Crynodeb

  1. Pwy sy'n fwy hyderus?wedi ei gyhoeddi 00:58 GMT+1 24 Hydref

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    'Da ni wedi clywed gan gynrychiolwyr o Blaid Cymru a Reform eu bod yn teimlo'n bositif am y cyfri'.

    Ond pwy sy'n fwy hyderus?

    Bydden i'n dweud, ar hyn o bryd, Plaid Cymru. Mi allai hynny newid, wrth gwrs. Ond mae'u hymgeisydd nhw, Lindsay Whittle, yn dweud bod pethau'n edrych yn "bositif iawn".

    Mae ymgeisydd Reform, Llŷr Powell, yma hefyd. Mae pobl yn ei blaid yn dweud bod e'n "dynn".

  2. 'Ry' ni'n gwneud yn dda' - Lindsay Whittlewedi ei gyhoeddi 00:54 GMT+1 24 Hydref

    Dywedodd Lindsay Whittle, ymgeisydd Plaid Cymru, wrth y BBC ei fod yn teimlo'n "llawn bywiogrwydd, ac ry' ni'n gwneud yn dda".

    "Ry' ni wedi edrych ar y blychau hyd yn hyn ac ry' ni'n cael ein calonogi," meddai.

    "Mae'n agos iawn."

    Ychwanegodd fod pleidlais Llafur wedi "diflannu'n llwyr".

    Lindsay Whittle
  3. 'Reform yw'r blaid dros newid'wedi ei gyhoeddi 00:50 GMT+1 24 Hydref

    Mae Jason O'Connell, Cynghorydd Reform yn Nhorfaen, yn dweud y gallai canlyniad yr isetholiad roi "egni" i'r blaid cyn etholiad llawn y Senedd flwyddyn nesaf.

    "Mae’n addo bod yn flwyddyn fawr i Gymru gyfan a ry’ ni eisiau chwarae rhan yn hynny.

    "Mae heno yn rhoi cipolwg i ni ar sut mae’r wlad yn teimlo ac wrth gwrs ry' ni wedi rhoi lot o ymdrech tu ôl i'r ymgyrch 'ma.

    "Y neges ry’ ni wedi bod yn rhoi yw mai ni yw’r blaid dros newid."

    Jason O'Conell
  4. Pwy ydy'r swyddog canlyniadau?wedi ei gyhoeddi 00:42 GMT+1 24 Hydref

    Mae'r broses yn symud ymlaen yng Nghaerffili, wrth i ni gael cadarnhad o'r niferoedd sydd wedi pleidleisio.

    Y person sy'n gyfrifol am y cyfan heno ydy swyddog canlyniadau'r isetholiad, Ed Edmunds, a gafodd ei benodi'n brif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Ionawr.

    Cyhoeddi'r canlyniad yw un o'r tasgau olaf, ar ôl sicrhau y cafodd yr etholiad ei weinyddu'n effeithiol.

    Mae dros 50 o bobl wrthi'n cyfri'r pleidleisiau heno.

    Mae gan Mr Edmunds dros 30 mlynedd o brofiad ym maes llywodraeth leol ac mae wedi gweithio i Gyngor Caerffili am y chwe blynedd diwethaf, gan arwain rhan allweddol o’r sefydliad fel cyfarwyddwr addysg a gwasanaethau corfforaethol.

    Roedd un o'r ymgeiswyr heno, Lindsay Whittle o Blaid Cymru, yn arweinydd Cyngor Caerffili o 1999 i 2004 a 2008 i 2011.

    Ed EdmundsFfynhonnell y llun, Cyngor Caerffili
    Disgrifiad o’r llun,

    Ed Edmunds

  5. Beth ddigwyddodd yn isetholiad 1968?wedi ei gyhoeddi 00:36 GMT+1 24 Hydref

    Yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol Llafur, Ness Edwards, yn 1968 cynhaliwyd isetholiad yn yr etholaeth.

