2019 mewn lluniau

  • Cyhoeddwyd

O bencampwriaethau i briodasau, paentio waliau a phleidleisio; mae 2019 wedi bod yn flwyddyn llawn digwyddiadau yng Nghymru. Ymysg y gwyliau, y gorymdeithiau a'r golygfeydd anhygoel, ry'n ni wedi bod yn dathlu ac yn galaru.

Dyma gasgliad o rai o'r lluniau - a'r straeon - mwyaf cofiadwy o'r flwyddyn a fu.

line
Y wawr yn torri dros fynyddoedd EryriFfynhonnell y llun, Llion Griffiths

Croesawodd Cymru'r flwyddyn newydd gyda golygfeydd gaeafol dros y wlad. Syrthiodd eira dros nos yn rhai o ardaloedd uchaf Cymru gyda rhew yn achosi trafferthion ar rai ffyrdd a rhai ysgolion wedi cau.

Emma, Tracey ac Adam yn yr ysbyty

Croeso gwresog i'r byd oedd i'r babi bach yma ar ddechrau'r flwyddyn.

Dyw Tracey Smith ddim yn gallu rhoi genedigaeth ei hun, ond fe gytunodd Emma, mam Tracey, i gario'r babi ar ei rhan. Cafodd Evie Siân Emma Smith ei geni ar 16 Ionawr.

"Oedd pobl yn dweud 'ti'n rhy hen'... ond chi'n mynd i helpu'ch plentyn 'da beth bynnag sy' isie arnyn nhw," meddai Emma ar y pryd.

Stadiwm Dinas CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Teyrngedau lu i'r pêl-droediwr Emiliano Sala tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd. Roedd Sala wedi arwyddo gyda'r Adar Gleision ac ar ei ffordd i ddechrau hyfforddi gyda'i dîm newydd pan ddiflannodd yr awyren oedd yn ei gludo ef a'r peilot David Ibbotson o Nantes i Gaerdydd.

Cymru'n dathluFfynhonnell y llun, Getty Images

Chwaraewyr Cymru yn mwynhau'r dathlu ar ôl sicrhau'r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019.

Ci defaid yn yr eiraFfynhonnell y llun, Meirion Jones

Beth yw hyn? Eira ym mis Ebrill! Ar ôl cyfnod o dywydd braf, deffrodd rhannau o Gymru i flanced o eira yn ystod wythnos gyntaf Ebrill. Ac yn Ninas Mawddwy, roedd Meirion Jones a'i gi yn ceisio cadw'n gynnes wrth helpu gyda'r wyna ar fferm ei deulu.

Cofiwch Dryweryn wall damaged near AberywstwthFfynhonnell y llun, @jezb

Pan ddifrodwyd y gofeb answyddogol i Dryweryn ym mis Ebrill, yr ymateb gan nifer o bobl yng Nghymru oedd i fynd ati i greu mwy o sloganau mewn undod â'r un gwreiddiol. Roedd adroddiadau o'r graffiti yn cael ei weld mewn bron i hanner cant o leoliadau gwahanol.

Uchafbwynt i Henry: Paragleidio gyda AmyFfynhonnell y llun, Amy Jones

I 'ffwr' â ni! Treuliodd Henry, y ci sy'n paragleidio, a'i berchennog, Amy, rhan go dda o 2019 lan fry yn yr awyr dros Gymru.

Huw EdwardsFfynhonnell y llun, Huw Edwards

Ond ar y ddaear mae pawennau Mot, ci ffyddlon y newyddiadurwr Huw Edwards.

Hei Mistar Urdd! Disgyblion Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd wedi dod i'r maes yn eu coch, gwyn a gwyrdd

Hei Mistar Urdd! Roedd yna lawer o hwyl i'w gael ar faes Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro.

MerlodFfynhonnell y llun, S4C/Sian Roderick

Roedd y merlod gwyllt yma i weld yn gwneud y mwyaf o heulwen mis Mai wrth iddyn nhw garlamu tuag at Fynyddoedd Cambria. Mae'r llun yn dangos gre o ferlod Cymreig wrth iddynt ddychwelyd i dir uchel ardal yr Elenydd ar ôl gaeaf o bori ar dir isel.

Bydd y merlod yn ymddangos ar DRYCH S4C yn gynnar yn 2020.

Roedd Manon Steffan Ros 'wedi mopio' ar ôl ennill tair gwobr am ei nofel 'post-apocalyptic', Llyfr Glas NeboFfynhonnell y llun, Iestyn Hughes

Roedd hi'n flwyddyn i'w chofio i'r awdur Manon Steffan Ros a oedd 'wedi mopio' ar ôl ennill tair gwobr yn seremoni Llyfr Y Flwyddyn am ei nofel Llyfr Glas Nebo.

Caryl Parry Jones a'r bandFfynhonnell y llun, Sioned Birchall

Roedd tu fewn i furiau Castell Caerdydd yn fwrlwm wrth i Caryl Parry Jones a'r band gloi gŵyl Tafwyl yn y brifddinas eleni.

