Geraint Jarman: Cofio'r dyn ei hun

- Cyhoeddwyd
Nos Iau cafodd digwyddiad arbennig ei gynnal ym Mae Caerdydd i gofio am fywyd a gyrfa Geraint Jarman, a fu farw fis Mawrth eleni.
Fel canwr a chyfansoddwr yr oedd Jarman yn fwyaf adnabyddus, ond roedd y noson yma'n gyfle i gofio ei gyfraniad fel actor, cyflwynydd a chynhyrchydd.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth ag Archif Ddarlledu Cymru, a'r enw ar y noson oedd 'Geraint Jarman: Cofio'r dyn ei hun'.
Dyma'r hyn oedd gan rai oedd yno i'w ddweud am Geraint Jarman, wrth gofio am ei ddylanwad hynod ar ddiwylliant poblogaidd Cymru.
Nia Caron

Dywedodd Nia Caron, gwraig Geraint Jarman, fod pethau "dal yn galed" ers ei golli
"Doeddan ni methu credu bod nhw isio gwneud y noson, ac wrth gwrs ni'n gorfod cofio bod ni'n gorfod rhannu Geraint gyda'r genedl.
"Dim jest tad a gŵr oedd e. Mi roedd e'n rhan o fywyd nifer fawr o bobl.
"Ni'n gwybod o'dd e'n golygu lot fawr i nifer, ac mae'r noson yma wedi bod yn sbesial iawn i glywed am bobol yn siarad amdano fe. Bydde fe wedi bod wrth ei fodd.
"Mae hi dal yn galed. Dim ond ym mis Mawrth gollon ni fe.
"Ma' popeth yn newydd a chi'n gorfod cyfarwyddo hwnna. Ma' unrhyw un sy'n galaru yn gwybod beth yw'r teimlad 'na.
"Rhaid cofio bod bywyd yn mynd yn ei flaen ac mae gennym ni'r caneuon a'r farddoniaeth i wrando arno, felly rwy'n berson lwcus iawn, iawn.
"Ni'n genedl sy'n mynd i elwa lot fawr o wrando ar Geraint Jarman yn y dyfodol."
Dafydd Rhys

Roedd Dafydd Rhys, prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ffrind ac yn gyd-weithwr i Geraint Jarman ac yn siarad amdano fel rhan o'r noson
"Mae'n anrhydedd cael dweud gair am Geraint heno. Mi oedd o'n ddyn arbennig iawn, o'dd ei dalentau yn amryddawn iawn.
"O'dd o'n brofiad hapus iawn cael cyd-weithio hefo Geraint. O'dd o'n ddyn hoffus iawn ag mi roedden ni'n chwerthin lot.
"Bydda i'n cofio fo fel artist arbennig.
"Ma' pobl yn sôn yn aml mai fo oedd llais SuperTed - y superhero yma gyda phwerau - ac mi oedd o yn superhero diwylliannol.
"Ond mi fydda i yn cofio fo fel ffrind cynnes da a'r person mwyaf creadigol ges i'r anrhydedd o weithio gydag erioed."
Dr Rhodri Llwyd Morgan

Dr Rhodri Llwyd Morgan ydy prif weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru
"Pan ddaeth Fideo 9 ar y sgrin yn nyddiau weddol gynnar S4C a rhoi i ni gerddoriaeth gyfoes a fresh, 'naeth o chwalu fy mhen i.
"Mae fy nyled i i Geraint Jarman a Fideo 9, am orfodi fi brynu gitâr a dechrau chwarae mewn band Cymraeg.
"Mi roedd o'n eicon gydag edrychiad arbennig iawn.
"Mi oedd o'n ffigwr amlwg ar lwyfan ond hefyd yn ffigwr tu ôl camera wnaeth helpu meithrin diwylliant poblogaidd."
Lisa Gwilym

Y cyflwynydd Lisa Gwilym oedd yn arwain y noson yng Nghanolfan y Mileniwm
"Ges i'r pleser o'i holi fo'n dwll yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Roedden ni'n cael sgyrsiau gwych. Sgyrsiau fydda i'n eu trysori.
"O'dd o'n dod ar y rhaglen ag roedden ni'n mynd o dan groen yr albwms newydd ac roeddwn i wir yn teimlo fel fy mod i wedi gwneud ffrind. O'dd o'n berthynas oedd yn golygu'r byd i mi.
"O'dd Tracsiwt Gwyrdd yn rhan fawr o'n harddegau i ac wedyn wrth gwrs cael y fraint o'i ddod i 'nabod o.
"Mi roedd o'n arwr, yn ffigwr chwedlonol sydd jest 'di bod mor gynhyrchiol a rhyddhau gymaint o albwms.
"O'dd o mor ddiymhongar, o'dd o mor wylaidd ag eto mor dalentog.
"O'dd o werth y byd yn grwn, ac mae 'na hiraeth mawr am Geraint Jarman."
Sue Roderick

Roedd yr actor Sue Roderick wedi gweithio gyda Geraint Jarman, ac yn siarad yn y noson
"O'dd pawb yn 'nabod o fel cerddor ac fel bardd, ond fel actor o'n i'n ei 'nabod o.
"Er mai gyrfa fer iawn gafodd o fel actor, o'n i'n ffodus iawn o gael gwneud Glas y Dorlan hefo fo.
"O'dd Geraint yn foi annwyl iawn ond roedd 'na lot o chwerthin, ac o'ddan ni'n licio cael laugh.
"Dwi'n cofio fo'n berson serchus iawn, yn berson annwyl iawn, ac yn barod iawn i wrando ar bob dim ac isio gwybod bob dim."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth

- Cyhoeddwyd13 Mawrth
