Crynodeb

  • Ail gêm Cymru yng Ngrŵp B Cwpan y Byd Qatar 2022

  • Iran wedi cael y bêl yn y rhwyd yn gynnar, ond camsefyll yn rhoi dihangfa i Gymru

  • Y gwrthwynebwyr hefyd wedi taro'r postyn ddwywaith ar ddechrau'r ail hanner

  • Wayne Hennessey wedi cael cerdyn coch gyda phum munud i fynd

  • Cheshmi a Rezaeian yna'n rhwydo dwy gôl yn y munudau olaf i Iran

  • Cymru nawr angen trechu Lloegr i gael unrhyw obaith o fynd trwodd i'r 16 olaf

  1. Bale yn tanio'r dorfwedi ei gyhoeddi 11:27 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Mae Gareth Bale newydd chwifio ei freichiau tuag at gefnogwyr Cymru i’w hannog nhw i wneud mwy o sŵn, ac maen nhw’n ymateb efo "Viva Gareth Bale".

    Mae’r awyrgylch yn dechrau ffrwtian rŵan…

    BaleFfynhonnell y llun, Reuters
  2. Ai Johnson a James ydy'r allwedd i Gymru?wedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae ôl-asgellwyr Iran wedi bod yn egnïol iawn ac ymosodol iawn.

    Ond rŵan mae ganddyn nhw ddau asgellwr naturiol yn eu herbyn yn Johnson a James.

    Ydy hynny'n golygu eu bod nhw am orfod mynd yn fwy amddiffynnol efo'r pump yn y cefn?

  3. 'Angen taflu popeth at y gêm'wedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Owain Tudur Jones
    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    Grêt gweld y newidiadau'n digwydd yn gynnar - mi oedd angen hynny.

    Roedd y momentwm yn mynd i ffwrdd o Gymru, roedden ni'n edrych yn fflat, yn ofnus os rhywbeth.

    Bydd y newidiadau yma'n trawsnewid y ffordd 'dan ni'n chwarae, gobeithio am y gorau.

    Mewn gêm lle mae'n rhaid i ni ennill, mae'n rhaid taflu popeth ati - a dyna fydd James a Johnson yn dod i'r gêm.

  4. Mwy o berygl i Gymruwedi ei gyhoeddi 61 mun

    Moment o berygl eto i Gymru.

    Ampadu yn disgyn a Taremi yn cael rhwydd hynt i redeg ymlaen.

    Roedd angen amddiffyn cydwybodol gan Dan James i atal cyfle i Iran.

    Yr ymosodiad nesaf i Iran, ac Ampadu sy'n gwneud ei waith yn dda ac yn cyrraedd yn ôl mewn pryd.

    Cornel i Iran.

  5. Esgus i ddod a phawb at ei gilyddwedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Emma Williams, 39 - pennaeth marchnata yn Hodge Bank, Caerdydd

    "Mae pawb wedi bod yn gweithio mas o'r swyddfa ers amser felly ma' hwn yn teimlo fel esgus go iawn i ddod a phawb gyda'i gilydd."

    Disgrifiad,

    Esgus i ddod a phawb at ei gilydd

  6. 'Rhaid i Gymru gyflymu'wedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Dyna ddau sefyllfa lle'r oedd Cymru'n rhy araf i stopio'r croesiad - a 'naethon ni siarad am hwnna nos Lun.

    Union yr un peth fan hyn - mae angen cyrraedd y chwaraewyr yn gyflymach.

    Yr un peth gyda'r ergyd y tu allan i'r cwrt yn bwrw'r postyn, mae'n rhaid cau e lawr yn gyflymach.

  7. Fydd lwc yn ddigon i Gymru?wedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Weithiau pan mae 'na ddigwyddiad fel yna - y tîm ti'n chwarae yn ei erbyn yn taro'r postyn ddwywaith o fewn eiliadau - ti'n cael y teimlad mai heddiw fydd ein diwrnod ni.

    Ond dydw i ddim yn cael y teimlad yna heddiw!

    All y ddau eilydd yma ddim dod i'r maes yn ddigon buan.

    JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Johnson a James ymlaenwedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Mae Rob Page wedi gweld digon.

    Brennan Johnson a Daniel James ymlaen.

    Connor Roberts a Harry Wilson yn gadael y cae.

    Mae'n debyg y gwelwn ni newid yn y system nawr.

  9. Mwy o amddiffyn arwrol gan Gymruwedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Capten Iran, Hajsafi, yn ergydio o ochr y cwrt, ac amddiffyn arwrol gan Gymru i gadw pethau'n ddi-sgor.

  10. 'Dilyn y bêl, nid y chwaraewyr?'wedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Yn yr ergyd gynta' 'na i'r postyn mae'n rhaid canmol y gwaith gan Joe Rodon.