    Yn 1966 fe enillodd Edwards gyda mwyafrif o 21,148 - 74.3% o’r bleidlais.

    Yn yr isetholiad fe wnaeth Llafur ddal ymlaen i’r sedd, gydag Alfred Evans yn cael ei ethol i San Steffan. Ond fe gwtogwyd mantais Llafur i 1,874, gyda Phil Williams o Blaid Cymru yn yr ail safle.

  6. Pan ddaeth Plaid yn agos i ennill yn '68wedi ei gyhoeddi 00:33 GMT+1 24 Hydref

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Roedd ‘na isetholiad diddorol i San Steffan yng Nghaerffili yn 1968 pan wnaeth Plaid Cymru ddod yn agos at guro Llafur.

    Yn amlwg maen nhw moyn ennill y tro hwn, ond mae pobl o fewn Plaid Cymru wedi dweud wrtha i na fyddai’n drychineb iddyn nhw ddod yn ail i Reform.

    O leiaf byddai hynny’n galluogi iddyn nhw ddweud mai dim ond Plaid Cymru all stopio Reform rhag ennill yr etholiad llawn flwyddyn nesaf a bod pleidlais i Lafur yn wastraff.

    Efallai bod ‘na rywfaint o wirionedd i’r ddadl yna, ond fe fyddai ennill Caerffili ar ôl yr holl flynyddoedd hir o ymgyrchu yn yr ardal yn werthfawr iawn i Blaid Cymru.

  7. Plaid Cymru wedi gwneud yn 'eithriadol o dda'wedi ei gyhoeddi 00:24 GMT+1 24 Hydref

    Mae'r Aelod o'r Senedd a dirprwy arweinydd Plaid Cymru, Delyth Jewell, yn y cyfri' heno, ac fe gafodd hi air efo Daniel Davies.

  8. 'Agos iawn'wedi ei gyhoeddi 00:21 GMT+1 24 Hydref

    Gareth Lewis
    Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Dau air sy'n cael eu dweud dro ar ôl tro... "agos iawn".

    Mae aelodau o Blaid Cymru a Reform yn dweud y bydd hi'n agos iawn rhwng y ddwy blaid.

    Ond does 'na ddim dwywaith yma fod y Blaid Lafur heb ennill.

  9. 33,736 wedi pleidleisio - 50.43%wedi ei gyhoeddi 00:17 GMT+1 24 Hydref

    33,736 ydy'r nifer sydd wedi pleidleisio heddiw, neu 50.43% o etholwyr cymwys.

    Dyma'r ganran uchaf sydd wedi pleidleisio mewn etholiad ar lefel datganoledig Cymreig erioed.

    Disgrifiad,

    Mwy na hanner o'r etholaeth wedi pleidleisio

  10. Y Ceidwadwyr i golli blaendal?wedi ei gyhoeddi 00:13 GMT+1 24 Hydref

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Efallai bod Peter Fox yn teimlo'n hyderus yn ei blaid, ond mae aelod arall o'r blaid yn llai positif wrth siarad gyda Daniel Davies:

    "Maen edrych yn wael i Lafur, ond beth am y Ceidwadwyr? Daeth y Ceidwadwyr yn drydydd yng Nghaerffili yn 2021... ond 'Allen ni golli ein blaendal,' meddai un Tori wrtha' i."

  11. Noson hir o'n blaenau?wedi ei gyhoeddi 00:06 GMT+1 24 Hydref

    Yn ôl Peter Fox AS o'r Blaid Geidwadol mae'r Torïaid yn "hyderus" ac mewn lle da fel plaid. "Rydym wedi cael ymgyrch dda, yma yng Nghaerffili.

    "Er ry' ni’n gwybod dyw Caerffili ddim yn dir naturiol i ni ond mae Gareth Potter wedi bod yn gweithio'n galed bob dydd." Ond fe ddywedodd bod heno yn "ras dau geffyl".

    "Wrth edrych ar bobl yn sgorio mae'n agos iawn rhwng Plaid a Reform.

    "Efallai ein bod ni mewn tir o ail-gyfri' felly peidiwch â disgwyl mynd adre'n rhy gynnar."

    Peter Fox AS
  12. Diwrnod 'hanesyddol' i Gymru - Zia Yusufwedi ei gyhoeddi 23:58 GMT+1 23 Hydref

    Mae pennaeth polisi Reform UK, Zia Yusuf, sydd yng Nghaerffili, wedi dweud ei fod yn ddiwrnod "hanesyddol" i Gymru.

    Wrth siarad â GB News dywedodd ei fod yn "foment fawr" i blaid Reform wrth iddi frwydro yn erbyn Plaid Cymru yn yr etholaeth.

    "Bydd y Blaid Lafur a'r Blaid Dorïaidd, y ddwy hen blaid fawr sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth y DU, yn ei chael hi'n anodd cael hyd yn oed chwarter o gyfran y bleidlais heddiw," ychwanegodd.

    Honnodd y byddai colli'r sedd yn "drychineb" i Lafur.

    Zia YusufFfynhonnell y llun, Reuters
  13. 'Llafur ydw i, ond rwy'n rhoi fy mhleidlais i Blaid Cymru'wedi ei gyhoeddi 23:51 GMT+1 23 Hydref

    Rydyn ni wedi clywed mwy gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies, sydd yng Nghaerffili heno.

    Dywedodd wrth y BBC fod pleidleiswyr wedi bod yn dweud wrtho ar garreg y drws: "Llafur ydw i, ond rwy'n rhoi fy mhleidlais i Blaid Cymru oherwydd nad wyf am i Reform ennill."

    Mae Mr Irranca-Davies yn mynnu y gallai'r blaid weld yr "arolygon barn yn symud" o blaid Llafur erbyn etholiad y Senedd ym mis Mai.

    Ond ychwanegodd y byddai gorffen yn y drydydd safle yng Nghaerffili yn "ergyd wirioneddol i ni".

  14. Sut le yw etholaeth Caerffili?wedi ei gyhoeddi 23:45 GMT+1 23 Hydref

    Yn ogystal â'r dref sy'n rhoi ei henw i'r etholaeth - Caerffili - mae'r ardal yn cynnwys Machen i'r dwyrain, Abertridwr i'r gorllewin ac Ystrad Mynach a Nelson i'r gogledd.

    Mae'r dref yn enwog am ei chastell - y mwyaf yng Nghymru - ac yn ôl cyfrifiad 2021 roedd ei phoblogaeth yn tua 33,000.

    Ymysg yr enwogion sydd wedi dod o'r ardal mae'r comedïwr Tommy Cooper, capten pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey a'r ddawnswraig Amy Dowden.

    caerphillyFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Daniel Davies yw'n gohebydd ni yn y cyfri' henowedi ei gyhoeddi 23:37 GMT+1 23 Hydref

  16. Mewnfudo'n hawlio sylw yn ystod yr ymgyrchwedi ei gyhoeddi 23:28 GMT+1 23 Hydref

    Teleri Glyn Jones
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae Huw Irranca Davies wedi dweud bod penawdau'r newyddion wedi effeithio ar y sgyrsiau gydag etholwyr yn ystod yr ymgyrch.

    Pan oeddwn i allan yn siarad â phobl, roedd pobl wirioneddol yn bryderus am fewnfudo.

    Ond roedd cymaint o bobl hefyd yn dweud eu bod nhw'n wirioneddol bryderus dros dôn y ddadl, eu bod nhw'n bryderus am fewnfudo ond nid oherwydd bod mudo yn broblem iddyn nhw, ond oherwydd eu bod nhw'n gweld y ffordd y mae'n rhannu cymunedau.

