Crynodeb

  • Ail gêm Cymru yng Ngrŵp B Cwpan y Byd Qatar 2022

  • Iran wedi cael y bêl yn y rhwyd yn gynnar, ond camsefyll yn rhoi dihangfa i Gymru

  • Y gwrthwynebwyr hefyd wedi taro'r postyn ddwywaith ar ddechrau'r ail hanner

  • Wayne Hennessey wedi cael cerdyn coch gyda phum munud i fynd

  • Cheshmi a Rezaeian yna'n rhwydo dwy gôl yn y munudau olaf i Iran

  • Cymru nawr angen trechu Lloegr i gael unrhyw obaith o fynd trwodd i'r 16 olaf

  1. Dydy Kath Morgan ddim mor obeithiol ag Osian Roberts...wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae'n rhaid i ni fod yn realistig - dydyn ni ddim am guro Lloegr.

    Mae sawl chwaraewr allan ar y cae yn lwcus iawn bod nhw heb gael eu heilyddio yn gynnar.

    Yn gorfforol dydyn nhw ddim yn ddigon ffit i gystadlu ar y lefel yma.

    Ond be' sy'n taro fi fwyaf yw diffyg llwyddiant gyda'r pasio. Doedd Ramsey methu canfod ei gyd-chwaraewyr, Bale yn gwneud yr un peth.

    Roedden ni off the pace o'r funud gyntaf i'r funud olaf.

    BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. 'Dydyn ni ddim allan ohoni'wedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Osian Roberts
    Cyn-is-reolwr Cymru ar S4C

    Y gwir ydy 'dan ni ddim allan o'r gystadleuaeth.

    Mae gynnon ni'r gêm bwysig ar ôl - 'dan ni ddim allan eto.

    Mae 'na bosibilrwydd y bydd 'na rywbeth i chwarae amdano fo bryd hynny.

    Mae'n rhaid edrych ymlaen, er bod hi'n anodd yn syth ar ôl y gêm wrth gwrs.

    Cymru yn erbyn IranFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. A ddylai Page fod wedi dilyn patrwm Lloegr?wedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Owain Tudur Jones
    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    Mae pêl-droed yn rywbeth mawr o ran hindsight - os 'dan ni'n colli, 'dan ni wedi 'neud y penderfyniadau anghywir.

    Ond wrth feddwl yn ôl, 'swn ni wedi gallu mynd yn bedwar yn y cefn a dilyn patrwm Lloegr yn chwarae Iran.

    Ond oeddan ni 'di 'neud digon i aros yn y gêm a just ennill pwynt - ond mae cerdyn coch yn newid popeth.

  4. 'Mi allai hi fod wedi bod yn gweir'wedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    O edrych 'nôl fe allai hi fod wedi bod yn gweir go iawn.

    Taro'r postyn ddwywaith, gôl gafodd ei dileu gan VAR, arbediad Hennessey.

    Mi allai hon fod wedi bod yn flêr.

    CymruFfynhonnell y llun, PA Media
  5. 'Cerdyn coch yn newid y gêm'wedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Osian Roberts
    Cyn-is-reolwr Cymru ar S4C

    Mae'r cerdyn coch yn newid y gêm.

    O'dd hi'n gem eitha' agored - Iran, chwarae teg, yn creu'r cyfleoedd gorau.

    Ond mae'r cerdyn coch yn ei gwneud hi'n eithriadol o anodd i'r 10 dyn sydd ar ôl.

    Fe fydd Rob Page yn eithriadol o siomedig.

    Roedd o 'di trio bod yn ymosodol er mwyn ennill y gêm yma - munud 'dan ni'n mynd lawr i 10 dyn, roedd hi'n anodd yn amddiffynol wedyn, yn enwedig pan oeddan nhw'n gwrth-ymosod.

    Carden coch i HennesseyFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. 'Da ni wedi colli, ond, 'da ni Yma o Hydwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Pam cosbi Williams ac Ampadu?wedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Er be' mae Ramsey a Bale wedi gwneud i ni, yn y ddwy gêm ddiwetha' dydyn nhw heb gyfrannu fel y dylen nhw.