    Falle o'dd Cymru allan o safle yn y lle cynta', ond just y cyffyrddiad bach reit ar y diwedd - a digon o amser i Gymru ail-drefnu.

    Falle'n euog o ddilyn y bêl, nid dilyn y chwaraewyr?

  11. 'Iran mor anlwcus'wedi ei gyhoeddi 11:15 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Maen nhw'n ailgylchu'r bêl, yn rhy gyflym, yn rhy siarp i Gymru.

    Mae Iran mor anlwcus eu bod nhw dal yn gyfartal.

    "Fydd Iran methu credu eu bod nhw heb sgorio'n fanna," ychwanegodd Kath Morgan.

  12. Iran yn taro'r postyn ddwywaith!wedi ei gyhoeddi 51 mun

    Azmoun gyntaf, un yn erbyn un gyda Hennessey, ond mae'n taro'r postyn dde!

    Y bêl yn dod allan, ac ail ergyd Iran yn crymanu heibio golwr Cymru, ond yn taro'r postyn chwith!

    Dihangfa arall i Gymru!

  13. Pasio llac etowedi ei gyhoeddi 49 mun

    Rhagor o basio llac gan Gymru ar ddechrau'r ail hanner.

    Ramsey i ddechrau yn ildio'r meddiant ger ei gwrt ei hun, ac yna Roberts ddim yn ddigon cywir pan mae'n cael y bêl mewn ardal dda ar yr asgell dde.

    Pa dîm fydd yn gallu cael gafael ar y gêm yma?

  14. 'Iran sydd wedi bod yn rheoli'wedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    S'dim dwywaith amdani, dydy be' ni wedi gweld yn yr hanner cyntaf ddim digon da.

    Fflachiadau o waith da, ond i fi, Iran sydd wedi rheoli'r gêm yma.

    Dyw gêm gyfartal neu golled ddim am ein helpu ni symud ymlaen yn y twrnament.

  15. Ymlaen i'r ail hanner!wedi ei gyhoeddi 45 mun

    I ffwrdd â ni unwaith eto - dim newidiadau i'r timau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Gêm arall i'r eilyddion?wedi ei gyhoeddi 11:05 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Owain Tudur Jones
    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    Noson o'r blaen, Kieffer Moore yn dod ymlaen - o'dd o'n gêm i'r eilydd.

    Mae hon yn mynd i fod yn gêm i'r eilyddion hefyd.

    Brennan Johnson, Dan James - Joe Allen o bosib.

    Mae hon yn mynd i fod yn hanner enfawr i Gymru.

  17. 'Dyma ydy bod mewn Cwpan y Byd'wedi ei gyhoeddi 11:05 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Owain Tudur Jones
    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    Dyma ydy pêl-droed rhyngwladol - gymaint â 'dan ni ddim yn mwynhau sut mae'n 'neud i ni deimlo ar adegau, pan 'dan ni ddim yn gweld Cymru'n sgorio lot o goliau.

    Dyma ydy bod mewn Cwpan y Byd, lle mae pob gwlad yn gystadleuol.

    Dwi'n meddwl bod y ffaith y gwnaeth Iran ildio chwe gôl nos Lun wedi gwneud i bobl feddwl, 'mae hon yn mynd i fod yn hawdd'.

    'Di o ddim yn mynd i fod yn hawdd.

  18. Sut le oedd Cymru a'r byd yn 1958?wedi ei gyhoeddi 11:04 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Wrth i ni aros i'r chwarae ail-ddechrau, beth am edrych yn ôl ar y tro diwethaf i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd.

    Mae 1958 yn flwyddyn bwysig yng nghof cefnogwyr pêl-droed Cymru.

    Ond faint ohonom sydd yn cofio sut le oedd Cymru a'r byd yn 1958?

    Mwy yma: Sut le oedd Cymru a'r byd yn 1958?

    Pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Brasil a Pelé yn rownd yr wyth olaf yn 1958Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Brasil a Pelé yn rownd yr wyth olaf yn 1958

  19. Rhwystredigaeth ymysg y cefnogwyrwedi ei gyhoeddi 11:03 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Ychydig iawn o ganu gan gefnogwyr Cymru yn yr hanner cyntaf - un gytgan o Yma o Hyd oedd yr agosa’ gafwyd at gael yr eisteddle gyfan yn canu.

    Eto mae ‘na rwystredigaeth gyda’r perfformiad hanner cyntaf, er nad ydyn ni ar ei hôl hi y tro yma.

    Iran sydd wedi edrych fwyaf peryglus yn ymosodol.

    Mae eilyddion Cymru i gyd allan yn cynhesu i fyny yn ystod yr egwyl, gan gynnwys Joe Allen.

    CefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Cwestiwn i QatAr y Marc?wedi ei gyhoeddi 11:01 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter