Dynes mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei tharo gan gar

  • Cyhoeddwyd
Heol CasnewyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Heol Casnewydd, Caerdydd

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddynes gael ei hanafu'n ddifrifol yng Nghaerdydd nos Fercher.

Cafodd dynes 29 oed ei tharo wrth gerdded ger Gwesty Lynx ar Heol Casnewydd tua 23:15.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 27 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.

Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un welodd y digwyddiad.