    Mae gan y pleidiau gwaith i’w gwneud i ddod â chymunedau yn ôl at ei gilydd ar ôl hyn.

  17. Arolygon barn 'yn cyfrannu at ymgyrch anodd Llafur'wedi ei gyhoeddi 23:21 GMT+1 23 Hydref

    Mae James Williams yn gofyn i'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca Davies, os ydy Llafur wedi colli'r sedd?

    Yn ôl Mr Davies, "dydyn nhw ddim yn gwybod eto, ond mae wedi bod yn ymgyrch anodd", meddai.

    "Mae'n ddiddorol sut mae'r arolygon barn yn cyfrannu at hyn hefyd.

    "Pan mae'r arolygon yn dweud diwrnod ar ôl diwrnod eich bod chi'n cael eich gwasgu allan a mai Plaid a Reform yw'r rhai sy'n cystadlu yna mae hynny’n effeithio ar y sgyrsiau sy'n digwydd ar stepen y drws hefyd," meddai.

    huw irranca
  18. Rhai ym Mhlaid Cymru yn 'dechrau teimlo'n hyderus'wedi ei gyhoeddi 23:15 GMT+1 23 Hydref

    Mae gohebydd BBC Cymru yn y cyfrif wedi siarad ag ambell un a fu'n weithgar dros Blaid Cymru sy'n "dechrau teimlo'n hyderus" ynglŷn â sut mae'r cyfrif yn mynd rhagddo.

    Ond mae'n gynnar iawn!

    Lindsay Whittle
  19. 'Dim disgwyl i Lafur ennill'wedi ei gyhoeddi 23:07 GMT+1 23 Hydref

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Dwi heb siarad ag unrhyw un sy'n disgwyl i Lafur ennill - gan gynnwys aelodau o'r Blaid Lafur. Ond wrth i’r cyfri' ddechrau maen rhy gynnar i ddweud os taw Plaid Cymru neu Refrom UK sydd ar y blaen.

    Ymhlith y pynciau trafod yng nghanolfan hamdden Caerffili mae'r dyfalu am nifer y pleidleiswyr – a’r effaith y gallai hwnna gael ar y canlyniad.

    Tua 44% oedd y ganran wnaeth droi mas yn yr etholiad diwethaf yn 2021, ond mae’r ganran yn tueddu fod yn is mewn isetholiadau.

    I ryw raddau, mae isetholiad yn brawf o ba mor effeithiol ydy’r pleidiau wrth gael eu cefnogwyr allan i’r gorsafoedd pleidleisio. Fe fydd hynny’n hollbwysig os ydy hon yn gystadleuaeth agos.

    cyfriFfynhonnell y llun, Mark Lewis
  20. Niferoedd uchel yn pleidleisio yn arwydd da i Reform?wedi ei gyhoeddi 23:01 GMT+1 23 Hydref

    Yn ymuno a'n gohebwyr gwleidyddol James Williams a Teleri Glyn Jones ar lif byw o'r cyfri, mae Ruth Mosalski, Golygydd Gwleidyddol Wales Onlines.

    Dywedodd: Gallai'r canlyniad ddod i lawr i'r nifer sy'n pleidleisio – dydyn ni erioed wedi cael dros 50% mewn etholiad cenedlaethol.

    Os ydy'r nifer sy'n pleidleisio yn uchel, fe allai hynny olygu bod Reform wedi ennill y pleidleiswyr.

    Lauren McEvatt

    Mae yna ddamcaniaeth fawr ymysg academyddion bod Reform yn mynd i wneud yn dda bod y bobl sy'n pleidleisio am y tro cyntaf yn mynd i bleidleisio drostyn nhw, sydd yn amlwg yn arwain at y nifer yn codi.

    Ond ar yr un pryd, fe allai pleidleiswyr yr ochr chwith geisio atal hynny, sydd hefyd yn arwain at nifer uchel yn troi allan.

    Cyfran