    Pam cosbi Neco Williams nos Lun ac Ethan Ampadu heddiw? Nhw sydd wedi bod yn gweithio.

    Dyw e ddim yn anfon arwydd da i'r chwaraewyr ifanc.

  8. Chwaraewyr ddim digon ffit?wedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Ti'n edrych ar y ddau berfformiad a 'dan ni heb fod yn ddigon da.

    Y peth mwya' oedd yn fy mhoeni i cyn dod yma i Gwpan y Byd oedd fod gormod o chwaraewyr ddim yn chwarae'n gyson i'w clybiau.

    Dydy lefelau ffitrwydd rhai chwaraewyr ddim lle dylen nhw fod.

    Does 'na ddim digon o egni, o ffreshni, dim digon yn y coesau.

  9. 'Y Wal Goch yn gwbl fud'wedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Nic Parry
    Sylwebydd Sgorio ar S4C

    Mae'r stadiwm yn hanner llawn llawenydd - a'r ochr arall yn gwbl fud.

  10. 'Dim egni ar ôl gan Gymru'wedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Wedais i pa mor beryglus oedd Iran yn ymosod - a ni'n gweld yn union pam.

    Doedd just dim digon o egni'n weddill gan Gymru, roedden nhw 'di rhedeg gymaint a gallan nhw.

  11. Ai dyna ddiwedd yr ymgyrch i Gymru?wedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Mae 'na gêm arall yn weddill wrth gwrs, ond mae'n mynd i fod yn dasg a hanner i Gymru gyrraedd y rownd nesaf yng Nghwpan y Byd.

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Buddugoliaeth haeddiannol i Iranwedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Rhaid i ni fod yn onest - maen nhw'n haeddu'r gôl, y fuddugoliaeth a'r triphwynt.

    Maen nhw wedi mynd mor agos dro ar ôl tro ar ôl tro.

  13. SGOR TERFYNOL: CYMRU 0-2 IRANwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022
    Newydd dorri

  14. Mae hi ar benwedi ei gyhoeddi 90+9 mun

    Ail gôl i Iran wrth i Gymru bwyso am gôl ei hunain.

    Iran yn gwrthymosod, tri yn erbyn dau, a Ramin Rezaeian sy'n codi'r bêl dros Ward.

    2-0 i Iran.

    gol iranFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. GOL I IRANwedi ei gyhoeddi 90+9 mun
    Newydd dorri

    Gol
  16. Torcalon i Gymruwedi ei gyhoeddi 90+8 mun

    Torcalonnus.

    Joe Allen yn clirio'r bêl o'r cwrt, ond dydy o ddim yn cael digon o bellter arni, ac mae'n disgyn i Rouzbeh Cheshmi - sy'n taro chwip o ergyd i'r gornel isaf.

    Dim gobaith i Danny Ward.

  17. GOL I IRANwedi ei gyhoeddi 90+8 mun
    Newydd dorri

    Gol
  18. 'Pwynt yw'r mwya' ni'n haeddu'wedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Pwynt yw'r mwya' ni'n haeddu heddiw.

    Gallen ni fod yn ddiolchgar am bwynt, ond sai'n credu bod e'n mynd i fod yn ddigon.

  19. Melyn i Jahanbakhshwedi ei gyhoeddi 90+6 mun

    Jahanbakhsh yn cael cerdyn melyn am droed uchel ar Mepham.

    Yna chwarae da rhwng James a Moore ar y dde - ond y bas olaf ddim yn ddigon da.

    Dyna stori'r gêm i gymru.

  20. Rhaid cofio bod Iran yn dîm safonolwedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Roedd lot o bobl yn sôn cyn y gêm am Iran, dyle bod ni'n sgorio tri, pedwar yn eu herbyn nhw.

    Ond mae timoedd ar y lefel yma'n dimoedd dda - doedd Iran dim ond 'di colli tair gwaith mewn 22 gêm cyn Cwpan y Byd, gan gynnwys curo timoedd fel Uruguay.