Crynodeb

  1. Beth sydd yn y fantol heno?wedi ei gyhoeddi 22:55 GMT+1 23 Hydref

    Dyma'r pumed isetholiad i'r Senedd ers dechrau datganoli yn 1999, a gydag etholiad y flwyddyn nesaf ar y gorwel dyma'r mwyaf arwyddocaol.

    Mae Caerffili wedi bod yn gadarnle i Lafur ers dros ganrif, gyda'r blaid yn ennill yma ym mhob etholiad i San Steffan ers sefydlu'r etholaeth yn 1918, ac ym mhob etholiad i Fae Caerdydd.

    Cyfran Caerffili hanesyddol

    Ond mae'n ymddangos mai Plaid Cymru a Reform sydd fwyaf hyderus yma heno.

    Pe bai Llafur yn colli heno, byddai hynny'n gadael Llywodraeth Lafur Cymru ddwy bleidlais yn brin o fwyafrif yn Senedd Cymru, gan ei gwneud hi'n anoddach i'r llywodraeth basio'i chyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

    O ganlyniad, byddai dod i gytundeb gydag unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn Senedd Cymru - fel wnaeth y llywodraeth eleni i basio'i chynlluniau gwario - ddim yn ddigon.

  2. Caerffili'n 'ganolbwynt y byd gwleidyddol' henowedi ei gyhoeddi 22:45 GMT+1 23 Hydref

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Os am dystiolaeth bod canolfan hamdden Caerffili yn ganolbwynt y byd gwleidyddol heno, 'drychwch ar yr holl gamerâu a gohebwyr sydd yma o'r sianeli teledu.

    caerffili
  3. A fydd ail-gyfri?wedi ei gyhoeddi 22:43 GMT+1 23 Hydref

    Mae tîm BBC Cymru wedi bod yn siarad gyda ffynonellau Plaid Cymru a Reform, sydd yn darogan y bydd y canlyniad yn agos.

    Fe soniodd un ffynhonnell am ail-gyfri posib.

    Er hyn, dim ond newydd ddecrhrau mae’r cyfri', ac fe allai’r dyfalu yma fod ar sail yr wythnosau diwethaf o ymgyrchu.

  4. Datganiad Llafur 'ddim yn llawn hyder'wedi ei gyhoeddi 22:36 GMT+1 23 Hydref

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Dyw ffynonellau Llafur ddim yn disgwyl ennill yma heno. Fe fyddai dod yn drydydd, tu ôl i Reform a Phlaid Cymru, yn ergyd drom i Eluned Morgan, a Keir Starmer.

    Fe wnaeth Llafur gyhoeddi datganiad i’r wasg ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau – a dyw e ddim yn ddatganiad sy’n llawn hyder.

    “Mae wedi bod yn ymgyrch anodd i’r blaid am nifer o resymau,” meddai.

    Ar lefel ddynol, allwch chi ddeall pam maen nhw’n dweud hynny. Doedd neb moyn ymladd isetholiad dan amgylchiadau mor drist yn dilyn marwolaeth sydyn Hefin David, fis Awst.

  5. 'Ymgyrch anodd' meddai Llafurwedi ei gyhoeddi 22:32 GMT+1 23 Hydref

    Ar ôl i'r blychau pleidleisio gau, dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Hoffai Llafur Cymru ddiolch i bawb a ddaeth allan i gefnogi ein hymgyrch a phleidleisio dros Richard Tunnicliffe heddiw.

    "Roedd Hefin David wrth ei fodd â'r etholaeth hon a'i phobl. Mae wedi bod wrth wraidd ein hymgyrch drwyddi draw.

    "Mae hon wedi bod yn ymgyrch anodd i'r blaid am amrywiaeth o resymau, ond rydym yn falch o'r hyn y mae ein staff a'n gwirfoddolwyr wedi'i gyflawni dros y chwe wythnos diwethaf ac wedi ymrwymo i barhau i ymladd dros Gaerffili a'r Cymoedd."

    Richard TunnicliffeFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Richard Tunnicliffe yw ymgeisydd Llafur

  6. Pam bod isetholiad yng Nghaerffili?wedi ei gyhoeddi 22:26 GMT+1 23 Hydref

    Roedd y bleidlais heddiw wedi ei chynnal yn dilyn marwolaeth Hefin David, oedd wedi cynrychioli Caerffili yn Senedd Cymru ers 2016.

    Fe fydd pwy bynnag sy'n ennill heno yn cymryd y sedd honno ym Mae Caerdydd.

    Ond gan fod etholiad i'r Senedd gyfan ym mis Mai y flwyddyn nesaf, fe fydd rhaid i'r buddugwr fynd drwy'r broses yma i gyd eto ymhen rhai misoedd.

    Mae'n bwysig dweud na fydd etholaeth Caerffili yn aros yr un fath ar gyfer yr etholiad yn 2026 - gan ddod yn rhan o etholaeth fwy Blaenau Gwent Caerffili Rhymni.

    Fe allwch chi ddarllen mwy am y newidiadau a'r etholaethau newydd yma.

    Hefin DavidFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu farw Hefin David ym mis Awst eleni

  7. Mae'r pleidleisiau cyntaf wedi cyrraedd y cyfri' yng Nghaerffiliwedi ei gyhoeddi 22:16 GMT+1 23 Hydref

    Disgrifiad,

    Mae'r blwch pleidleisio cyntaf wedi cyrraedd Caerffili

  8. Pwy ydy'r ymgeiswyr?wedi ei gyhoeddi 22:09 GMT+1 23 Hydref

    Felly mae'r blychau pleidleisio bellach wedi cau, ac mae disgwyl cadarnhad o'r aelod newydd yn oriau man y bore.

    I'ch atgoffa chi, roedd wyth o ymgeiswyr ar y papurau pleidleisio heddiw:

    • Democratiaid Rhyddfrydol: Steve Aicheler
    • Gwlad: Anthony Cook
    • Y Blaid Werdd: Gareth Hughes
    • Ceidwadwyr: Gareth Potter
    • Reform UK: Llyr Powell
    • UKIP: Roger Quilliam
    • Llafur: Richard Tunnicliffe
    • Plaid Cymru: Lindsay Whittle

    Fe allwch chi ddarllen mwy am bob un a chrynodeb o'u haddewidion yma.

    Holl ymgeiswyr
  9. Llafur 'yn disgwyl' colli'r isetholiadwedi ei gyhoeddi 22:01 GMT+1 23 Hydref

    Wrth i'r blychau pleidleisio gau, mae sawl ffynhonnell o'r Blaid Llafur wedi dweud wrth BBC Cymru y bydd y blaid yn colli isetholiad Caerffili.

    Dywedodd un ffynhonnell y byddai'r golled yn "ergyd i Starmeriaeth nid i'r prif weinidog Eluned Morgan", gyda Ms Morgan wedi bod yn gymharol boblogaidd ar y stepen ddrws.

    Ond rhybuddiodd y ffynhonnell fod angen i'r prif weinidog "hawlio ei hun" a gwahaniaethu Llafur Cymru gymaint â phosibl oddi wrth blaid y DU yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad nesaf.

    Mae disgwyl i Aelodau Senedd Llafur gynnal cyfarfod fore Gwener.

  10. Noswaith ddawedi ei gyhoeddi 21:55 GMT+1 23 Hydref

    Croeso at ein llif byw arbennig wrth i'r blychau pleidleisio gau yn isetholiad Caerffili.

    Fe gewch chi'r diweddara' o'r cyfri' yng Nghaerffili yma gydol y nos, felly arhoswch gyda ni.

    Cyfri Caerffili