LlynFfynhonnell y llun, Richard Outram

Dyma'r olygfa odidog ger Llyn y Dywarchen yn Eryri wrth i'r haul godi ar ddiwrnod hirddydd haf.

rali Caernarfon

Ym mis Mehefin, heidiodd miloedd o bobl i Gaernarfon i gymryd rhan mewn gormydaith yn galw am annibyniaeth i Gymru. Daeth miloedd o bobl ynghyd mewn ralis tebyg hefyd yng Nghaerdydd ac ym Merthyr Tudful yn ystod y flwyddyn.

Dafydd Iwan a'r Tywysog CharlesFfynhonnell y llun, S4C

Fe wnaeth yr ymgyrchydd iaith, Dafydd Iwan, fu'n protestio yn erbyn yr Arwisgiad Brenhinol ym 1969, gyfarfod â'r Tywysog Charles am y tro cyntaf union 50 mlynedd i ddiwrnod y seremoni Arwisgo yng Nghaernarfon.

"Rwy'n weriniaethwr o hyd, fydda i byth yn frenhinwr, ond mae gan Charles a minnau fwy yn gyffredin nag oeddwn yn ei dybio," meddai Dafydd Iwan.

Fe wnaeth y ddau gwrdd yn breifat fel rhan o raglen ddogfen yn edrych yn ôl ar y digwyddiad Brenhinol yng Nghastell Caernarfon 50 mlynedd yn ôl.

Arwel a Bethan Edwards

Roedd Sioe Frenhinol 2019 yn un hynod gofiadwy i Arwel a Bethan Edwards. Nhw oedd y cwpwl cyntaf erioed i briodi ar faes y sioe yn ystod wythnos y sioe ei hun. Roedd yr achlysur yn nodi'r canfed sioe yn Llanelwedd.

Bryn Terfel

Llongyfarchiadau i'r canwr opera Bryn Terfel a'r delynores Hannah Stone wnaeth hefyd briodi ym mis Gorffennaf.

Clwb Mynydda CymruFfynhonnell y llun, Clwb Mynydda Cymru

Bu Clwb Mynydda Cymru yn dathlu'r deugain eleni ac ymysg oriel o rai o anturiaethau'r clwb ledled Cymru a thu hwnt dyma lun o daith mwy diweddar yn 2018, gydag adlewyrchiad o'r criw yn sbectol y ffotograffydd, Stephen Williams.

Ash Dykes gyda'r ddraig goch yn ystod ei daith i lawr y YangtzeFfynhonnell y llun, Ash Dykes

Anturiaethwr arall fu'n dathlu oedd Ash Dykes a gwblhaodd y daith 4,000 o filltiroedd ar hyd yr afon Yangtze yn China ar ei ben ei hun - y cyntaf erioed i wneud hynny.

criw yn mwynhau shipFfynhonnell y llun, ffotonant

O'r dwyrain pell i Ddolgellau, ac roedd y criw yma yn amlwg wrth eu boddau gyda pherfformiad Candelas ar nos Wener y Sesiwn Fawr.

Da iawn dad! Y bardd buddugol Guto Dafydd gyda'i blant Nedw a Casi // So proud! Nedw and Casi with their father, winning bard Guto DafyddFfynhonnell y llun, Ffotonant
Maes B

Bu'n rhaid gwagio Maes B a'r maes pebyll ieuenctid ar ddiwedd wythnos yr Eisteddfod eleni oherwydd y tywydd garw.

NeidioFfynhonnell y llun, SPORTPICTURESCYMRU

Er gwaetha'r tirwedd heriol, roedd digon o hwyl i'w gael wrth redeg Marathon Eryri. Cymerodd bron i 2,500 o redwyr ran yn y ras a oedd yn cychwyn wrth droed Yr Wyddfa yn Llanberis.

Warren GatlandFfynhonnell y llun, Lynne Cameron

Hwyl fawr Gats, y "Kiwi â chanddo dân, ac adenydd draig". Ar ôl bron i 12 mlynedd a dros 120 o gemau wrth y llyw, gan gynnwys gêm gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd 2019, fe wnaeth Warren Gatland arwain tîm rygbi Cymru am y tro olaf eleni.

Cymru yn dathlu cyrraedd Euro 2020Ffynhonnell y llun, Getty Images

Doedd dim amheuaeth am flaenoriaethau Gareth Bale wrth i dîm pêl-droed Cymru sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol pencampwriaeth Euro 2020. Ymlaen at Baku!

Yr un machlud, ond yng Nghaerfyrddin - a'r olygfa tu allan i swyddfa Carwyn Tywyn uwchben yr Afon Tywi yng NghaerfyrddinFfynhonnell y llun, Carwyn Tywyn

Welsoch chi'r machlud rhyfeddol ddechrau Rhagfyr? Yng Nghaerfyrddin, dyma oedd yr olygfa tu allan i swyddfa Carwyn Tywyn uwchben yr Afon Tywi.

Twm y ci yn Eglwys Santes Tudful, yn LlyswyrnyFfynhonnell y llun, Esyllt Sears

Aeth Twm y ci, a'i berchennog Esyllt Sears, i bleidleisio yn Eglwys Santes Tudful, yn Llyswyrny yn ystod yr Etholiad Cyffredinol - y cyntaf i gael ei gynnal ym mis Rhagfyr ers 1923.

Hefyd o ddiddordeb: