Crynodeb

  • Ail gêm Cymru yng Ngrŵp B Cwpan y Byd Qatar 2022

  • Iran wedi cael y bêl yn y rhwyd yn gynnar, ond camsefyll yn rhoi dihangfa i Gymru

  • Y gwrthwynebwyr hefyd wedi taro'r postyn ddwywaith ar ddechrau'r ail hanner

  • Wayne Hennessey wedi cael cerdyn coch gyda phum munud i fynd

  • Cheshmi a Rezaeian yna'n rhwydo dwy gôl yn y munudau olaf i Iran

  • Cymru nawr angen trechu Lloegr i gael unrhyw obaith o fynd trwodd i'r 16 olaf

  1. Bloeddio'r anthemwedi ei gyhoeddi 09:57 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Roedd Hen Wlad Fy Nhadau'n cael ei bloeddio gan y Wal Goch fel yr afer yna.

    Yn wahanol i gêm Lloegr, mae chwaraewyr Iran yn canu eu hanthem nhw heddiw.

    Ond tipyn o gefnogwyr yn y stadiwm yn chwibanu a bwio wrth iddyn nhw wneud.

    Fans
  2. Y foment fawr wedi cyrraeddwedi ei gyhoeddi 09:54 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Dyma ni felly, mae'r chwaraewyr allan ar y cae, a'r anthemau fydd nesaf.

  3. 'Rhaid bod yn amyneddgar gyda Bale'wedi ei gyhoeddi 09:52 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Cafodd Gareth Bale gêm eitha' sâl nos Lun a bod yn onest.

    O'n i just wedi dweud bod angen i Bale ddod oddi ar y cae ac wedyn mae'n ennill a sgorio cic o'r smotyn i ni!

    'Neith e gyfrannu faint mae'n gallu - ni ddim yn siŵr beth yw ei gyflwr corfforol e.

    Ond y gwir yw, weithiau mae'n rhaid derbyn bod ei gyfraniad e yn anhygoel, ac efallai bod rhaid bod yn amyneddgar nes iddo greu rhyw fath o hud ar y cae.

    BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Mae'r chwaraewyr yn y twnnel, a'r baneri mawr ar y caewedi ei gyhoeddi 09:51 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

  5. Brecwast, peint a sgrîn dda yn Nhregannawedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Dydy hi'n sicr ddim mor gynnes yng Nghaerdydd, ond mae'r awyrgylch yn adeiladu yma hefyd!

    Cefnogwyr Cymru yn ymgynnull yng Nghaerdydd ben bore
    Disgrifiad o’r llun,

    Cefnogwyr Cymru yn ymgynnull yng Nghaerdydd ben bore

  6. Yr awyrgylch tu allan i'r stadiwmwedi ei gyhoeddi 09:48 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Mae'r awyrgylch yn adeiladu yn Doha, a dipyn o sŵn tu allan i'r stadiwm cyn y gêm!

    Mae'r mannequins papur yna bron mor dal â Kieffer Moore!

    Disgrifiad,

    Sŵn tu fas y stadiwm

  7. Pwysigrwydd Moore yn 'hollol amlwg'wedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Owain Tudur Jones
    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    Mae pwysigrwydd Kieffer Moore ers iddo fo dorri mewn i’r tîm yn hollol amlwg.

    Allan o feddiant – fo ydy’r un sy’n rhoi pwysau ar y bêl.

    'Dan ni hefyd isio ei weld o yn y cwrt cosbi – mi neith o daro’r rhwyd, mae o’n gymaint o fygythiad.

  8. 15 munud i fynd - ydych chi'n barod?!wedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

  9. Cefnogwyr Cymru yn llygad yr haulwedi ei gyhoeddi 09:42 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Mae’r haul bellach wedi dod 'rownd yn Stadiwm Ahmad bin Ali, a chefnogwyr Cymru reit yn ei llygad hi.

    Felly gobeithio eu bod nhw i gyd wedi cofio eu hetiau bwced!

    CefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
    CefnogwyrFfynhonnell y llun, PA Media
  10. Laura McAllister i mewn gyda'i het enfyswedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Ail gêm - gobeithio 'tanio'wedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    O'n i wedi dweud, efallai 'dan ni 'di dechrau'n wael.

    Ond os chi’n edrych yn ôl i Ewro 2016, Ewro diwetha', yr ail gêm ‘naethon ni danio – a gobeithio bydd heddiw yr un peth.

    Mae'r gêm ar ddechrau'r dydd, syth mewn - a gobeithio cael dechrau da.

  12. 'Rhaid i Gymru ddechrau'n sydyn'wedi ei gyhoeddi 09:35 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Owain Tudur Jones
    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    Bydd angen sbarc ychwanegol ar y tîm wrth herio Iran yn eitha' cynnar yn y dydd heddiw.

