Azmoun yn parhauwedi ei gyhoeddi 28 mun
Mae Azmoun yn ôl ar ei draed, ond dydy o ddim yn edrych yn gyfforddus...
Ail gêm Cymru yng Ngrŵp B Cwpan y Byd Qatar 2022
Iran wedi cael y bêl yn y rhwyd yn gynnar, ond camsefyll yn rhoi dihangfa i Gymru
Y gwrthwynebwyr hefyd wedi taro'r postyn ddwywaith ar ddechrau'r ail hanner
Wayne Hennessey wedi cael cerdyn coch gyda phum munud i fynd
Cheshmi a Rezaeian yna'n rhwydo dwy gôl yn y munudau olaf i Iran
Cymru nawr angen trechu Lloegr i gael unrhyw obaith o fynd trwodd i'r 16 olaf
Mae Azmoun yn ôl ar ei draed, ond dydy o ddim yn edrych yn gyfforddus...
Roedd yna dipyn o ryddhad ymhlith cefnogwyr Cymru yn Depot, Caerdydd pan benderfynwyd na fyddai gôl Iran yn cael ei gyfri'.
Amddiffyn gwell y tro hwn gan Rodon wrth i Azmoun ymosod drwy ganol y cae.
Rodon yn ddigon cyflym i aros gydag ymosodwr Leverkusen, sydd yn aros i lawr ar ôl y dacl.
Oes na anaf i chwaraewr gorau Iran hyd yn hyn heddiw?
Gwennan Harries
Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C
Beth sy'n fy mhryderu i - mae Iran yn dda iawn mewn sefyllfa transition.
Pan maen nhw'n ennill y meddiant yna maen nhw'n dda, dda iawn.
Mae angen i Gymru ymateb yn gyflymach.
Nic Parry
Sylwebydd Sgorio ar S4C
Mae 'na awydd yn y chwarae - mae chwaraewyr Iran yn dangos eu hangerdd.
Maen nhw'n disgwyl i'r chwaraewr nesa' fod ar gymaint o ruthr a gymaint o dân â nhw eu hunain.
Mae 'na flas gornest gyffrous, gystadleuol yma'n barod.
Iolo Cheung
Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar
Hyd yn oed o ganol eisteddle Cymru, cefnogwyr Iran sy’n gwneud y mwyaf o sŵn o bellffordd hyd yma.
Ampadu yn ildio cic rydd i Iran wrth iddyn nhw wrthymosod unwaith eto.
Rezaeian sydd drosti i Iran, ac yn rhoi'r bêl i mewn i'r cwrt, ond mae peniad Azmoun yn methu'r targed.
Chwarae taclus gan Gymru ar y dde, a Bale yn ennill cic rydd - Capten Cymru wedi ei daro yn ei wyneb yn fan'a.
Harry Wilson sy'n ei chymryd hi, ond y golwr Hosseini yn gryf ac yn clirio.
Mae 'na gyfle i Iran wrthymosod, a'r crysau gwyn yn heidio ymlaen.
Mae amddiffynwyr Cymru'n cael trafferth ymdopi gyda thri ymosodwr Iran ar hyn o bryd.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru
Be sy'n mynd trwy ben Connor Roberts?
Ti'n dysgu'r wers yna pan ti'n ifanc - peidiwch chwarae'r bêl ar draws y cae.
Cymru'n ofnadwy o ffodus.
Camsefyll gan Iran, dydy'r gôl ddim yn cyfri'. VAR yn achub Cymru.
Neu oes na gamsefyll?
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru
Mae'n rhaid i ni ddechrau cael gafael ar y bêl, ac ar y gêm.
Dwi'n licio tempo uchel, ond rŵan, jyst cadw'r bêl.
Cymru'n cadw meddiant am y tro cyntaf, a'r bêl i mewn i'r cwrt o'r dde gan Connor Roberts yn rhoi cyfle gwych i Moore!
Ond mae ergyd Moore yn syth at y golwr.
Gwell gan Gymru.
Mae Iran wedi dangos pasio slic a chywir ym munudau cyntaf y gêm yma - maen nhw'n dîm gwahanol i'r un heriodd Lloegr ddydd Llun.
Cyfnod o feddiant i Gymru wrth i Ampadu ganfod Ramsey, ond dyw croesiad Ramsey ddim yn ddigon cywir ac mae'r bêl allan am gic gôl.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru
Pan mae'r bêl 'na'n cael ei chwarae at Kieffer Moore 'dach chi'n gallu gweld ei fod o'n mynd i'w hennill hi.
Mae'n rhaid i ni gael chwaraewyr yn rhedeg oddi arno fo.
Gwaith cynnar i Chris Mepham yn amddiffyn Cymru hefyd - pêl hir dros y top gan Iran ond mae Mepham yn effro i'r perygl ac yn penio at Hennessey.
Mae Iran yn ymosod eto drwy Azmoun - Ben Davies y tro hwn yn clirio'r croesiad.
Mae Sardar Azmoun yn achosi problemau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dechrau bler i'r gêm gyda'r un tîm yn gallu cadw meddiant.
Ond effaith Kieffer Moore i'w weld yn syth wrth iddo benio pêl hir i lawr i Harry Wilson, sy'n canfod Neco Williams.
Ergyd gan Williams, ond mae hi'n rhy uchel.
Ramsey'n dechrau'r gêm - CMON CYMRU!
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru
Mae'n siomedig, pan ti'n dod i dwrnament mor fawr â Chwpan y Byd, mae'n siomedig gweld nifer fawr o seddi gwag yn y stadiwm 'ma.