennau chwaraewyr Iran yn disgyn a meddwl 'dyma ni'n mynd unwaith eto'.

    WilsonFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. 'Byddai Cymru'n fodlon gyda 1-0'wedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Dylan Griffiths
    Sylwebydd BBC Radio Cymru yn Qatar

    Roeddan ni yn y gynhadledd newyddion ddoe, a gwahaniaeth goliau yn cael ei drafod.

    Wel ar hyn o bryd, 'swn i'n fodlon ar 1-0 i Gymru - cipio'r triphwynt a symud 'mlaen!

  15. 'Gormod o gyffyrddiadau'wedi ei gyhoeddi 10:37 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Mae chwaraewyr Cymru yn cymryd gormod o gyffyrddiadau o'r bêl - yn enwedig Connor Roberts, Neco Williams.

    Mae'n rhaid rhyddhau'r pas yn gyflymach.

    Wedyn os ydych chi'n edrych lan o'r pas, welwch chi fod yna gymaint o fylchau i chwaraewyr Cymru redeg mewn iddyn nhw.

    Mae methu bod yn Kieffer Moore yn 'neud y rhediadau 'na drwy'r amser.

    NWFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Wal Goch Ysgol Gynradd Aberaeron: 'Amdani Bois!'wedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Plant Ysgol Gynradd Aberaeron yn rhydd o'r gwersi ac yn cael gwylio'r gêmFfynhonnell y llun, Ysgol Gynradd Aberaeron
    Disgrifiad o’r llun,

    Plant Ysgol Gynradd Aberaeron yn rhydd o'r gwersi ac yn cael gwylio'r gêm

    Y ddraig tu ôl i liwiau'r enfys yn cyhwfan yn ffenest yr ysgolFfynhonnell y llun, Ysgol Gynradd Aberaeron
  17. 54% o'r meddiant, ond prin o gyfleoeddwedi ei gyhoeddi 33 mun

    Mae Cymru wedi cael 54% o'r meddiant, ond dydyn nhw heb greu llawer o gyfleoedd gyda hynny.

    Yn sicr Iran sydd wedi edrych fel y tîm mwyaf peryglus hyd yn hyn.

  18. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 31 mun

    Trosedd ar Ampadu, a Ramsey'n codi'r bêl i mewn i'r cwrt ond mae'n bas siomedig iawn, a'r bêl yn dod yr holl ffordd yn ôl at Hennessey.

  19. Galw am fwy gan yr enwau mawrwedi ei gyhoeddi 10:31 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Prin 'dan ni di crybwyll Ramsey a Bale - yr un o'r ddau wedi cael dylanwad hyd yma.

    Mae'n rhaid i'r chwaraewyr mawr ddangos y ffordd i'r chwaraewr eraill.

    Rhaid i Ramsey gael ei hun ar y bêl - mae ganddo fo'r gallu i agor pethau allan.

    RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. 'Rhaid i Gymru ddangos mwy o ddisgyblaeth'wedi ei gyhoeddi 10:30 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Ni'n gwneud pasys dall ar hyn o bryd - mae'n iawn os ni'n gwybod bod nhw'n mynd i gyrraedd.

    Mae gormod o hynny'n digwydd a dy'n ni'n mynd i gael ein cosbi ymhen ychydig.

    Mae'n rhaid i Gymru ddangos mwy o ddisgyblaeth.