    Pan mae 'na gêm yn dechrau’n gynnar, yn aml iawn mae’r egni’n isel.

    Mae o fyny i Rob Page i 'neud yn siŵr fod y neges yn glir: Sgenna ni ddim hanner cyntaf i dyfu fewn i’r gêm, mae’n rhaid dechrau’n sydyn.

  13. Disgwyl llawer gwell gan Iranwedi ei gyhoeddi 09:33 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae Iran yn mynd i ymateb i'r perfformiad ofnadwy 'na, ac i fod yn deg dydy o ddim yn adlewyrchiad iawn ohonyn nhw fel tîm yn fy marn i.

    Am hanner awr 'naethon nhw gadw Lloegr yn ddistaw cyn iddyn nhw golli eu golwr profiadol.

    Edrychwch ar eu record nhw - yr 20 gêm cyn honno, dwy oeddan nhw 'di golli, ennill 15, a heb ildio mewn 13.

    Maen nhw'n dîm llawer gwell na be' 'naethon nhw ddangos ar y diwrnod.

    CefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Ian Rush: 'Mae'n rhaid i chi deimlo yn hyderus'wedi ei gyhoeddi 09:31 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Ian Rush, cyn-chwaraewr i Gymru fu'n rhannu geiriau doeth ar BBC Breakfast:

    “Mae’n rhaid i chi deimlo yn hyderus, roedd yr ail hanner yn erbyn UDA yn berfformiad grêt.

    “Dwi’n edrych ymlaen, mae’r kick off am 13:00 ac mae hi am fod yn 29 i 30 gradd, felly gobeithio y bydd y system oeri aer yn effeithiol yn y stadiwm.

    “Yn 1958 aethom ni i’r chwarteri, gobeithio gallwn ni wneud yr un fath eto, ond mae ein chwaraewyr ni, beth maen nhw wedi ei wneud drwy chwarae yng Nghwpan y Byd ydy rhoi Cymru ar fap y byd.

    “Mae pobl yn y Dwyrain Canol a’r Dwyrain Pell yn gwybod bellach nad Cymru ydy Lloegr, rydym yn genedl ein hunain ac mae hynny’n rhywbeth i ymfalchio ynddo.”

    Ian Rush
  15. Cefnogwyr Iran yn ffyddiogwedi ei gyhoeddi 09:29 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Mae Sam a Sassan yn byw yn Llundain ond mae ganddyn nhw deulu o Iran, ac felly fe fyddan nhw’n cefnogi gwrthwynebwyr Cymru heddiw.

    Yn ôl Sam bydd Iran yn ennill 1-0, ond cyfartal 1-1 yw darogan Sassan.

    Sam a Sassan
  16. Diogelwch llawer yn fwy llym heddiwwedi ei gyhoeddi 09:28 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Mae nifer o gefnogwyr wedi cadarnhau fod y swyddogion diogelwch wedi bod llawer yn fwy llym heddiw nag oedden nhw yn ystod gêm UDA.

    Mae fflagiau oedd yn rhy fawr ymhlith y pethau gafodd eu cymryd oddi ar gefnogwyr, gyda bagiau hefyd yn cael eu harchwilio’n llawer mwy trylwyr heddiw.

    ‘Dan ni ar ddeall bod hynny’n rhannol oherwydd mai Iran ydy’r gwrthwynebwyr, a’r awdurdodau felly’n awyddus i sicrhau nad oes unrhyw ddeunydd sy’n cefnogi’r protestiadau yno yn canfod eu ffordd i mewn i’r stadiwm.

    Cefnogwyr
  17. Am olygfa!wedi ei gyhoeddi 09:26 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Mae'r gic gyntaf yn agosáu...wedi ei gyhoeddi 09:25 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Newidiadau i dîm Iranwedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022
    Newydd dorri

    Mae 'na sawl newid i dîm Iran ar gyfer y gêm - dydy'r golwr Alireza Beiranvand ddim yn chwarae yn dilyn y cyfergyd a gafodd yn erbyn Lloegr - Hossein Hosseini fydd yn y gôl.

    Mae Sadegh Moharrami a Sardar Azmoun hefyd wedi eu cynnwys heddiw, gydag Iran yn mynd am dîm sy'n fwy ymosodol na wnaethon nhw yn erbyn y Saeson.

    Iran: Hosseini, Hajsafi, Mohammadi, Ezatolahi, Pouraliganji, Taremi, Gholizadeh, Hosseini, Azmoun, Nourollahi, Rezaeian.

    Beiranvand
  20. Dim Brennan Johnson yn 'rhwystredig'wedi ei gyhoeddi 09:22 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Fi bach yn rhwystredig a bod yn onest - o'n i'n meddwl bod Brennan Johnson yn haeddu lle i ddechrau'r gêm yma.

    Mae Harry Wilson falle â bach i brofi heddiw 'ma.

    BrennanFfynhonnell y llun, Getty Images