Elan Closs Stephens ar Awdurdod S4C
- Cyhoeddwyd
Mae Elan Closs Stephens wedi ymuno ag Awdurdod S4C wedi i Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan ei phenodi.
Bydd yr Athro Emeritws Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC yng Nghymru yn cychwyn ei swydd yn syth ac yn mynd i'w chyfarfod cyntaf ddydd Iau.
Mae'r penodiad yn sgil y cytundeb rhwng Awdurdod S4C, Ymddiriedolaeth y BBC a'r adran am gyllido, llywodraethu ac atebolrwydd S4C hyd at 2017.
Ei rôl yw bod yn gyfrwng cyfathrebu rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C.
Annibyniaeth
Y nod yw sicrhau bod annibyniaeth olygyddol a gweithredol S4C yn cael ei gwarchod a sicrhau atebolrwydd priodol i Ymddiriedolaeth y BBC yn achos arian y ffi trwydded fydd yn cael ei wario gan y sianel.
Dywedodd yr Athro Stephens, oedd yn gadeirydd Awdurdod S4C rhwng 1998 a 2006: "Rwy' wrth fy modd yn dychwelyd i Awdurdod S4C.
"Fy mhrif flaenoriaeth fydd helpu sicrhau bod S4C yn darparu'r gwasanaeth teledu gorau posib i siaradwyr Cymraeg, gwarchod annibyniaeth olygyddol S4C tra'n gofalu bod arian ffi'r drwydded yn cael ei wario'n ddoeth.
'Cynulleidfaoedd'
"Rwy'n benderfynol fod perthynas gwaith agosach rhwng BBC Cymru ac S4C yn arwain at ail-fuddsoddi arbedion mewn rhaglenni o ansawdd uchel er budd cynulleidfaoedd.
"Fy ngobaith hefyd yw y bydd y bartneriaeth yn arwain at danio brwdfrydedd a chefnogi creadigrwydd yn y cyfryngau Cymreig."
Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: " Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfraniad allweddol Elan i'w wneud yn y broses o greu partneriaeth newydd effeithiol rhwng S4C a'r BBC."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd1 Mai 2012
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2011